Croes Cwrlwys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Croes Cwrlwys

Un o faesdrefi dinas Caerdydd yw Croes Cwrlwys (Saesneg: Culverhouse Cross). Saif i'r gorllewin o ganol y ddinas, ger cyffordd y priffyrdd A48, A4232 ac A4050, ac ar y ffîn rhwng Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae yn nghymuned Gwenfô. Yma mae pencadlys ITV Wales, a cheir nifer o barciau masnach yma.

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr enw Saesneg Culverhouse Cross a ddaeth yn gyntaf. Ystyr culverhouse yw colomendy, o'r Hen Saesneg culfre (sef colomen) a house. Enw fferm oedd hwn, a cheir cofnodion o'r enw Culverhouse (1533, 1654–55), Culver House (1636, 1761) a Culferhouse (1813–14). Roedd croesffordd yn ymylu ar dir y fferm hon, lle croesai'r ffordd o Sain Ffagan i Wenfô y briffordd o Gaerdydd i'r Bont-faen. Enw'r fan hon oedd The Crossway ar ddiwedd yr 17eg ganrif, a cheir cofnod o'r enw Cymraeg Croesheol ym 1762. Erbyn 1885 cyfunodd y ddwy elfen gan roi'r enw Culverhouse Cross. Ar lafar, cafodd yr enw Culverhouse ei Gymreigio'n "cwrlwys". Ceir cyfeiriad at Bedair Erw'r Cwrlwys a Dwy Erw'r Cwrlwys mewn les o 1786 ac at y fferm Cwrlwys mewn dogfen arall o 1776. Yn ôl Gwynedd O. Pierce bu trawsosodiad cytseiniaid i ddechrau gan droi -l-r yn -r-l, a cholli sillaf yr un pryd, i roi'r ffurf dalfyredig cwrl-. Aeth house yn -(h)ws ac yna'n -wys. Gwelir y ffurf Curlass ar fap Emanuel Bowen o Dde Cymru ym 1729, sy'n adlewyrchu ynganiad Cymraeg llafar yr enw.[1]

Erbyn heddiw mae'r groesffordd wedi datblygu'n gymhlethdod o ffyrdd sy'n arwain i bob cyfeiriad, a cheir strydoedd o dai yn lle'r hen fferm, rhyw ychydig i'r de o Ysgol Uwchradd Glan Elái.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen. Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t. 12.


Cymunedau Caerdydd

Adamsdown | Caerau | Castell | Cathays | Cyncoed | Yr Eglwys Newydd | Gabalfa | Glan'rafon | Grangetown | Llandaf | Llanisien | Llanrhymni | Llys-faen | Y Mynydd Bychan | Pentref Llaneirwg | Pen-twyn | Pen-tyrch | Pen-y-lan | Plasnewydd | Pontprennau | Radur a Threforgan | Rhiwbeina | Y Rhath | Sain Ffagan | Y Sblot | Tre-Biwt | Tredelerch | Treganna | Trelái | Tongwynlais | Trowbridge | Tyllgoed | Ystum Taf

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato