Sgwrs:Caer Euni
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Caer Euni[golygu cod]
Mae Caer Euni yn fryngaer eitha pwysig. Mae'r ddwy garnedd sydd gerllaw yn gorwedd yn agos iawn i'r gaer ei hun. Fyddai hyn yn well fel is-adran o'r erthygl am y gaer (heb ei chreu eto) felly? Hyd y gwelaf i does dim llawer iawn i'w ddweud am y ddwy garnedd fel y cyfryw a dydy'r teitl 'Caer Euni (carnedd ymylfaen)' ddim yn gwneud synnwyr achos nid 'Caer Euni' yw enw'r carneddau. Mae'n hwyr heno, ond dwi'n ystyried symud hyn i Caer Euni fory a sgwennu am y gaer gyda'r testun hyn yn adran ar ôl disgrifio'r gaer. Ydy hynny'n swnio'n rhesymol? Yn sicr mae angen yr erthygl am y gaer hon, beth bynnag (ond nid dan yr enw 'Caer Euni (caer)', gobeithio...). Anatiomaros 23:46, 13 Hydref 2010 (UTC)