Diod feddal

Oddi ar Wicipedia
Silff mewn siop yn arddangos poteli o ddiodydd meddal
Diod ysgafn, neu feddal

Diod di-alcohol yw Diod feddal, sydd fel arfer yn cynnwys dŵr swigog, melysydd a blasydd (naturiol neu annaturiol). Gall y melysydd fod yn siwgwr neu'n surop-corn ffrwctos-uchel, neu'n siwgwr amgen fel a geir mewn diodydd cadw'n heini. Weithiau, ychwanegir caffîn, lliw, cemegolyn prisyrfio a chynhwysion eraill. Yn Unol Daleithiau America, defnyddir y termau 'coke', 'fizz-wa', 'tonic', 'pop' neu 'cola' am ddiod feddal.

Cyferbynir y term 'meddal' gyda 'diodydd caled' sy'n cynnwys alcohol ond weithiau ceir gorgyffwrdd ee mewn rhai diodydd ysgafn fel 'ginger beer' ceir dropyn neu ddau o alcohol. Defnyddir y term diod ysgafn' hefyd. Mewn diodydd fel hyn, cyfyngir lefel yr alcohol i 0.5% o'r ddiod.[1] if the drink is to be considered non-alcoholic.[2] o gymryd y diffiniad hwn (diod ysgafn = llai na 0.5% o alcohol) gellid dadlau fod te, coffi neu ddiod ffrwyth hefyd yn ddiodydd meddal, ond nid ydynt. Fel arfer, mae 'diod ysgafn' yn cyfeirio at ddiodydd swigog sydd â chryn dipyn o siwgwr ynddi.

Yng ngwanwyn 2015, mynegodd Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru ei dyhead i godi treth uwch na'r cyffredin ar ddiodydd meddal, er mwyn lleihau'r nifer o bobl gydag anhwylderau siwgwr e.e. clefyd y siwgwr, y ddannodd a gordewdra. Dilynwyd hyn gyda gwleidyddion o Loegr yn mynegi safiad tebyg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "What Is Meant By Alcohol-Free? : The Alcohol-Free Shop". Alcoholfree.co.uk. 2012-01-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-20. Cyrchwyd 2013-03-26.
  2. Bangor Daily News, 8 Ebrill 2010. http://www.bangordailynews.com/detail/126224.html[dolen marw]