Derec Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Derec Williams
Ganwyd Tachwedd 1949 Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Mai 2014 Edit this on Wikidata (64 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Am y darlledwr, gweler Deryk Williams

Athro ac un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn oedd Derec Williams (Tachwedd 194927 Mai 2014).

Fe'i ganwyd yn Amlwch, Ynys Môn a bu'n byw yn Llanuwchllyn ger Y Bala ers blynyddoedd. Bu Derec yn athro mathemateg yn Llanidloes ac yn Ysgol y Berwyn, Y Bala. Sefydlodd Theatr Maldwyn gyda ei ffrind, y prifardd Penri Roberts a Linda Gittins, yn 1981.

Bu farw yn sydyn yn 2014 gan adael ei wraig Ann a thri o blant - Branwen, Meilir ac Osian.[1]

Mae ei blant wedi dilyn trywydd cerddorol hefyd. Bu'r tri yn cydweithio i ysgrifennu, cyfansoddi a chyfarwyddo sioe ieuenctid Dyma Fi i'w berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Meirionnydd 2014 ond gohiriwyd y perfformiad oherwydd marwolaeth eu tad. Mae Branwen ac Osian yn aelodau o Siddi, Candelas a Cowbois Rhos Botwnnog, a Meilir yn actor a chanwr.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Teyrngedau i Derec Williams sydd wedi marw yn 64 oed , BBC Cymru, 28 Mai 2014. Cyrchwyd ar 24 Mai 2016.
  2. 'Yn y gwaed' , BBC Cymru, 9 Mai 2014. Cyrchwyd ar 24 Mai 2016.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.