John Betjeman

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Betjeman
Sir John Betjeman (1906-1984).jpg
Ganwyd 28 Awst 1906 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Mai 1984 Edit this on Wikidata (77 oed)
Achos: Clefyd Parkinson Edit this on Wikidata
Cernyw Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Bardd, cyfieithydd, newyddiadurwr, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Swydd Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Priod Penelope Valentine Hester Betjeman Edit this on Wikidata
Plant Candida Lycett Green Edit this on Wikidata
Gwobr/au CBE, Gwobr Aur y Frenhines am Farddoniaeth, Medal Albert Edit this on Wikidata

Bardd Seisnig yn yr iaith Saesneg ac awdur ar bensaernïaeth oedd Syr John Betjeman (28 Awst 1906 – 19 Mai 1984). Fe oedd Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig o 1972 hyd ei farwolaeth.

Roedd Betjeman yn un o hoff feirdd y cyhoedd ac yn gyfarwydd o ganlyniad i'w gerddi hawdd eu darllen a'i ymddangosiadau ar y radio a'r teledu. Fe gafodd ei alw'n aml yn "the nation's teddy bear".[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

John Betjeman yn ei ieuenctid.

Ganwyd John Betjemann yn Llundain, yn unig blentyn. Dyn busnes cefnog oedd ei dad, o dras Iseldirwyr, neu o bosib Almaenwyr, a ymfudasant i Loegr yn y 18g. Cafodd ei fagu ym mwrdeistref Highgate yng ngogledd y brifddinas, ac yno fe gafodd ei addysgu gan T. S. Eliot yn yr ysgol annibynnol leol. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd John ei fwlio am ei gyfenw Germanaidd, ac felly newidiodd ei fam yr enw i Betjeman gydag un "n". Bachgen unig oedd John, a oedd yn ymddiddori mewn trenau a mapiau rheilffyrdd ac yn cario'i dedi Archibald ymhob man. Aeth ymlaen i ysgol baratoi'r Dragon yn Rhydychen a Choleg Marlborough, ysgol fonedd yn Wiltshire.

Astudiodd Betjeman yng Ngholeg Magdalen ym Mhrifysgol Rhydychen o 1925 i 1928. Aeth â'i hen degan Archibald i Rydychen, ac hwnnw oedd yr ysbrydoliaeth am Aloysius, tedi-bêr y cymeriad Sebastian Flyte, yn y nofel Brideshead Revisited gan Evelyn Waugh.[1] Nid oedd Betjeman a'i diwtor, C. S. Lewis, yn hoff o'i gilydd. Treuliodd y mwyafrif o'i amser yn cymdeithasu, yn actio, ac yn ysgrifennu i gylchgronau myfyrwyr, a gadawodd y brifysgol heb iddo dderbyn ei radd. Gweithiodd am gyfnod fel meistr ysgol baratoi cyn iddo gael ei benodi'n olygydd cynorthwyol yr Architectural Review a beirniad ffilm yr Evening Standard.

Fe briododd Penelope Chetwode yn 1933, a chawsant dau blentyn, Paul a Candida. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd Betjeman i'r Weinyddiaeth Wybodaeth yn swyddog diwylliannol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Fe gafodd ei urddo'n farchog yn 1969, a'i benodi'n Fardd Llawryfog y Deyrnas Unedig yn sgil marwolaeth Cecil Day-Lewis yn 1972. Bu farw Betjeman yn Trebetherick, Cernyw, yn 77 oed.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodir barddoniaeth Betjeman gan "ei hiraeth am y gorffennol diweddar, ei synnwyr union o leoliad, a'i gyflwyniad manwl o arlliw cymdeithasol".[2] Un o'i gerddi enwocaf yw "Slough" (1937), sy'n dilorni'r datblygiadau diwydiannol yn nhref Slough yn Berkshire. Daeth y gerdd yn ddrwg-enwog ymhlith trigolion y dref, ac yn ddiweddarach fe fynegodd Betjeman ei ofid am ei hysgrifennu.

Ei ddiddordeb mewn pensaernïaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerflun o Betjeman yng ngorsaf reilffordd St Pancras.

Ymddiddorai Betjeman mewn pensaernïaeth ei wlad, a phensaernïaeth eglwysi a gorsafoedd rheilffyrdd yn arbennig. Roedd yn hoff iawn o'r dulliau Fictoraidd ac Edwardaidd, yn enwedig adeiladau'r neo-Gothig, ac yn lladd ar foderniaeth ac effeithiau diwydiannaeth a "Chynnydd" ar drefluniau Prydain. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf ar bwnc pensaernïaeth, Ghastly Good Taste, yn 1933. Am gyfnod hir fe ysgrifennai'r adran "Nooks and Corners" yn y cylchgrawn Private Eye.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Jane Curran, "Sir John Betjeman in Oxfordshire and beyond", BBC (2 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 24 Hydref 2018.
  2. (Saesneg) John Betjeman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Hydref 2018.