Cadwaladr Jones, Yr Hen Olygydd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cadwaladr Jones)
Cadwaladr Jones, Yr Hen Olygydd
GanwydMai 1783 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw1867 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Athrofa Wrecsam Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, golygydd Edit this on Wikidata
PlantC. R. Jones Edit this on Wikidata

Roedd Cadwaladr Jones (Mai, 17835 Rhagfyr 1867) yn Weinidog Annibynnol a golygydd Y Dysgedydd. Gan ei fod wedi golygu'r Dysgedydd am 31 o flynyddoedd, roedd yn cael ei adnabod wrth y llys enw "Yr Hen Olygydd".[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Yr Hen Olygydd yn y Deildref Uchaf, Penantlliw Bach, Llanuwchllyn, yn blentyn i John Cadwaladr a Dorothy ei wraig, tyddynwyr gweddol gysurus eu byd. Dydy union ddyddiad ei eni ddim yn wybyddus. Cafodd ei fedyddio ar 1 Mehefin 1783 yn eglwys blwyf Llanuwchllyn. Yn ôl ei dystiolaeth ei hun, cafodd ei eni rhywbryd ym mis Mai'r un flwyddyn.[2] Ef oedd unig blentyn ei rieni.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Doedd ei rieni, ddim yn bobl grefyddol iawn, ond byddent yn mynychu eglwys Llanuwchllyn yn achlysurol. Does dim cofnod o ba fodd y cafodd Cadwaladr Jones tröedigaeth a arweiniodd at ymuno a'r Annibynnwr ond cafodd ei dderbyn yn aelod o'r eglwys yn yr Hen Gapel, Llanuwchllyn gan Dr. George Lewis, ym mis Mai, 1803, pan yn ugain mlwydd oed.[3]

Dechreuodd bregethu yng Ngorffennaf 1806. Ym Mis Tachwedd o'r un flwyddyn aeth i Athrofa'r Annibynwyr yng Ngwrecsam.

Ym 1810, derbyniodd alwad i fod yn olynydd i Hugh Pugh, Brithdir, dros y nifer fawr o gapeli a sefydlwyd gan er ragflaenydd yn ne orllewin Meirionnydd.—Brithdir, Rhydymain, Llanelltyd, y Cutiau ger Abermaw, Islaw'r Dref, Dolgellau, Tabor. Llwyngwril, Llanegryn a Thywyn, Meirionnydd.[4]

Cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Nolgellau ar 23 Mai 1811.

Er gwaethaf ehangder maith ei ofalaeth, prin iawn oedd ei gyflog fel gweinidog, a hollol wirfoddol oedd ei lafur fel golygydd ar y cychwyn. Cynhaliai ei hun a'i deulu yn bennaf trwy amaethu fferm Cefnmaelan yn Llanfachraeth. Ŵyr i'r Hen Olygydd oedd Syr Cadwaladr Bryner Jones,[5] athro amaethyddiaeth ym mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Wrth iddo heneiddio dechreuodd i raddol ildio maes eang ei weinidogaeth i weinidogion eraill. Ymddeolodd o'r Cutiau a Llanelltyd ym 1818. Brithdir a Rhydymain ym 1839. Dolgellau ac Islaw'r dref ym 1858. Ar ôl rhoi'r gorau o'i ofalaeth ym Nolgellau ac islaw'r dref aeth yn gyd weinidog ar gapel Llanfachraeth gyda'r Parch Edward Davies, Trawsfynydd a Thabor gyda'r Parch Robert Ellis, Brithdir.[6]

Golygydd[golygu | golygu cod]

Ym 1800 dechreuodd y Wesleaid achos Gymraeg yng Ngoledd Cymru, dan arweiniad Edward Jones, Bathafarn a John Bryan. Ar ddechrau'r diwygiad Methodistaidd roedd cytundeb anffurfiol rhwng John Wesley a Howel Harris, mae Harris a'i gyfeillion byddai'n gyfrifol am efengylu yn y Gymraeg heb ymyrraeth gan Wesley a'i ddilynwyr.[7] Gan hynny unig bresenoldeb Wesleaeth yn y wlad cyn 1800 oedd ychydig o gapeli Saesneg yn ardaloedd oedd wedi ei Seisnigeiddio. O'r cychwyn dechreuodd y Wesleaid Gymraeg ymosod yn egnïol ar Galfiniaeth yr enwadau Ymneilltuol oedd yno o'u blaen. Bu gwrthymosod yr un mor fyrbwyll a chiaidd gan yr hen Galfiniaid. Canlyniad y frwydr bu gwthio'r ddwy blaid i eithafion gyda'r Wesleaid yn mynd yn fwy "Arminaidd" na'u cyd enwadwyr Seisnig ar Calfiniad yn troi at uchel Galfiniaeth eithafol. Yr oedd nifer o weinidogion amlwg yr Annibynwyr, yn y Gogledd, wedi eu dylanwadu gan Galfiniaeth cymedrol diwinyddion Americanaidd.[8] Ofnent y byddai tuedd y Methodistiaid Calfinaidd i gilio i uchel Galfiniaeth yn rhoi tir i'r Arminiad rhyddfrydol ehangu. Roedd y gweinidogion Annibynnol am sefydlu "system newydd"[9] yn y tir canol. Ym 1821 Penderfynodd dwsin ohonynt i gychwyn cylchgrawn newydd i ledaenu'r drefn newydd, Sef y Dysgedydd Crefyddol. Y deuddeg oedd: David Jones, Treffynnon;[10] David Morgan, Machynlleth;[11] Robert Everett, Dinbych;[12] Cadwaladr. Jones, Dolgellau; William Williams o'r Wern;[13] John Evans, Biwmares; Benjamin Evans, Bagillt; D. Roberts, Bangor; Robert Roberts, Treban; Edward Davies, Rhoslan; John Roberts, Llanbrynmair, a William Hughes, Dinas. [14]

Cytunodd y 12 i ddanfon erthyglau yn rheolaidd i'r cylchgrawn newydd er mwyn sicrhau cynnwys digonol i'w gynnal. Penodwyd Cadwaladr Jones i olygu'r cylchgrawn. Nid oedd tal i fod am gyfraniadau, a byddai unrhyw elw i fynd at gynnal Athrofa yn y Bala i sicrhau bod "y system newydd" yn cael ei ddysgu i ddarpar weinidogion yr enwad.

Oherwydd natur ei sefydlu roedd y Dysgedydd yn chwarae rhan flaenllaw yn nadleuon crefyddol y dydd. Arfer Cadwaladr Jones fel golygydd oedd gadael i ddadl rhedeg dros ychydig rifynnau a phan deimlai bod yr ymryson wedi rhedeg ei gwrs, byddai'n cloriannu dadleuon y naill ochor ar llall a rhoi ei farn ef ar y mater i gloi'r drafodaeth. Yn ôl John Thomas Lerpwl yng nghofiant Cadwaladr Jones gan Robert Thomas, (Ap Vychan), [15]

Ceid ei holl sylwadau pan wnâi hwy yn "eiriau doethineb;" a phan draethai ef ei farn, nid oedd ond ofer i neb ymgyndynu, am y gwnâi hynny gyda'r fath briodoldeb, fel y barnai agos pawb, pa un bynnag a gytunent a'i olygiadau ef ai peidio, mai cystal oedd ei gadael yn y fan honno.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ym 1813 priododd Cadwaladr Jones â Margaret, merch i Rees Griffith, ac Ellen Jones, o'r Farchynysfawr, ger Abermaw. Bu iddynt tri o blant, ond bu ddau ohonynt farw yn eu babandod. Bu farw Margaret ym 1819. Ym 1823, priododd am yr ail dro â Catherine, merch arall o'r Bermo. Bu iddynt chwech o feibion. Bu Catherine mawr ym 1844. Ym 1847, priododd â Mrs. Ellin Williams, gwraig weddw o'r Maesgwyn, Llanuwchllyn, ni fu plant o'r briodas olaf. Bu Ellin farw ym 1864.

Bu farw yr Hen Olygydd ym 1867 yn 85 mlwydd oed o henaint a gwenid y galon. Cafodd Catherine, ei ail wraig a mam y cyfan ond un o'i feibion, ei chladdu ym mynwent capel yr annibynwyr ym Mhenucha'r-dref, Dolgellau. Ar adeg farwolaeth Cadwaladr Jones roedd trefniadau ar waith i symud yr achos o'r hen gapel i gapel presennol y Tabernacl. Gan nad oedd sicrwydd be fyddai dyfodol yr hen fynwent, penderfynodd y meibion i godi corff eu mam a'i ail gladdu ym mynwent capel Brithdir ychydig cyn angladd eu tad, a rhoi eu tad i orwedd yn yr un bedd.[16]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "JONES, CADWALADR (1783 - 1867), gweinidog gyda'r Annibynwyr a golygydd cyntaf Y Dysgedydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-02-07.
  2. Thomas (Ap Vychan), Robert (1870). "Helyntion boreuol, o'i febyd hyd ei ordinhad yn Nolgellau, yn 1811" . Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau. Lerpwl: Swyddfa "Y Tyst Cymreig". t. 138.
  3. Rees, Abertawe, Thomas; Thomas, Lerpwl, John (1871). "Dolgellau-Cofnodiad Bywgraphyddol" . Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1. Lerpwl: Swyddfa'r Tyst. t. 454.
  4. Roberts (J.R.), John (Rhagfyr 1824). "Dysgedydd crefyddol | Cyf. III rhif. 12 - Rhagfyr 1824 | 1824 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2024-02-07.
  5. "JONES, Syr CADWALADR BRYNER (1872 - 1954), gŵr amlwg yn hanes addysg amaethyddol Cymru a gwas sifil o fri | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-02-07.
  6. Rees, Thomas; Thomas, John (1871). Hanes Eglwysi Annibynol Cymru. 1. Lerpwl: Swyddfa y Tyst. tt. 457–460.
  7. Jones, John Morgan; Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I; Abertawe 1895, Pen:14 Tud:344
  8. Jones, David Samuel (1894). "XV Nodweddion Neillduol Ein Gwrthddrych" . Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern. Dolgellau: William Hughes. t. 368.
  9. Gweddillion Llenyddol gan W Parri Huws yn Y dysgedydd crefyddol, Hen Gyf. 543 Cyf. New. 48 - Tachwedd 1906
  10. "JONES, DAVID (1770 - 1831), gweinidog gyda'r Annibynwyr, emynydd a cherddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-02-07.
  11. "MORGAN, DAVID (1779 - 1858), gweinidog gyda'r Annibynwyr a hanesydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-02-07.
  12. "EVERETT, ROBERT (1791 - 1875), a'i frawd EVERETT, LEWIS (1799 - 1863); gweinidogion gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-02-07.
  13. "WILLIAMS, WILLIAM (1781 - 1840), o'r Wern,' gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-02-07.
  14. Davies (Dewi Emlyn), David (1879). "Gweinidogaeth Dr. Everett yn Ninbych" . Cofiant y diweddar Barch Robert Everett. Utica, Talaith Efrog Newydd: T. J. Griffiths. tt. 16–18.
  15. Thomas, John (1870). "Y Golygydd" . In Thomas (Ap Vychan), Robert (gol.). Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau. Lerpwl: Swyddfa "Y Tyst Cymreig". t. 138.
  16. "Claddedigaeth Hen Olygydd y Dysgedydd - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1867-12-21. Cyrchwyd 2024-02-07.