Crefydd yn Wsbecistan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Crefyddau Wsbecistan (2004)
Crefyddau canran
Islam
  
88%
Uniongrededd Dwyreiniol
  
9%
Arall
  
3%

Yn ôl Mynegai Byd-eang WIN-Gallup International ar bwnc crefyddoldeb ac anffyddiaeth yn 2012,mae 79% o drigolion Wsbecistan a gymerodd ran yn yr arolwg yn ystyried eu hunain yn grefyddol a 18% yn nodi eu bod naill ai ddim yn grefyddol neu'n anffyddwyr argyhoeddedig, a 3% wedi dewis peidio ymateb.[1]

Ar 1 Mehefin 2010 roedd 2 225 o sefydliadau crefyddol wedi eu cofrestru yn y wlad, o 16 o grefyddau neu enwadau gwahanol:[2]

Eglwysi, ysgolion crefyddol, a chanolfannau crefyddol Nifer
1 Islam 2 050
2 Eglwys Gristnogol Corea 52
3 Eglwys Uniongred Rwsia 37
4 Bedyddwyr 23
5 Pentecostiaeth 21
6 Adfentyddion y Seithfed Dydd 10
7 Iddewiaeth 8
8 Bahá'í 6
9 Yr Eglwys Gatholig Rufeinig 5
10 Yr Eglwys Apostolaidd Newydd 4
11 Lwtheriaeth 2
12 Eglwys Apostolaidd Armenia 2
13 Tystion Jehofa 1
14 Hare Crishna 1
15 Bwdhaeth 1
16 Eglwys Llais Duw 1
17 Cymdeithas y Beibl[3] 1

Y cyfnod Sofietaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Anffyddiaeth wladwriaethol oedd polisi swyddogol yr Undeb Sofietaidd a gwledydd MarcsaiddLeninaidd eraill. Defnyddiodd yr Undeb Sofietaidd y gair gosateizm, sef talfyriad o "wladwriaeth" (gosudarstvo) ac "anffyddiaeth" (ateizm), i gyfeirio at y polisi o ddifeddiannu eiddo oddi ar grwpiau crefyddol, cyhoeddi propaganda gwrth-grefyddol, ac hyrwyddo anffyddiaeth yn y system addysg. Erbyn diwedd y 1980au, llwyddodd yr awdurdodau Sofietaidd i gwtogi crefydd yn Wsbecistan drwy gael gwared ar ei harwyddion allanol: cau mosgiau a madrasas, gwahardd testunau a llenyddiaeth grefyddol, ac atal arweinwyr crefyddol a chynulleidfaoedd nas caniateir gan y llywodraeth.[4]

Ers annibyniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Datganai Erthygl 61 yng nghyfansoddiad Wsbecistan taw gwladwriaeth seciwlar yw'r wlad a bod sefydliadau crefyddol wedi eu gwahanu oddi ar y wladwriaeth ac yn gyfartal o flaen y gyfraith. Nid oes gan y wladwriaeth yr hawl i ymyrryd mewn arferion cymdeithasau crefyddol.[5] Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd yn y 1990au cynnar, dechreuodd grwpiau mawr o genhadon Islamaidd, yn bennaf o Sawdi Arabia a Thwrci, daenu syniadau Swffi ac Wahabi yn y wlad. Ym 1992, yn nhref Namangan, meddiannwyd adeilad llywodraethol gan Fwslimiaid radicalaidd oedd wedi eu haddysgu mewn prifysgolion yn Sawdi Arabia, ac yn mynnu bod yr Arlywydd Karimov yn datgan gwladwriaeth Islamaidd yn Wsbecistan ac yn cyflwyno sharia yn system gyfreithiol. Gorchfygwyd y gwrthryfel gan y llywodraeth, a bu'n rhaid i'r arweinwyr Islamaidd ffoi i Affganistan a Phacistan. Yn 1992 a 1993, cafodd tua 50 o genhadon o Sawdi Arabia eu halltudio o'r wlad. Bu'n rhaid i'r cenhadon Swffi hefyd roi terfyn ar eu gweithgareddau yn y wlad.[6]

Islam[golygu | golygu cod y dudalen]

Trigai mwy o Fwslimiaid Sunni yn y wlad na Shia. Daethpwyd Islam i hynafiaid yr Wsbeciaid yn ystod yr 8g gan oresgyniadau'r Arabiaid yng Nghanolbarth Asia. Enillodd Islam droedle yn ne Tyrcestan a lledaenodd yn raddol tua'r gogledd.[7] Yn y 14g, cododd Timur nifer o adeiladau crefyddol, gan gynnwys Mosg Bibi-Khanym. Adeiladodd hefyd feddrod Ahmed Yesevi, Swffi Tyrcig dylanwadol a daenodd Swffïaeth ymhlith y nomadiaid. Taenwyd hefyd Islam ymhlith yr Wsbeciaid yn sgil tröedigaeth Uzbeg Khan gan Ibn Abdul Hamid, sayyid o Bukhara a shîc o'r urdd Yasavi. Hyrwyddodd Uzbeg ei grefydd newydd ymhlith y Llu Euraidd a llwyddodd i feithrin rhwydwaith o genhadon Islamaidd ar draws Canolbarth Asia. Yn y tymor hir, trwy Islam fe lwyddodd y khan i orchfygu brwydrau rhwng gwahanol bleidiau'r Llu Euraidd ac i sefydlogi ei lywodraeth.

Yn ystod y cyfnod Sofietaidd, cafodd arferion Islamaidd a dealltwriaeth y boblogaeth o'r grefydd eu dirdynnu gan y llywodraeth ym Moscfa. O'r dirywiad hwn ymgododd ideolegau Islamaidd amrywiol ymhlith Mwslimiaid Canolbarth Asia. Hyrwyddodd y llywodraeth ymgyrchoedd gwrth-grefyddol a chafodd mudiadau Islamaidd y tu allan i reolaeth y wladwriaeth eu cosbi'n llym. Ar ben hynny, cafodd nifer o Wsbeciaid eu Rwsieiddio ac felly colli eu crefydd. Caewyd nifer o fosgiau, a bu'r boblogaeth yn dioddef alltudiaeth ar raddfa eang dan lywodraeth Stalin. Er i sawl un ragfynegi cynnydd mewn ffwndamentaliaeth Islamaidd yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, rhywbeth yn debycach i ailddarganfod y ffydd oedd y canlyniad. Yn ôl adroddiad gan Ganolfan Ymchwil Pew, mae 96.3% o boblogaeth y wlad yn Fwslimiaid.[8]

Cristnogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn dyfodiad Islam, trigai yn y diriogaeth a elwir heddiw Wsbecistan cymunedau o Gristnogion Dwyreiniol, gan gynnwys Asyriaid (yn hanesyddol Nestoriaid) a Jacobiaid (yn hanesyddol gysylltiedig â miaphysitiaeth). Rhwng y 7g a'r 14g sefydlwyd cymunedau Nestoraidd, drwy ymdrech eithriadol gan genhadon, yn yr ardal. Adeiladwyd canolfannau Cristnogol yn Bukhara ac yn Samarcand. Ymhlith yr arteffactau sydd wedi cael eu darganfod yng Nghanolbarth Asia mae llawer o ddarnau arian â chroesau arnynt o gwmpas Bukhara, y mwyafrif ohonynt yn dyddio o ddiwedd y 7g a dechrau'r 8g.

Mae mwy o ddarnau arian gyda symbolau Cristnogol arnynt wedi cael eu darganfod ger Bukhara nag unrhyw le arall yng Nghanolbarth Asia, gan annog yr awgrym mai Cristnogaeth oedd crefydd y rheolwyr lleol neu hyd yn oed y grefydd wladwriaethol. Rhoddir nifer o ddyddiadau ar gyfer penodi esgob cyntaf Samarcand, gan gynnwys Ahai (410-415), Shila (505-523), Yeshuyab II (628-643) a Saliba-Zakha (712-728). Yn ystod y cyfnod hwn cyn y goresgyniad Arabaidd, Cristnogaeth oedd y grefydd fwyaf pwerus yn y diriogaeth ond am Zoroastriaeth. Bu Marco Polo, a gyrhaeddodd Khanbaliq yn 1275, yn cwrdd â Nestoriaid mewn llawer o wahanol leoedd ar ei deithiau, gan gynnwys Canolbarth Asia. Disgrifia Polo adeiladu eglwys fawr sy'n ymroddedig i Ioan Fedyddiwr yn Samarcand i ddathlu drosi'r Chaghatayid khan yn Gristion. Wedi'r goresgyniad Arabaidd, bu'n rhaid i Nestoriaid dalu treth y pen a godir yn gyfnewid am y fraint o gadw eu crefydd, a chawsant eu hatal rhag adeiladu eglwysi newydd a dangos y groes Gristnogol yn gyhoeddus. O ganlyniad i hyn a chyfyngiadau eraill, trodd rhai ohonynt yn Fwslimiaid. Dirywiodd y boblogaeth Gristnogol o ganlyniad i ffactorau eraill, gan gynnwys y pla a effeithiodd ar ardal Yeti Su tua 1338-1339, a'r manteision economaidd i'r rhai oedd am droi'n Fwslimiaid ar hyd Ffordd y Sidan. Sonir Ruy Gonzalez de Clavijo, llysgennad Sbaen i lys Timur, am Nestoriaid, Cristnogion Armenaidd, a Christnogion Groegaidd yn Samarcand ym 1404. Fodd bynnag, o ganlyniad i erledigaeth dan deyrnasiad ŵyr Timur, Ulugh Beg (1409-1449), fe gafodd y cymunedau Cristnogol oedd yn weddill eu difa'n gyfan gwbl.[9][10]

Dychwelodd Gristnogaeth i'r ardal yn sgil y goncwest Rwsiaidd ym 1867, pan godwyd eglwysi Uniongred mewn dinasoedd mawr ar gyfer setlwyr Rwsiaidd a swyddogion y fyddin. Heddiw mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn Wsbecistan yn Rwsiaid sy'n ymarfer Cristnogaeth Uniongred.

Yn ogystal mae yno gymunedau o Babyddion, yn bennaf o dras Bwylaidd. Mae'r Eglwys Gatholig yn Wsbecistan yn rhan o'r Eglwys Babyddol ryngwladol sydd dan arweiniad y Pab yn Rhufain. Mae presenoldeb yn y wlad gan sawl urdd gan gynnwys y Ffransisiaid a chenhadon y Fam Teresa.

Rhestr plwyfi Catholig yn Wsbecistan
1 Eglwys Gatholig Rufeinig y Gadeirlan Galon Sanctaidd, Tashkent
2 Eglwys Gatholig Rufeinig Sant Ioan Fedyddiwr, Samarcand
3 Eglwys Gatholig Rufeinig y Fair Sanctaidd, Ferghana
4 Eglwys Gatholig Rufeinig Sant Andreas yr Apostol, Bukhara
5 Eglwys Gatholig Rufeinig y Fair Sanctaidd, Mam Trugaredd, Urgench

Mae llai nac un y cant o boblogaeth y wlad yn Brotestaniaid. Mae gan yr Eglwys Lwtheraidd Efengylaidd saith o blwyfi yn y wlad, a'r esgobaeth yn Tashkent. Amcangyfrifir yn 2015 bod rhyw 10,000 o Gristnogion o dras Fwslimaidd yn Wsbecistan, a'r mwyafrif ohonynt yn perthyn i gymunedau efengylaidd neu garismatig.

Iddewiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Trigai tua 5000 o Iddewon yn Wsbecistan yn y flwyddyn 2007, sy'n cyfateb i 0.2% o'r holl boblogaeth.[11] Dim ond lleiafrif bach o Iddewon Bukhara sydd wedi aros yn Uzbekistan ers cwymp yr Undeb Sofietaidd.

Bahá'í[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleolir chwech o gymunedau Bahá'í cofrestredig yn ninasoedd Tashkent, Bukhara, Samarcand, Navoi, a Jizzakh ac yn nhalaith Ahangaran.[12] Ar 17 Tachwedd 2009 cafodd Sepehr Taheri, dinasydd Pryeinig o dras Iranaidd a oedd yn briod i wraig Wsbecaidd ac a fu'n byw yn Tashkent ers 1990, ei alltudio o'r wlad yn sgil ei ganfod yn euog o bregethu'r ffydd Bahá'í. Ar 24 Medi 2009 cafodd Bahá'í arall, Timur Chekparbayev, ei alltudio am broselyteiddio plant mor ifanc ag 16 mlwydd oed ac hynny heb ganiatâd yr awdurdodau nac ychwaith rhieni'r plant, sydd yn groes i gyfraith Wsbecistan.[13]

Hindŵaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae un garfan o'r mudiad Hindŵaidd Hare Crishna wedi ei chofrestru yn Wsbecistan.

Bwdhaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer o greiriau Bwdhaidd wedi cael eu darganfod yn Wsbecistan, sy'n dangos arfer eang y grefydd honno yn oes yr henfyd.

Zoroastriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Zoroastriaeth, y grefydd sy'n rhagflaenu presenoldeb Islam yn Wsbecistan, yn goroesi yn y wlad hyd heddiw a chanddi 7,400 o ddilynwyr.[14]

Mae rhai Zoroastriaid yn Wsbecistan yn dal i arfer y ddefod buro gan dân wedi'r seremoni briodas. Cerdda'r priodfab a'r briodferch teirgwaith o amgylch y tân ger tŷ'r gŵr ifanc i buro eu "hanadl budr". Wedi'r ddefod, câi'r gŵr cario ei wraig i mewn i'r tŷ i gyflawni'r briodas.

Anffyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl arolwg WIN-Gallup International yn 2012, roedd 2% o'r ymatebwyr o Wsbecistan yn anffyddwyr argyhoeddedig.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]