Caer Euni

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Caer Euni
Math bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.9597°N 3.4893°W Edit this on Wikidata
Cod OS SJ00054130 Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw ME015 Edit this on Wikidata

Bryngaer ydy Caer Euni, a leolir ar fryn ger Llandderfel, Gwynedd ac sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Haearn; cyfeiriad grid SH993410.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif Caer Euni yn uchel ar gefnen gul Cefn Caer Euni ger Llandderfel, tua milltir i'r gogledd o Llyn Caer Euni. Mae'r gaer bresennol yn cael ei hamddiffyn gan glawdd mewnol trwchus, ffos a chlawdd allanol. Estyniad ydyw o gaer gynharach y gellir gweld olion un o'i chloddiau yn torri ar draws y gefnen o fewn y gaer ddiweddarach. Ceir olion tua 25 o gytiau crwn yn y gaer.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME015.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Carneddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth ymyl y gaer ceir dwy garnedd ymylfaen o gyfnod Oes yr Efydd. Arferai'r cerrig gynnal tomen o bridd a beddrod yn eu canol, ond fod amser wedi treulio'r pridd gan adael ysgerbwd o gerrig. Dylid cofio nad cylch cerrig fel y cyfryw ydynt, fodd bynnag. Mae'n bosibl i seremoniau neu ddefodau hefyd gael eu cynnal ar y safle.[6] Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r rhif SAM: ME040.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 84.
  2. Cofrestr Cadw.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. Gwefan y BBC
  5. Gwefan CPAT
  6. Data Cymru Gyfan, CADW