Cecil Day-Lewis

Oddi ar Wicipedia
Cecil Day-Lewis
FfugenwNicholas Blake Edit this on Wikidata
Ganwyd27 Ebrill 1904 Edit this on Wikidata
Swydd Laois Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mai 1972 Edit this on Wikidata
Lemmons Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, nofelydd, ysgrifennwr, sgriptiwr, academydd, beirniad llenyddol, awdur plant, cyfieithydd Edit this on Wikidata
SwyddBardd Llawryfog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadFrank Day-Lewis Edit this on Wikidata
MamKathleen Blake Squires Edit this on Wikidata
PriodMary King, Jill Balcon Edit this on Wikidata
PartnerRosamond Lehmann Edit this on Wikidata
PlantDaniel Day-Lewis, Tamasin Day-Lewis, Sean Day-Lewis Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Bardd GwyddeligSeisnig yn yr iaith Saesneg oedd Cecil Day-Lewis (27 Ebrill 190422 Mai 1972) sy'n nodedig fel un o "feirdd newydd" adain-chwith y 1930au ac am ei farddoniaeth delynegol ddiweddarach. Cyhoeddodd ei farddoniaeth dan yr enw C. Day-Lewis, ac ysgrifennodd hefyd nofelau ditectif dan y ffugenw Nicholas Blake.[1] Gwasanaethodd yn swydd Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig o 2 Ionawr 1968 hyd ei farwolaeth.

Ganwyd yn Ballintubbert, Swydd Laois, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, yn fab i weinidog yn Eglwys Iwerddon. Symudodd y teulu i Loegr yn 1905 a chafodd Cecil ei addysg yn Ysgol Sherborne, Dorset, ac yng Ngholeg Wadham, Rhydychen. Yno daeth yn gyfeillgar â W. H. Auden, a chyd-olygwyd y cylchgrawn Oxford Poetry ganddynt yn 1927. Wedi'r brifysgol, gweithiodd fel ysgolfeistr tan 1935. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Transitional Poem, yn 1929.

Trwy gydol y 1930au bu'n weithgar yng nghylchoedd diwylliannol yr adain chwith. Cyfranodd at y Left Review a'r Left Book Club, a golygodd y casgliad o ysgrifau sosialaidd The Mind in Chains yn 1937. Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr yn 1936. Adlewyrchir ei daliadau chwyldroadol yn y cyfrolau o gerddi From Feathers to Iron (1931) a The Magnetic Mountain (1933) ac yn yr astudiaeth feirniadol A Hope for Poetry (1934). Derbyniad llugoer a gafodd Noah and the Waters (1936), drama foes fydryddol ar bwnc brwydr y dosbarthiadau, a throdd yn ddiweddarach at themâu personol a chanu natur yn hytrach na barddoniaeth wleidyddol.[2] Ysgrifennodd ryw ugain o nofelau ditectif dan y ffugenw Nicholas Blake, gan gynnwys A Question of Proof (1935), Minute for Murder (1948), a Whisper in the Gloom (1954),

Dewiswyd Day-Lewis i draddodi darlithoedd Clark ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 1946, a chyhoeddwyd y rheiny yn y gyfrol The Poetic Image (1947). Cyfieithodd gweithiau Fyrsil ar fydr o Ladin i Saesneg: y Georgicon (1940), yr Aeneidos (1952; ar gais y BBC), a'r Eclogae (1963). Penodwyd Day-Lewis yn athro barddoniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1951, a daliodd y swydd honno nes 1956. Cyhoeddodd ei hunangofiant, The Buried Day, yn 1960. Ymhlith ei gyfrolau diweddarach o gerddi mae The Room and Other Poems (1965) a The Whispering Roots (1970). Penodwyd yn Fardd Llawryfog yn sgil marwolaeth John Masefield.

Bu farw yn Hadley Wood, Swydd Hertford, o ganser y pancreas, yn 68 oed. Mae un o'i feibion, Daniel Day-Lewis, yn actor o fri.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) C. Day-Lewis. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mehefin 2019.
  2. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 262.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Sean Day-Lewis, C. Day-Lewis: An English Literary Life (Llundain: Weidenfeld and Nicolson, 1980).
  • Joseph N. Riddel, C. Day Lewis (Efrog Newydd: Twayne, 1971).
Rhagflaenydd:
John Masefield
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig
2 Ionawr 1968 – 22 Mai 1972
Olynydd:
John Betjeman