Bethan Sayed

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bethan Sayed
Bethan Sayed


Deiliad
Cymryd y swydd
1 Mai 2007

Geni (1981-12-09) 9 Rhagfyr 1981 (37 oed)
Aberdâr, Rhondda Cynon Taf
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Alma mater Prifysgol Aberystwyth

Gwleidydd o Gymraes yw Bethan Sayed (ganed 9 Rhagfyr 1981) sy'n Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru ers 2007. Ar adeg ei ethol Bethan oedd yr aelod ieuangaf yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ar ei blog mae hi'n disgrifio ei hun fel rhywun sy'n "weithredwr, yn canu'r fiola, caru'r ffilm Amelie, ac yn casau hysbysebion".

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Bethan Jenkins yn Aberdâr, yn ferch i'r bardd Mike Jenkins. Mae o dras rhannol Wyddelig gyda'i mam yn dod o Ogledd Iwerddon. Ei brawd yw'r newyddiadurwr, Ciaran Jenkins ac mae ganddi chwaer iau, Niahm. Fe'i magwyd ym Merthyr Tudful lle roedd ei rhieni yn weithgar gyda Mudiad Gwrth Apartheid y 1980au ac 1990au. Aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen ac yna astudiodd Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ym Mhrifysgol Cymru, Aberstwyth.

Yr achos gweriniaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Sayed yn honni ei bod yn weriniaethwraig o argyhoeddiad ac yn erbyn y cardiau adnabod.

Ar ddechrau Tachwedd 2007, cododd Bethan gwestiwn penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i enwi'r dlws ar gyfer gemau rhyngwladol rhwng Cymru a De Affrica yn "Gwpan y Tywysog William". Dywedodd ei bod yn rheitiach enwi'r dlws yn "Gwpan Ray Gravell" er cof am y diweddar chwaraewr rygbi enwog a gwladgarwr twymgalon.

Ym mis Mehefin 2012, aeth Jenkins i ddŵr poeth o herwydd sylwadau ar wefan rhwydweithio cymdeithasol Twitter, wedi cwyno am gyfarfod rhwng Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon Martin McGuinness a'r Frenhines Elizabeth II mewn derbyniad elusennol. Ar ôl i Aelodau Llafur Cymru cwyno am y sylwadau, dywedodd Jenkins ei bod hi'n gofidio o gael ei chyhuddo o "geisio ansefydlogi" y broses heddwch, a'i bod hi am roi'r gorau i Twitter am y tro[1]

Yfed a gyrru[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod oriau gynnar Sul 14 Hydref 2012, cafodd Jenkins ei arestio gan Heddlu De Cymru yn Llandaf, Caerdydd am yrru'n afreolaidd. Pan gafodd prawf alcohol, cafwyd bod hi fwy na dwywaith y terfyn cyfreithiol[2]. Ar ôl hynny, cyhoeddodd Jenkins ddatganiad, yn ddweud nad oedd "dim esgusodion" am yr hyn a wnaeth, a bod hi wedi ymddiswyddo fel llefarydd y Blaid ar dreftadaeth, yr iaith Gymraeg a chwaraeon. Dywedodd ei datganiad hefyd ei bod wedi cael cymorth meddygol proffesiynol ar gyfer iselder ysbryd. Ar ddydd Llun 15 Hydref, ataliwyd Jenkins o grŵp ACau Plaid Cymru "tra bod y broses gyfiawnder yn cymryd ei gwrs". Ar 12 Tachwedd 2012, cafodd Bethan ei gyhuddo o yfed a gyrru, ac ar 19 Rhagfyr cafodd ei wahardd rhag gyrru am 20 mis[3].

Priodas[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Mawrth 2018 priododd a Rahil Abbas Sayed yn Lonavala, India[4].

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Janet Davies
Aelod Cynulliad dros Orllewin De Cymru
2007 – presennol
Olynydd:
deiliad
Rhagflaenydd:
Laura Anne Jones
Baban y Cynulliad
2007 – presennol
Olynydd:
deiliad

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]