Atrebates
Gwedd
| Enghraifft o: | grwp ethnig hanesyddol, llwyth |
|---|---|
| Math | Y Galiaid |
| Rhan o | Belgae, Y Galiaid, Brythoniaid |
![]() | |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02bjlp |

Llwyth Celtaidd a drigai yng ngogledd Gâl oedd yr Atrebates. Roedd ganddynt diriogaeth yn ardal Artois (gogledd Ffrainc). Daw'r enw o'r gair Galeg tybiedig *Ad-trebates, yn ôl pob tebyg, sy'n golygu "ymsefydlwyr". Rhywbryd yn y ganrif 1af CC ymsefydlodd nifer o'r Atrebates yn ne-orllewin Prydain.
Prifddinas y llwyth yng Ngâl oedd Nemetacum. Pan oresgynwyd yr Atrebates gan luoedd Rhufeinig Iwl Cesar yn OC 57, sefydlwyd tref garsiwn a chanolfan weinyddol Atrebatum, sy'n dwyn eu henw, ar safle tref hanesyddol Arras (département Pas-de-Calais).
Brenhinoedd yr Atrebates
[golygu | golygu cod]- Commius, 57 - c. 20 CC
- Tincomarus, c. 20 CC - OC 7, mab Commius
- Eppillus, OC 8 - 15, brawd Tincomarus
- Verica, 15 - 40, brawd Eppillus
