Neidio i'r cynnwys

Dinasoedd yr Alban

Oddi ar Wicipedia

Mae gan yr Alban wyth dinas. Caeredin yw prifddinas yr Alban a Glasgow yw'r fwyaf poblog. Rhoddwyd statws bwrdeistrefi neu fwrdeistref frenhinol i drefi'r Alban gan frenhinoedd yr Alban, gan gynnwys gan Dafydd II, brenin yr Alban a William y Llew. Mae statws dinas wedi'i roi yn ddiweddarach trwy siarter brenhinol a llythyrau patent. Mae’r Alban wedi ennill dinasoedd newydd ers y flwyddyn 2000 drwy gynigion a gyflwynwyd i ennill statws dinas fel rhan o jiwbilî’r frenhines Brydeinig sy’n teyrnasu neu ar gyfer digwyddiadau eraill, megis dathliadau’r mileniwm. Dunfermline yw'r diweddaraf i ennill statws dinas.

Rhestr dinasoedd yr Alban

[golygu | golygu cod]
Enw yn Gymraeg [1] Enw yn Gaeleg yr Alban Ffugenw [1] Ardal y Cyngor Blwyddyn a roddwyd neu a gadarnhawyd Eglwys hanesyddol Poblogaeth [1]
Caeredin Dùn Èideann Auld Reekie Dinas Caeredin
  • O ~1124 fel bwrdeistref frenhinol[2]
  • 1633 fel dinas[3]

Eglwys Gadeiriol San Silyn

Sefydlwyd y 12g.

495,360
Glasgow Glaschu Annwyl Le Gwyrdd Dinas Glasgow 1175 (siarter bwrdeistref)[4] [5]

Eglwys Sant Ioan

Sefydlwyd yn 1126.

598,830
Dundee Dùn Dè Dinas Darganfod Dinas Dundee 1889[6]

Eglwys Gadeiriol Sant Machar

Sefydlwyd yn 580 gydag eglwys gadeiriol wedi'i hadeiladu ym 1131.

150,000
Aberdeen Obar Dheathain Y Ddinas Gwenithfaen Dinas Aberdeen 1891[7]

Hen Eglwys Uchel San Steffan

Sefydlwyd yn y 12g.[8]

197,000
Inverness Inbhir Nis Prifddinas yr Ucheldiroedd Ucheldir 2000[9]
Eglwys Gadeiriol Dunblane

Rhan hynaf sydd wedi goroesi o 1100.

47,000
Perth Peairt Y Ddinas Deg Perth a Kinross 9fed ganrif i 1975 ac eto yn 2012[10]

Abaty Dunfermline

Sefydlwyd yn 1128.

50,000
Stirling Sruighlea Porth i'r Ucheldiroedd Stirling 2002[11]

Eglwys Gadeiriol Glasgow

Defnyddiwyd eglwys Sant Mungo yn y 7fed ganrif. Adeiladwyd yr eglwys gadeiriol ym 1136.

37,000
Dunfermline Dùn Phàrlain Y Brifddinas Hynafol Fife 2022[12]

Eglwys y Plwyf Dundee (Sant Mari).

Fe'i sefydlwyd ym 1190 gan Dafydd, Iarll Huntingdon.

54,990

Statws dinas

[golygu | golygu cod]

Perth oedd y prifddinas o'r 9g tan1437.[13] Gwnaed yn bwrdeistref brenhinol gan Dafydd I, brenin yr Alban ~1124.[14] Crewyd Perth yn ddinas rhydd a bwrdeistref brenhinol yn siarter aur Iago VI yn 1600.[15] Roedd yn swyddogol yn ail ddinas yr Alban tan 1975 pan tynnwyd statws dinas oddi arno pan aildrefnwyd llywodraeth leol. Ailennillodd y statws yn 2012.[13]

Cydnabuwyd Caeredin fel bwrdeistref frenhinol o ~1124, a gyflwynwyd gan David I o'r Alban fel rhan o'i ffiwdaleiddio ar ôl esgyn fel brenin ym 1124.[16] Fe'i gwnaed yn ddinas yn 1633 gan Siarl I o Loegr.[17]

Cydnabuwyd Glasgow yn 1175 a'i wneud yn fwrdeistref mewn siarter gan William y Llew.[18][19] Ym 1476, cadarnhaodd Siarter Iago III o'r Alban "y Ddinas a'r Farwniaeth mewn teyrnasiad rhydd".[20]

Rhoddwyd statws bwrdeistref frenhinol i Aberdeen gan y Brenin Dafydd o'r Alban (1124 - 1153).[21] Mae'n debyg y cafodd ei gwneud yn fwrdeistref frenhinol gan y Brenin William y Llew yn 1179.[22] Ym 1891 rhoddwyd statws dinas i Dundee trwy lythyrau patent.[23][24]

Crëwyd Dundee yn fwrdeistref frenhinol ym ~1191 gan William y Llew.[25] Yna rhoddwyd statws dinas i Dundee trwy lythyrau patent gan y Frenhines Victoria ym 1889. Roedd y Siarter yn adrodd siarteri blaenorol a roddwyd i Dundee gan gynnwys y cadarnhad gan Robert y Bruce ym 1327, a William y Llew tua 1191.[26][27]

Gwnaethpwyd Inverness yn fwrdeistref frenhinol gan y Brenin Dafydd I.[28][29] Yn 2000, dyfarnwyd statws dinas i Inverness.[30]

Daeth Stirling yn fwrdeistref frenhinol yn ~1124.[14] Yn 2002 fe ddaeth yn ddinas.[31]

Gwnaethpwyd Dunfermline hefyd yn fwrdeistref frenhinol ym ~1124 gan David I o'r Alban.[14] Yn 2022 fe ddaeth yn ddinas mwyaf newydd yr Alban.[21]

Ceisiadau diweddar

[golygu | golygu cod]
Eglwys Gadeiriol Sant Andreas

Ym 1999, gwnaeth Ayr, Inverness, Paisley a Stirling gais am statws dinas a bu Inverness yn llwyddiannus yn 2000.[32]

Yn 2001, gwnaeth Ayr, Dumfries, Paisley a Stirling gais am statws dinas.[33] Roedd Stirling yn llwyddiannus yn 2002.[31]

Yn 2012, Perth oedd yr unig gais o'r Alban am statws dinas ac roedd yn llwyddiannus.[34]

Cyflwynodd Dumfries, Dunfermline, Elgin, Greenock, Livingston, Oban, St Andrews a Swydd De Ayr geisiadau am statws dinas yn 2021.[35] Roedd Dunfermline yn llwyddiannus yn 2022.[21]


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Scottish Cities | Scotland.org". Scotland (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-29.
  2. "Royal Burgh - 900th Anniversary Working Group - Proposal".
  3. "The entertainment of the high and mighty monarch Charles King of Great Britaine, France, and Ireland, into his auncient and royall city of Edinburgh, the fifteenth of Iune, 1633". quod.lib.umich.edu. Cyrchwyd 2023-10-29.
  4. "Charters and Documents relating to the City of Glasgow 1175-1649 | British History Online". www.british-history.ac.uk. Cyrchwyd 2023-10-29.
  5. "Council leader says Glasgow's 850th anniversary is opportunity to bring city together". Yahoo News (yn Saesneg). 2023-10-28. Cyrchwyd 2023-10-29.
  6. Beckett, John (2017-07-05). City Status in the British Isles, 1830–2002 (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 17. ISBN 978-1-351-95126-5.
  7. "Search Results". archives.aberdeencity.gov.uk. Cyrchwyd 2023-10-29.
  8. Murphy, Alan (2014-04-10). Scotland Highlands & Islands Footprint Handbook (yn Saesneg). Footprint Travel Guides. t. 170. ISBN 978-1-909268-62-3.
  9. "Inverness awarded city status" (yn Saesneg). 2000-12-18. Cyrchwyd 2023-10-29.
  10. "Perth wins Diamond Jubilee contest to be named seventh Scottish city". BBC News (yn Saesneg). 2012-03-14. Cyrchwyd 2023-10-29.
  11. "Stirling elevated to city status" (yn Saesneg). 2002-03-14. Cyrchwyd 2023-10-29.
  12. Council, Fife (2022-05-20). "Dunfermline granted City status by Queen". www.fife.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-29.
  13. 13.0 13.1 "Perth wins Diamond Jubilee contest to be named seventh Scottish city". BBC News (yn Saesneg). 2012-03-14. Cyrchwyd 2023-10-29.
  14. 14.0 14.1 14.2 Marshall, Jennifer (2015-06-10). "First Burgh Charter" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-30.
  15. Charter by King James VI. in Favour of the Town of Perth. Dated 15th November 1600. And a Translation.
  16. "Royal Burgh - 900th Anniversary Working Group - Proposal".
  17. "The entertainment of the high and mighty monarch Charles King of Great Britaine, France, and Ireland, into his auncient and royall city of Edinburgh, the fifteenth of Iune, 1633". quod.lib.umich.edu. Cyrchwyd 2023-10-29.
  18. "Charters and Documents relating to the City of Glasgow 1175-1649 | British History Online". www.british-history.ac.uk. Cyrchwyd 2023-10-29.
  19. "Council leader says Glasgow's 850th anniversary is opportunity to bring city together". Yahoo News (yn Saesneg). 2023-10-28. Cyrchwyd 2023-10-29.
  20. "XXXII: Charter of James III confirming the City and Barony in free regality (1476) | British History Online". www.british-history.ac.uk. Cyrchwyd 2023-10-30.
  21. 21.0 21.1 21.2 "Search Results". archives.aberdeencity.gov.uk. Cyrchwyd 2023-10-30.
  22. Kennedy, William (1818). Annals of Aberdeen, from the reign of king William the lion (yn Saesneg). t. 8.
  23. Beckett, John (2017-07-05). City Status in the British Isles, 1830–2002 (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 17. ISBN 978-1-351-95126-5.
  24. "Search Results". archives.aberdeencity.gov.uk. Cyrchwyd 2023-10-29.
  25. Urquhart, Robert Mackenzie (1973). Scottish Burgh and County Heraldry (yn Saesneg). Gale Research Company. t. 46. ISBN 978-0-8103-2005-5.
  26. Beckett, John (2017-07-05). City Status in the British Isles, 1830–2002 (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 17. ISBN 978-1-351-95126-5.
  27. "CITY of DUNDEE" (PDF).
  28. The County Histories of Scotland (yn Saesneg). W. Blackwood and Sons. 1897. t. 18.
  29. Murphy, Alan (2014-04-10). Scotland Highlands & Islands Footprint Handbook (yn Saesneg). Footprint Travel Guides. t. 167. ISBN 978-1-909268-62-3.
  30. "Inverness awarded city status" (yn Saesneg). 2000-12-18. Cyrchwyd 2023-10-29.
  31. 31.0 31.1 "Stirling elevated to city status" (yn Saesneg). 2002-03-14. Cyrchwyd 2023-10-29.
  32. "MILLENNIUM CITY STATUS COMPETITION - WINNING CITIES ANNOUNCED". www.wired-gov.net. Cyrchwyd 2023-10-29.
  33. "Four bids for city status" (yn Saesneg). 2001-10-13. Cyrchwyd 2023-10-29.
  34. "Results of Diamond Jubilee Civic Honours Competition announced". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-29.
  35. "Queen's Platinum Jubilee: Eight parts of Scotland seek city status". BBC News (yn Saesneg). 2021-12-23. Cyrchwyd 2023-10-29.