Caradog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Caratacus)
Am bobl eraill yn dwyn yr enw Caradog, gweler Caradog (gwahaniaethu).
Caradog yn annerch yr ymerodr Claudius yn Senedd Rhufain (llun gan T. Prytherch)

Roedd Caradog (Brythoneg *Caratācos, Lladin Caratacus neu Caractacus) yn fab i Cunobelinus, brenin llwyth y Catuvellauni, oedd a’u tiriogaeth o gwmpas glan gogleddol Afon Tafwys yn ne-ddwyrain Lloegr. Ymddengys iddo frwydro yn erbyn llwyth cyfagos yr Atrebates a’u gorchfygu. Ffôdd Verica, brenin yr Atrebates, i Rufain ac apeliodd i’r ymerawdwr Claudius am gymorth i adennill ei deynas. Rhoddodd hyn esgus i Claudius ymosod ar Ynys Prydain yn 43 O.C..

Erbyn hyn yr oedd Cunobelinus wedi marw, a Charadog a’i frawd Togodumnus fu’n arwain lluoedd y Catuvellauni yn erbyn byddin Aulus Plautius. Gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid mewn dwy frwydr ar Afon Medway ac Afon Tafwys a chymerodd y llengoedd feddiant ar diriogaethau’r llwyth. Lladdwyd Togodumnus yn y brwydro, ond dihangodd Caradog tua’r gorllewin.

Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Tacitus, daeth Caradog yn arweinydd rhyfel llwyth y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru, gan arwain y brwydro yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ddiweddarach symudodd i diriogaeth yr Ordoficiaid ymhellach i’r gogledd. Yn y flwyddyn 51 bu brwydr rhwng Caradog a’i fyddin o Ordoficiaid a Silwriaid a’r llengoedd Rhufeinig dan Publius Ostorius Scapula, oedd wedi dilyn Aulus Plautius fel llywodraethwr Prydain. Roedd y frwydr yn rhywle yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid, ond ni wyddir ymhle (cynigir weithiau fryngaer Caer Caradog, ger Cerrigydrudion). Gall fod yn rhywle yn agos i’r ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr, efallai ger Afon Hafren. Yn ôl disgrifiad Tacitus roedd Caradog wedi dewis safle amddiffynnol gref, gyda mynyddoedd o’i chwmpas ac afon anodd ei rhydio o’i flaen. Fodd bynnag gorchfygwyd ef gan Scapula, gyda lladdfa fawr. Cymerwyd gwraig a merch Caradog yn garcharorion, ac ildiodd ei frodyr I’r Rhufeiniaid, ond llwyddodd Caradog i ddianc ac aeth i diriogaeth llwyth y Brigantes yng ngogledd Lloegr. Nid oedd Cartimandua, brenhines y Brigantiaid, yn barod i wrthwynebu Rhufain, a throsglwyddodd Caradog iddynt mewn cadwynau.

Cymerwyd Caradog i Rufain fel carcharor, lle rhoddwyd caniatad iddo roi araith i’r Senedd. Ymddengys iddo wneud argraff ffafriol, oherwydd rhyddhawyd ef gan Claudius a chaniatawyd iddo fyw yn Rhufain. Yn ôl yr hanesydd Dio Cassius, pan welodd adeiladau Rhufain holodd “Sut y mae arnoch chi felly, sy’n berchen cymaint, eisiau ein cytiau ni?”

Mae'r achau yn llawysgrif Harley MS 3859 (tua 1100) yn cynnwys "Caratauc map Cinbelin map Teuhant". Nid yw Sieffre o Fynwy yn rhoi enw Caradog, ond mae’n cyfeirio yn Lladin at Arviragus, mab ieuengaf Kymbelinus, sy’n ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid wedi marwolaeth ei frawd hynaf Guiderius. Mewn cyfieithiadau Cymraeg o Sieffre, rhoir ei enw fel Gweirydd fab Cynfelyn, a’i frawd fel Gwydyr.

Nid oes sicrwydd a oes cysylltiad rhwng y Caradog yma a Caradog fab Brân, sy’n gymeriad yn chwedl Branwen ferch Llŷr yn y Mabinogi fel mab Bendigeidfran, sy’n cael ei adael i reoli Prydain tra mae ei dad yn mynd ar ymgyrch i Iwerddon. Dywedir iddo gael ei ddiorseddu gan Caswallon, sy’n cyfateb i Cassivelaunus, oedd yn byw ganrif ynghynt na Charadog.

Mae Opera gan Thomas Arne amCaractacus 1776 mewn 5 Act a berfformwyd 6 Rhagfyr 1776, Llundain, Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]