Thomas Howell Williams Idris

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Howell Williams Idris
Howell-Idris-AS.jpg
Ganwyd 5 Awst 1842 Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Chwefror 1942 Edit this on Wikidata (99 oed)
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Howell Williams Idris (5 Awst 184210 Chwefror 1925), (Howell Idris) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn wneuthurwr nwyddau fferyllol.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Idris yn Burton, Sir Benfro, yn ail fab i Benjamin Williams, Labrwr yn y dociau a Mary ei wraig[1]. Mabwysiadodd y cyfenw ychwanegol o Idris trwy weithred newid enw ym 1893.

Ym 1873 priododd Emeline, merch John Trevena, Doc Penfro a bu iddynt pum mab ac un ferch.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn deuddeng oed aeth i weithio fel prentis i ddilledydd, ond doedd o ddim yn hapus yn y gwaith; roedd ganddo gefnder yn gweithio fel fferyllydd yng Nglyn Ebwy ymadawodd a'r dilledydd a mynd yn brentis fferyllydd. Aeth o Lyn Ebwy i weithio i gefnder arall iddo yng Nghrucywel lle yr arhosodd hyd ei ben-blwydd yn 21. Symudodd i Lundain i weithio i gwmni fferyllol Herrings & Co.[2] Ym 1871 dechreuodd gweithio ar ei liwt ei hun yn gynnyrch nwyddau fferyllol, ym 1874 cychwynnodd cwmni dŵr mwynol o'r enw Idris[3]; mae un o gynhyrchion y cwmni Idris' Ginger Beer yn dal i gael ei werthu ond yn cael ei gynhyrchu gan gwmni Britvic bellach; enwyd y ddiod ar ôl Cader Idris, lle'r oedd gan Howell tŷ haf a labordy.

Roedd yn credu dylai pob cwmni sicrhau bob y gweithwyr yn cael budd o lwyddiannau'r cwmnïau yr oeddynt yn gweithio iddynt, gan hynny roedd ei gwmnïau ymysg y cyntaf i ddechrau cynllun rhannu elw, lle fu'r gweithwyr yn cael rhan o elw'r cwmni ar ben eu cyflogau.[4]

Gwasanaethodd fel Llywydd Cynhadledd Fferyllol Prydain ym 1903-1904 bu hefyd yn Llywydd Cymdeithas y Fferyllwyr Cyhoeddus; Cymrawd o'r Gymdeithas Gemegol ac yn Aelod o Gymdeithas y Diwydiant Cemegol.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei ethol fel cynghorydd ward Gogledd St Pancras ar Gyngor Sir Llundain yn yr etholiadau cyntaf i'r cyngor ym1889. Gwasanaethodd fel Cadeirydd y Pwyllgor Dŵr, a charthffosiaeth a'r Pwyllgor Afonydd, defnyddiodd ei wybodaeth o wyddoniaeth i wella ansawdd dŵr y ddinas. Safodd i lawr o'r cyngor ym 1898 er mwyn ei iechyd ac aeth am daith i De'r Affrig. Ar ôl ddychwelyd ail ymunodd a'r Cyngor fel aelod dros ward Gorllewin St Pancras gan wasanaethu hyd 1907.[5]

Bu hefyd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref St Pancras gan wasanaethu fel maer y fwrdeistref ym 1903 - 1904. Gwasanaethodd, hefyd, fel aelod o Fwrdd Dŵr Llundain a Bwrdd Gwarchodaeth Tafwys a Lea.

Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych yn etholiad Cyffredinol 1892, gan golli o drwch y blewyn i'r ymgeisydd Ceidwadol. Safodd yn etholaeth Caer yn etholiad 1900, eto'n aflwyddiannus. Safodd fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Fflint yn etholiad 1906 gan ennill y sedd.

Roedd ar yr ochor genedlaetholgar, anghydffurfiol, o'r Blaid Ryddfrydol ac yn gefnogol i achosion megis datgysylltu'r eglwys.

Ym 1908 chwaraeodd rhan anfwriadol yn yr achos dros ennill pleidleisiau i ferched. Roedd y Swffragetiaid wedi bwriadau tarddu ar waith y Senedd, ond llwyddodd yr Heddlu i rwystro’r brotest; fe welodd Howell Idris Mrs Frazer Simon, ysgrifenyddes Keir Hardy, ymysg y merched, a gan dybio ei bod hi wedi cael ei dal yn anfwriadol yng nghanol y ffrwgwd rhoddodd eirda drosti fel un oedd a busnes swyddogol yn y a chafodd hi fynediad - aeth hi i mewn i'r Siambr a gweddi sloganau dros hawliau merched, gan lwyddo i darddu ar fusnes y Tŷ.[6]

Ym mis Ebrill 1906 cafodd Howell Idris ei anafu'n ddifrifol mewn damwain car ger Llanelwy a achosodd cryn niwed iddo[7], o ganlyniad i'r damwain nid oedd yn teimlo bod ei iechyd yn ddigon da i barhau fel AS ac fe ymneilltuodd o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol cyntaf 1910.[8]

Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ym Meirionnydd a Llundain. Daeth yn Llywydd cyntaf Cyngor Cymdeithas y City Gardens. Bu'n Uchel Siryf Sir Feirionnydd ym 1912. Cafodd ei greu yn Rhyddfreiniwr Dinas Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Yr Archif Genedlaethol -Cyfrifiad 1851, Burton Sir Benfro HO107/2476; Ffolio: 721; Tud: 2
  2. "THE FLINT BOROUGHS - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1903-10-31. Cyrchwyd 2015-08-19.
  3. "MR HOWELL IDRIS - Y Dydd". William Hughes. 1900-09-21. Cyrchwyd 2015-08-19.
  4. "Mr Howell Idris on Bad Times in the Mineral Water Trade - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1904-04-23. Cyrchwyd 2015-08-19.
  5. "DYCHWELIAD MR HOWELL IDRIS I'RCYNGHOR SIROL - Y Dydd". William Hughes. 1902-09-05. Cyrchwyd 2015-08-19.
  6. "Wele yma - Wele accw - Y Brython Cymreig". The Welsh Press Company Limited. 1908-10-22. Cyrchwyd 2015-08-19.
  7. "Mr Howell Idris MP Injured - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1906-04-21. Cyrchwyd 2015-08-19.
  8. "Mr Howell Idris to Retire - Prestatyn Weekly". J. T. Burrows, 1905-1969. 1907-06-15. Cyrchwyd 2015-08-19.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Herbert Lewis
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint
19061910
Olynydd:
James Wooley Summers
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Lewis Owen Williams
Uchel Siryf Meirionnydd
1912
Olynydd:
John Jones