Daniel Day-Lewis
Gwedd
| Daniel Day-Lewis | |
|---|---|
| Ganwyd | Daniel Michael Blake Day 29 Ebrill 1957 Kensington, Llundain |
| Man preswyl | Swydd Wicklow |
| Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor ffilm, celfyddydwr, actor llwyfan, actor teledu, actor |
| Arddull | drama |
| Tad | Cecil Day-Lewis |
| Mam | Jill Balcon |
| Priod | Rebecca Miller |
| Partner | Isabelle Adjani |
| Plant | Gabriel-Kane Day-Lewis, Ronan Day-Lewis, Cashel Day-Lewis |
| Perthnasau | Michael Balcon, Arthur Miller |
| Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Cynghrair Newyddiadurwyr Ffilm Benywaidd am Actor Gorau, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Marchog Faglor |
Actor o Loegr yw Daniel Michael Blake Day-Lewis (ganed 29 Ebrill 1957) a ddaeth yn ddinesydd Gwyddelig ym 1993. Caiff ei ystyried yn un o actorion mwyaf dethol y diwydiant, gan serennu mewn pedair ffilm yn unig ers 1997, gyda chymaint a phum mlynedd rhwng pob rôl. Mae ef yn actor dull, sy'n enwog am ei ymroddiad llwyr ac am ymchwilio'n fanwl i mewn i bob cymeriad mae'n chwarae. Yn aml, bydd yn aros mewn cymeriad trwy gydol y cyfnod o ffilmio.
Enillodd Wobr yr Academi a BAFTA am yr Actor Gorau am bortreu Christy Brown yn My Left Foot (1989) a Daniel Plainview yn There Will Be Blood (2007). Enillodd Wobr BAFTA arall a Gwobr Cymdeithas yr Actorion Ffilm am ei rôl fel Bill "Y Bwtshiwr" Cutting yn Gangs of New York.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Gandhi (1982)
- My Beautiful Laundrette (1985)
- A Room with a View (1985)
- The Unbearable Lightness of Being (1988)
- The Last of the Mohicans (1992)
- The Age of Innocence (1993)
- In the Name of the Father (1993)
- Lincoln (2012)
Teledu
[golygu | golygu cod]- Shoestring (1980)
- How Many Miles to Babylon? (1982)
- My Brother Jonathan (1985)
- The Insurance Man (1986)