Crëyr nos

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Crëyr nos
Nycticorax nycticorax

Toulouse - Héron Bihoreau - 2012-03-07.jpg, Nycticorax nycticorax - Black-crowned Night Heron 02.jpg, Bihoreau Gris.jpg

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Ciconiformes
Teulu: Ardeidae
Genws: Nycticorax[*]
Rhywogaeth: Nycticorax nycticorax
Enw deuenwol
Nycticorax nycticorax
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Crëyr nos (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: crehyrod nos) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Nycticorax nycticorax; yr enw Saesneg arno yw Black-crowned night heron. Mae'n perthyn i deulu'r Crehyrod (Lladin: Ardeidae) sydd yn urdd y Ciconiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn N. nycticorax, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r crëyr nos yn perthyn i deulu'r Crehyrod (Lladin: Ardeidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:


rhywogaeth enw tacson delwedd
Aderyn bwn bach Ixobrychus exilis
Least Bittern (Ixobrychus exilis) - male (8724152438).jpg
Aderyn bwn lleiaf Ixobrychus minutus
47-090506-little-bittern-at-upper-ford-near-Sigri-.jpg
Aderyn bwn melynllwyd Ixobrychus cinnamomeus
Ixobrychus cinnamomeus Jaunpur.JPG
Crëyr Madagasgar Ardea humbloti
Ardea humbloti.jpg
Crëyr glas Ardea cinerea
Ardea cinerea - Pak Thale.jpg
Crëyr goliath Ardea goliath
Ardea goliath.jpg
Crëyr gylfinbraff Cochlearius cochlearius
Boat-billed Heron, Transpantaneira, Poconé, Mato Grosso, Brazil 4.jpg
Crëyr mawr glas Ardea herodias
Le Grand Heron Profil.jpg
Crëyr mawr gwyn Ardea alba
Great Egret (Ardea alba) (25562005404).jpg
Crëyr nancîn Nycticorax caledonicus
Nankeen (Rufous) Night Heron (23333548021).jpg
Crëyr nos Nycticorax nycticorax
Toulouse - Héron Bihoreau - 2012-03-07.jpg
Crëyr nos gwych Gorsachius magnificus
NycticoraxMagnificaGronvold.jpg
Crëyr penddu Ardea melanocephala
2009-black-headed-heron.jpg
Crëyr porffor Ardea purpurea
20170424 051 Camargue Purperreiger (34442117595).jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan oedolion goron ddu a chefn gyda gweddill y corff yn wyn neu'n llwyd, llygaid coch, a choesau melyn byr. Mae ganddyn nhw adenydd llwyd golau a gwyn odditano. Mae dwy neu dair o blu gwyn hir sydd yn cael eu codi mewn arddangosiadau cyfarch a charwriaeth, yn ymestyn o gefn y pen. Mae'r ddau ryw yn debyg o ran ymddangosiad er bod y gwrywod ychydig yn fwy. Nid yw crehyrod nos yn ffitio ffurf corff nodweddiadol teulu'r crëyr glas. Maent yn gymharol fyrdew gyda phigiau, coesau a gyddfau byrrach na'u cefndryd mwy cyfarwydd. Mae eu hosgo gorffwys fel arfer braidd yn grwm ond wrth hela maent yn ymestyn eu gyddfau ac yn edrych yn debycach i rydyddion eraill.

Mae gan adar anaeddfed blu llwyd-frown ar eu pennau, eu hadenydd a'u cefnau, gyda nifer o smotiau golau. Mae eu rhannau isaf yn oleuach ac yn frith o frown. Mae gan yr adar ifanc lygaid oren a choesau melynwyrdd tywyllach. Maent yn adar swnllyd iawn yn eu cytrefi nythu, gyda galwadau sy'n cael eu trawsgrifio'n gyffredin fel quok neu woc[1].

Mae crehyrod nos yn nythu mewn cytrefi ar lwyfannau o briciau mewn grwpiau o goed, neu ar y ddaear mewn lleoliadau gwarchodedig fel ynysoedd neu welyau cyrs. Dodwyir rhwng tri ac wyth wy.

Dosbarthiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwlyptiroedd ffres a dŵr hallt yw'r cynefin bridio. Mae'r isrywogaeth N. n. hoactli yn bridio dros Gogledd a De America o Canada|Ganada cyn belled i'r de â gogledd yr Ariannin a Chile, N. n. obscurus yn neheubarth De America, N. n. falklandicus yn y Malvinas/Ynysoedd y Falkland, a'r hil enwebedig N. n. nycticorax yn Ewrop, Asia ac Affrica.

Mae'r crëyr nos hwn yn fudol yn y rhan fwyaf gogleddol o'i diriogaeth, ond fel arall yn preswylio (hyd yn oed yn oerfel Patagonia). Mae poblogaeth Gogledd America yn gaeafu ym Mecsico , de'r Unol Daleithiau, Canolbarth America , ac India'r Gorllewin, ac mae adar yr Hen Fyd yn gaeafu yn Affrica trofannol a de Asia .

Statws ym Mhrydain[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae dau sbesimen archeolegol o'r crëyr nos hwn ym Mhrydain. Daw'r hynaf o Wal Llundain Rufeinig a'r mwyaf diweddar o iardiau cyn-ganoloesol hwyr y Llynges Frenhinol yn Greenwich. Mae'n ymddangos yn rhestrau prisiau gwerthwyr dofednod Llundain fel y Brewe, aderyn y credwyd ei fod yn goeg-gylfinir Ewrasiaidd neu'r crymanbig du, y dangoswyd bellach ei fod yn cyfeirio at y crëyr nos, sy'n deillio o'r Bihoreau Ffrengig canoloesol. Mae’n bosibl bod crehyrod y nos wedi magu yn nhirwedd llawer gwlypach ac ehangach a fodolai ym Mhrydain yn y cyfnod. Yn sicr cawsant eu mewnforio ar gyfer y bwrdd felly nid yw'r sbesimenau o esgyrn o'r cyd-destun hwn yn profi ohonynt eu hunain eu bod yn rhan o ffawna adar Prydeinig. Yn y cyfnod modern mae’r crëyr nos yn grwydryn a sefydlwyd cytrefi bridio gwylltion yn Sw Caeredin o 1950 i’r 21ain ganrif ac yn Great Witchingham yn Norfolk lle’r oedd 8 pâr yn 2003 ond ni chafodd y bridio ei ailadrodd yn 2004 na 2005. Gwelwyd pâr o oedolion gyda dau ifanc yng Ngwlad yr Haf yn 2017, sef y cofnod bridio cyntaf o grehyrod nos gwyllt ym Mhrydain.

Rhywogaeth y rhagwelir y bydd yn bridio yn ne Prydain yn rheolaidd yn ystod yr 21ain ganrif yw Crëyr y Nos (Huntley et al. 2007). Os bydd y gwladychu yng Ngwlad yr Haf yn sefydlu'n gadarn mae'n debygol y bydd yn digwydd yn amlach yng Nghymru ac mae'n bosibl iawn y bydd yn bridio mewn gwelyau cyrs yn ne Cymru.[3]

Ymddygiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r adar hyn yn sefyll yn llonydd wrth ymyl y dŵr ac yn aros i gudd-ymosod ar eu hysglyfaeth, yn bennaf gyda'r nos neu'n gynnar yn y bore. Maent yn bennaf yn bwyta pysgod bach, cramenogion, brogaod, pryfed dyfrol, mamaliaid bach, ac adar bach. Maent ymhlith y saith rhywogaeth o grehyrod y gwelwyd eu bod yn pysgota trwy osod abwyd; sef denu neu dynnu sylw pysgod trwy daflu gwrthrychau amwytadwy neu fwytadwy i mewn i'r dŵr o fewn eu cyrraedd - enghraifft brin o ddefnyddio offer ymhlith adar. Yn ystod y dydd maent yn gorffwys mewn coed neu lwyni. Mae N. n. hoactli yn fwy cymdeithasgar y tu allan i'r tymor bridio na'r hil enwebedig (nominate) N. n. nyctocorax.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Adar Cymru (2021) Gwasg Prifysgol Lerpwl
Safonwyd yr enw Crëyr nos gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.