Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr
| Enghraifft o: | communist party, plaid wleidyddol |
|---|---|
| Idioleg | comiwnyddiaeth, Marcsiaeth–Leniniaeth |
| Daeth i ben | 1991 |
| Lliw/iau | coch |
| Dechrau/Sefydlu | 1920 |
| Rhagflaenwyd gan | British Socialist Party |
| Olynwyd gan | Chwith Democrataidd, Plaid Gomiwnyddol Prydain |
| Lleoliad yr archif | People's History Museum |
| Aelod o'r canlynol | Communist International |
| Pencadlys | Llundain |
| Enw brodorol | Communist Party of Great Britain |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/019qsf |
| Quora | Communist-party-of-great-britain |
Plaid gomiwnyddol oedd Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr (Saesneg: The Communist Party of Great Britain, CPGB), a sefydlwyd yn 1920 ac a dorrodd i fyny ddechrau'r 1990au. Roedd y CPGB yn weithgar yn yr Alban, Cymru a Lloegr ond dim yng Ngogledd Iwerddon. Bu'n blaid ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth y Chwith am gyfnod. Cyhoeddai'r blaid y papur newyddion dyddiol The Morning Star.
Cymru
[golygu | golygu cod]Yng Nghymru roedd ei chadarnleoedd i'w cael yng Nghymoedd De Cymru, yn enwedig yn ardal Y Rhondda a Merthyr Tudful. Oherwydd ei dylanwad yno, llysenwyd Y Maerdy yn "Moscow Fach" ("Little Moscow") yn ystod Streic Gyffredinol 1926.[1] Un o sefydlwyr y blaid newydd yn 1920 oedd y bardd Cymraeg ac ymgyrchydd gwleidyddol Thomas Evan Nicholas (Niclas y Glais), a fu cyn hynny yn aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol dan arweiniaeth Keir Hardie.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Plaid Gomiwnyddol Prydain (sefydlwyd 1988)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "'Little Moscow' remembers strike", BBC Cymru 04.03.2009.
- ↑ T. E. Nicholas (Niclas y Glais) Archifwyd 2013-10-16 yn y Peiriant Wayback, Prosiect 'Maes y Gad i Les y Wlad', Llyfrgell Genedlaethol Cymru.