Corona (diod ysgafn)
Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | 1884 |
Daeth i ben | 1990s |
Pencadlys | y Porth |
Roedd Corona yn gwmni cynnyrch diodydd meddal Cymreig a sefydlwyd yn wreiddiol ym Mhorth y Rhondda gan gwmni Bryniau Cymru Thomas & Evans. Cafodd y cwmni ei gychwyn ym 1884 gan ddau groser, William Thomas a William Evans, pan welsant gyfle i farchnata diodydd meddal mewn ymateb i ddylanwad cynyddol y mudiad dirwest yng Nghymru[1]. O'r ffatri gyntaf yn y Porth, ehangodd y cwmni yn y pen draw i 87 safle ledled Ynysoedd Prydain. Cafodd brand Corona ei werthu i grŵp Beecham yn y 1950au ac wedyn i Gwmni Britvic cyn i'r brand ddod i ben ar ddiwedd y 1990au.[2]
Cwmni Thomas & Evans
[golygu | golygu cod]Cafodd William Thomas ei eni ym 1851 ym Mathri. Daeth o deulu amaethyddol. Yn bedair ar ddeg oed gadawodd gartref i fwrw prentisiaeth fel cigydd yng Nghasnewydd[3]. Ym 1874 priododd Rowena Rowlands gan symud i bentref Aber-big lle sefydlodd siop cigydd. Roedd y fenter yn llwyddiant, ychwanegwyd warws ac ehangwyd y siop[3].
Ym 1882 daeth William Evans (ganed 1864) o Sir Benfro i weithio yn y siop. Bu hefyd yn byw gyda theulu Thomas am dair blynedd. Daeth y ddau ddyn yn bartneriaid busnes gan sefydlu cadwyn o siopau groser. Cafodd Evans benthyciad ariannol ar log o 50% gan Thomas er mwyn cael prynu ei ran ef o’r busnes. Ym 1884 ehangwyd y busnes i gynnwys cynhyrchu diodydd ysgafn. Mae’n bosib bod y ddau wedi cael y syniad o baratoi diodydd di alcohol ar gyfer y farchnad dirwest gan ŵr Americanaidd, a fu yn rhedeg busnes tebyg yn yr UD ac oedd wedi ffoi i’r Rhondda rhag ei ddyledwyr[2][4].
Bu Williams ac Evans yn ymweld â ffatrïoedd diodydd ysgafn eraill drwy Brydain er mwyn canfod sut i wneud diodydd swigod a chawsant gymorth gan y fferyllydd ac Aelod Seneddol Howell Idris a oedd yn berchen ar gwmni diodydd Idris yn Llundain[4].
Ffatri Bryniau Cymru
[golygu | golygu cod]Ar y cychwyn bu Thomas & Evans yn cynhyrchu eu pop yng nghefn eu siop. Ym 1890 agorodd eu ffatri fawr gyntaf ym Mhorth y Rhondda. Enwyd y ffatri yn Ffatri Dŵr Mwynol Bryniau Cymru (Welsh Hills Mineral Water Factory)[5]. Roedd y ffatri yn cynnwys y peiriannau diweddaraf ar gyfer y diwydiant gan gynnwys peiriannau oedd yn caniatáu i lanhau'r poteli gwydr yn ddiogel. Roedd gallu golchi poteli yn alluogi codi blaendal ar y poteli i’w ad-dalu wedi i’r cwsmer dychwelyd y poteli i’w hailddefnyddio.
Yn wreiddiol defnyddiodd y cwmni boteli Hiram Cod oedd a thopyn ceramig yn cael ei ddal i lawr gan golfachau metel. Yn wreiddiol bu’r cwmni yn gwneud cwrw sinsir, yn y gobaith y gallent ei werthu mewn tafarndai fel dewis amgen i ddiodydd alcohol. Roedd hwn yn fenter aflwyddiannus, a bu raid i’r cwmni dod o hyd i farchnad arall ar gyfer ei diodydd. Tarodd Evans ar y syniad o werthu o ddrws i ddrws gan ddefnyddio ceffylau a wagen, ac yn fuan daeth ei fenter yn llwyddiant, gyda'r cwmni yn dechrau cynhyrchu blasau eraill oedd at ddant plant, megis oren, dant y llew a chacamwci, mafon a lemonêd.
Er mwyn apelio at gapelwyr Cymreig dirwestol bu hysbysebu trwy’r Gymraeg yn hanfodol i lwyddiant y cwmni. Comisiynwyd y bardd ap Hefin i ysgrifennu sloganau a cherddi i hyrwyddo’r cynnyrch[6]. Defnyddiwyd slogan ap Hefin Corona yw Coron pob Croeso gan y cwmni hyd ddiwedd y 1950au, pan werthwyd Corona i gwmni o Loegr. Erbyn troad y ganrif roedd gan y cwmni dros 200 o werthwr diodydd o gefn wagen oedd yn cael eu tynnu gan geffylau ar draws Cymru.
Corona
[golygu | golygu cod]Yn y 1920au cynnar penderfynodd Evans i ail enwi ei ddiodydd meddal a ddewisodd yr enw Corona. Dyfeisiwyd logo yn dangos saith pen botel ar siâp bwa i gynrychioli coron (corona yw’r gair Lladin am goron). Bu’n frand hynod lwyddiannus gan ehangu i 82 canolfan dosbarthu a ffatrïoedd ar draws y deheubarth. Yn ei anterth roedd gan y cwmni pum ffatri, yn y Porth, Tredegar, Pengam, Maesteg a Phen-y-bont. Daeth wagenni a cheffylau Corona yn olygfa gyffredin a phoblogaidd ledled Cymru. Yn ystod y 1930au cafodd y ceffylau eu graddol disodli gan fflyd o gerbydau modur. Roedd y cerbydau, a oedd yn enwog am eu lifrai coch ac aur a logo Corona, yn cael eu gwasanaethu a’u hatgyweirio gan siop beirianyddol y cwmni ei hun a oedd ynghlwm wrth y ffatri yn y Porth. Erbyn 1934 roedd 5 cerbyd modyr yn y Porth a thair blynedd yn ddiweddarach roedd y nifer wedi codi i 200[7].
Ym 1934 bu farw William Evans ac aeth rôl cadeirydd a rheolwr gyfarwyddwr i’w frawd Frank, rôl y byddai'n cadw hyd 1940. O dan reolaeth Frank Evans fu’r cwmni yn parhau i dyfu ac erbyn diwedd y degawd roedd ffatrïoedd Cymru yn cynhyrchu 170 miliwn o boteli'r flwyddyn.
Gyda dechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939, cafodd llawer o gerbydau modur Corona eu meddiannu gan y llywodraeth at ddefnydd rhyfel. O ganlyniad i’r meddiannu a dogni petrol aeth y cwmni yn ôl at y wagenni ceffyl am gyfnod y rhyfel.
Ar ddiwedd y rhyfel ym 1945, aeth y cwmni yn ôl i gynhyrchiant llawn ac ailgyflwynwyd y fflyd modur. Ym 1950, lansiodd y cwmni Tango, brand o ddiod oren sydd yn dal i gael ei gynhyrchu[8].
Diwedd y cwmni
[golygu | golygu cod]Ym 1958 cafodd y cwmni ei brynu gan y Grŵp Beecham, oedd a’u pencadlys yn St Helen’s swydd Caerhirfryn. Er bod y cynhyrchiant yn parhau i gael ei ganoli yn Sir Forgannwg, dechreuodd depos i ymddangos ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. O dan y rheolaeth newydd cyrhaeddodd Corona gynulleidfa newydd ac yn ystod y 1960au cafodd ei hyrwyddo gan gyfres o hysbysebion teledu yn serennu'r canwr a'r digrifwr Seisnig Dave King. Gyda'r cynnydd yn nifer yr archfarchnadoedd yn y 1960au hwyr a'r 1970au ac arferion siopa'r cyhoedd yn newid cafodd y gwerthu o ddrws i ddrws ei gollwng.
Yn ystod y 1970au bu un o ymgyrchoedd hysbysebu mwyaf cofiadwy Corona gan ddefnyddio slogan oedd yn awgrymu bod pob swigen wedi pasio prawf FIZZical! (mae’r hysbyseb i’w gweld ar safle YouTube[9]).
Ym 1987 gwerthwyd y cwmni i Britvic Soft Drinks. Caeodd Britvic y ffatrïoedd Cymreig gan drosglwyddo’r cynhyrchu i Bolton yn Lloegr.[4][10]
Yn 2000 cafodd hen ffatri Corona y Porth ei drawsnewid i mewn i stiwdio recordio cerddoriaeth a alwyd Y Ffatri Bop, gan chwarae ar fwys y ddiod pop a pop yr arddull o gerddoriaeth cyfoes[10].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Western Morning News 28 Ebrill 1934 tud 8 Fruit Drinks
- ↑ 2.0 2.1 Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 171. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ 3.0 3.1 Bacchetta, Rudd (2000) p.63
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "Man who put the fizz into the South Wales Valleys". walesonline.co.uk. 11 Hydref 2007. Cyrchwyd 7 Ebrill 2017.
- ↑ Welsh Hills Works -Cofline
- ↑ "Advertising - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1914-07-02. Cyrchwyd 2017-04-06.
- ↑ Carradice, Phil (26 Mehefin 2012). "The story of Corona pop". bbc.co.uk. Cyrchwyd 11 Ionawr 2014.
- ↑ Pearson, David (2013). The 20 Ps of Marketing: A Complete Guide to Marketing Strategy. Kogan Page Publishers. t. 81. ISBN 9780749471071.
- ↑ Hysbyseb Corona ar YouTube
- ↑ 10.0 10.1 Roberts, Andy (8 Gorffennaf 2011). "Rhondda Pop Factory taken over by Valleys Kids charity". bbc.co.uk. Cyrchwyd 07 Ebrill 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help)