Neidio i'r cynnwys

Cambria County, Pennsylvania

Oddi ar Wicipedia
Cambria County
Mathsir Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCambria Edit this on Wikidata
PrifddinasEbensburg Edit this on Wikidata
Poblogaeth133,472 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2 Tachwedd 1807 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd1,796 km² Edit this on Wikidata
TalaithPennsylvania
Yn ffinio gydaClearfield County, Bedford County, Blair County, Somerset County, Westmoreland County, Indiana County Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.49°N 78.72°W Edit this on Wikidata
Map

Sir yn nhalaith Pennsylvania, Unol Daleithiau America yw Cambria County. Cafodd ei henwi ar ôl Cambria. Sefydlwyd Cambria County, Pennsylvania ym 1807 a sedd weinyddol y sir (a elwir weithiau'n 'dref sirol' neu'n 'brifddinas y sir') yw Ebensburg.

Mae ganddi arwynebedd o 1,796 cilometr sgwâr. Allan o'r arwynebedd hwn, y canran o ffurfiau dyfrol, megis llynnoedd ac afonydd, yw 0.8% . Yn ôl cyfrifiad y wlad, poblogaeth y sir yw: 133,472 (1 Ebrill 2020)[1][2]. Mewn cymhariaeth, yn 2016 roedd poblogaeth Caerdydd yn 361,462 a Rhyl tua 26,000.[3]

Mae'n ffinio gyda Clearfield County, Bedford County, Blair County, Somerset County, Westmoreland County, Indiana County. Cedwir rhestr swyddogol o henebion ac adeiladau cofrestredig y sir yn: National Register of Historic Places listings in Cambria County, Pennsylvania.

Map o leoliad y sir
o fewn Pennsylvania
Lleoliad Pennsylvania
o fewn UDA

Sefydlu

[golygu | golygu cod]

Yn 1794 ymfudodd gweinidog o'r enw Morgan John Rhys i America wedi cael ei siomi gan yr ymateb i radicaliaeth Lloegr. Fe'i ganed yn Llanbradach, Caerffili. Roedd yn bropagandydd enwog dros ryddid pobl, gan groesawu'r Chwyldro Ffrengig, ac phregethodd yn gryf yn erbyn caethwasiaeth. Yn America bu'n gyfrifol am brynu tir a sefydlu gwladfa Gymreig yng ngorllewin Pennsylvania. Rhoddodd yr enw 'Cambria' ar y wladfa newydd a'i brif dref oedd Beulah. Cyhoeddodd bapur newydd yno, The Western Sky. Cychwynnodd enwad newydd, Eglwys Crist, a cheisiai genhadu i'r brodorion Americanaidd.

Credai y dylid creu sir newydd ym Mhennsylvania o'r enw Cambria, ac mai ei dref ef, Beula, a ddylai fod yn ganolfan weinyddol i'r sir. Pan grewyd Sir Cambria gan lywodraeth talaith Pennsylvania yn 1804, collodd Beula y bleidlais i ddod yn brif ganolfan weinyddol o un pleidlais, yn lle hynny, daeth tref gyfagos Ebensburg - a oedd yn wreiddiol yn rhan o Beula - yr anrhydedd honno. Bu farw Rhys bythefnos ar ôl i'r rheithfarn gael ei rhyddhau.[4]










Trefi mwyaf

[golygu | golygu cod]

Mae gan y sir yma boblogaeth o tua 133,472 (1 Ebrill 2020)[1][2]. Dyma rai o'r dinasoedd, trefi neu gymunedau mwyaf poblog y sir:

Rhestr Wicidata:

Tref neu gymuned Poblogaeth Arwynebedd
Johnstown 18411[5] 6.09 mi²
15.774569 km²
Richland Township 12233[5] 20.62 mi²
Cambria Township 5814[5] 50.2 mi²
Adams Township 5752[5] 46.2 mi²
Upper Yoder Township 5147[5] 12.23 mi²
Jackson Township 4236[5] 48 mi²
Portage Township 3432[5] 24.87 mi²
Ebensburg 3404[5] 1.69 mi²
4.374291 km²
Elim 3364[5] 5.245671 km²[6]
5.244605 km²
Cresson Township 2839[5] 12.05 mi²
Allegheny Township 2815[5] 29.42 mi²
Belmont 2771[5] 4.596027 km²[6]
4.596019 km²
Stonycreek Township 2771[5] 3.58 mi²
East Taylor Township 2422[5] 9.12 mi²
Lower Yoder Township 2388[5] 13.13 mi²
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 https://data.census.gov/cedsci/table?t=Populations%20and%20People&g=0100000US,%241600000&y=2020. Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 2020. retrieved: 1 Ionawr 2022. editor: Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau.
  2. 1 2 https://data.census.gov/cedsci/table?t=Populations%20and%20People&g=0100000US,%241600000&y=2020. Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 2020. retrieved: 1 Ebrill 2022. editor: Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau.
  3. ↑ statswales.gov.wales; adalwyd 25 Mawrth 2020.
  4. ↑ Gagermeier, Joseph (2021). A Civilized Mountain: The Story of Ebensburg. Kindle Direct Publishing.
  5. 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 https://data.census.gov/cedsci/table?t=Populations%20and%20People&g=0100000US,%241600000&y=2020
  6. 1 2 2016 U.S. Gazetteer Files