Llyn Caer Euni
Jump to navigation
Jump to search
Math |
llyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.952692°N 3.51652°W ![]() |
![]() | |
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Caer Euni (hefyd: Llyn Caer-Euni). Saif ar fryn Cefn Caer Euni tua hanner ffordd rhwng Llandderfel (i'r de) a Dinmael i'r gogledd yng ngogledd-ddwyrain ardal Meirionnydd. Uchder: tua 330 medr.
Llyn bychan o siap crwn yw Llyn Caer Euni, mewn ardal o rosdir agored, coedwigoedd a chaeau bychain. Dyma brif darddle Afon Merddwr, un o ledneintiau Afon Ceirw yn Sir Conwy tua 5 milltir i'r gogledd.
Tua milltir i'r dwyrain ceir bryngaer Caer Euni, sy'n dyddio o Oes yr Haearn.
‘Deigryn Duw’ oedd disgrifiad y llyn gan Gerallt Lloyd Owen pan oedd o’n byw yn Sarnau.