Cartimandua

Oddi ar Wicipedia
Cartimandua
Ganwyd1 g Edit this on Wikidata
Bu farw69 Edit this on Wikidata
Prydain Fawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBritannia Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, brenhines cyflawn, brenhines Edit this on Wikidata
Swyddbrenhines cyflawn Edit this on Wikidata
PriodVenutius, Vellocatus Edit this on Wikidata

Roedd Cartimandua neu Cartismandua (a deyrnasodd o tua 43 - 69) yn frenhines y Brigantes, sef llwyth Celtaidd yng ngogledd Lloegr.

Daw'r wybodaeth am Cartimandua o weithiau'r hanesydd Rhufeinig Tacitus. Mae Tacitus yn sôn amdani gyntaf yn y flwyddyn 51, ond roedd eisoes wedi bod mewn grym am rai blynyddoedd cyn hynny. Gwnaeth hi a'i gŵr, Venutius, gynghrair â'r Rhufeiniaid a pan ffôdd Caradog at y Brigantes wedi iddo gael ei orchfygu gan Publius Ostorius Scapula tua'r flwyddyn 51, cymerodd ef yn garcharor a'i drosglwyddo i'r Rhufeiniaid.

Rywbryd wedyn, ysgarodd Cartimandua ei gŵr Venutius, a chymerodd ei gludydd arfau, Vellocatus, yn ei le. Datblygodd rhyfel rhyngddi hi a Venutius. Pan ymosododd Venutius ar ei theyrnas yn y flwyddyn 57, cafodd Cartimandua gefnogaeth y Rhufeiniad, a yrrodd filwyr i'w hamddiffyn.

Ym Mlwyddyn y Pedwar Ymerawdwr. 69 OC., manteisiodd Venutius ar yr anghydfod ymhlith y Rhufeiniaid i ymosod eto. Y tro hwn cipiodd y deyrnas. Gyrrodd y llywodraethwr Rhufeinig, Marcus Vettius Bolanus, filwyr i achub Cartimandua o afael Venutius, ond ni allasant adfer y deyrnas iddi. Nid oes cofnod pellach amdani.