Chwarddwr swynol
Chwarddwr swynol Garrulax canorus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Timaliidae |
Genws: | Garrulax[*] |
Rhywogaeth: | Garrulax canorus |
Enw deuenwol | |
Garrulax canorus |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Chwarddwr swynol (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: chwarddwyr swynol) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Garrulax canorus; yr enw Saesneg arno yw Hwamei (melodious laughing thrush). Mae'n perthyn i deulu'r Preblynnod (Lladin: Timaliidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn G. canorus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Aderyn 'passerine' (urdd mawr yr adar sy'n clwydo) o ddwyrain Asia yn y teulu Leiothrichidae yw'r hwamei Tsieineaidd neu'r chwarddwr swynol (Garrulax canorus). Daw'r enw "hwamei" o'r Tsieinëeg 画眉 (huà-méi) yn golygu "aeliau wedi'u paentio" gan gyfeirio at y marcio nodedig o amgylch llygaid yr aderyn. Mae'r aderyn sy'n cael ei gadw mewn cawell yn aml oherwydd ei gân ddeniadol.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Mae'n 21 i 25 cm o hyd gydag adenydd llydan, crwn a chynffon siâp gwyntyll. Mae'r plu yn goch-frown yn bennaf gyda rhediadau tywyll ar y coryn, y cefn a'r gwddf. Mae cylch gwyn o amgylch y llygad sy'n ymestyn am yn ôl fel streipen wen. Mae'r pig a'r traed yn felynaidd. Mae adar Ynys Hainan (L. c. owstoni) yn oleuach odditano ac yn fwy o liw olewydd uwchben. Mae hwamei Taiwan yn fwy llwydaidd ac yn fwy rhesog ac nid oes ganddo'r marciau gwyn ar y pen. Mae'r gân yn chwibaniad swnllyd, clir, amrywiol gydag ailadrodd rheolaidd gydag efelychiadau o adar eraill. .
Dosbarthiad a chynefin[golygu | golygu cod]
Ceir yr isrywogaeth enwebedig canorus ar draws de-ddwyrain a chanolbarth Tsieina ac yng ngogledd a chanol Fietnam a Laos. Ceir yr hil G. c. owstoni ar Hainan.
Mae canorus wedi'i gyflwyno i Taiwan, Singapôr, Japan a Hawaii. Fe'i cyflwynwyd i Ynysoedd Hawaii yn gynnar yn yr 20fed ganrif ac mae bellach i'w gael mewn coedwigoedd brodorol a chynefinoedd mwy artiffisial. Mae'n gyffredin ar Kauai, Maui ac Ynys Hawaii ond yn llai felly ar Oahu a Molokai.
Mae'r aderyn yn byw mewn prysgdir, coetir agored, coedwig eilaidd, parciau a gerddi hyd at 1800 metr uwchben lefel y môr. Mae'n gyffredin mewn llawer o'i amrediad ac nid yw'n cael ei ystyried yn rhywogaeth dan fygythiad.
Ymddygiad[golygu | golygu cod]
Aderyn swil yw hwn ac yn anodd iawn felly ei weld. Mae fel arfer yn bwydo ar y ddaear ymhlith dail, yn chwilota am bryfed a ffrwythau. Fe'i gwelir fel arfer mewn parau neu mewn grwpiau bach.
Mae'r tymor bridio yn para o fis Mai i fis Gorffennaf. Mae'r nyth mawr siâp cwpan yn cael ei adeiladu hyd at ddau fedr uwchben y ddaear mewn coeden neu lwyn neu ymhlith isdyfiant. Mae dwy i bump o wyau glas neu laswyrdd yn cael eu dodwy.
Genws[golygu | golygu cod]
Mae'r chwarddwr swynol yn perthyn i'r genws Garrulax yn nheulu'r Preblynnod (Lladin: Timaliidae). Dyma aelodau eraill y genws:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Chwarddwr cribwyn | Garrulax leucolophus | |
Chwarddwr talcengoch | Garrulax rufifrons | |
Chwarddwr torchog bach | Garrulax monileger |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.