Benjamin Evans (Telynfab)
Benjamin Evans | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1844 Dowlais |
Bu farw | 23 Awst 1900 Aberdâr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr, glöwr |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Roedd Benjamin Evans (2 Mai, 1845 – 23 Awst, 1900) yn Weinidog gyda'r Bedyddwyr, yn awdur ac yn fardd.[1]
Cefndir[golygu | golygu cod]
Ganwyd Telynfab yn Nowlais, yn ail blentyn a mab hynaf John Evans, glöwr, a Sarah ei wraig. Roedd ei dad yn hanu o Sir Gaerfyrddin a'i fam o Geredigion. Fe dderbyniodd rhyw fath o addysg fel plentyn bach, gan fod cyfrifiad 1851 yn ei ddisgrifio fel mab 6 oed at school.[2] Ni pharodd ei gyfnod dan addysg yn hir iawn gan ei fod wedi dechrau gweithio yn y pwll glo erbyn ei fod yn wyth oed. Roedd y gwaith mor galed i blentyn mor ifanc, bu'n rhaid i'w dad ei gario fe i ac o'r gwaith yn aml. [3] Ym 1860 symudodd y teulu i Aberpennar, lle fu Telynfab, ei dad a Thomas, ei frawd iau, yn gweithio fel glowyr. Ym 1866 lladdwyd y tad mewn damwain yn y pwll glo, gan adael Telynfab a'i frodyr gyda'r angen i ddarparu ar gyfer eu mam weddw a saith o blant.[4]
Bywyd crefyddol[golygu | golygu cod]
Roedd tad Telynfab yn aelod gyda'r Bedyddwyr, er nid oedd ei fam yn aelod eglwysig. Roedd Telynfab yn mynychu'r oedfaon yng Nghapel Moriah, Dowlais gyda'i dad. Yn 12 oed daeth o dan deimladau dwys o grefydd mewn oedfa ym Moriah, arhosodd ar ôl ar gyfer y seiat, ac wedi adrodd ei brofiad ceisiodd aelodaeth gyflawn o'r eglwys trwy fedydd.[3]
Ychydig wedi marwolaeth ei dad ym 1866 dechreuodd Telynfab pregethu, fel pregethwr cynorthwyol, yng nghapel y Rhos Aberpennar. Ychydig yn llai na blwyddyn ar ôl dechrau pregethu, rhoddodd gorau i'w waith yn y pwll glo ac aeth i ysgol y Graig yn Abertawe i baratoi ar gyfer yr arholiadau mynediad i Athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd. Llwyddodd yn yr arholiadau a dechreuodd ar gwrs hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yn yr Athrofa ym 1868.[5]
Ar ddiwedd ei drydedd flwyddyn yn yr athrofa derbyniodd Telynfab alwad i fugeilio capel Seion, Tŷ Dewi.[6]
Ar ôl pum mlynedd yn Nhŷ Dewi dderbyniodd alwad gan gapel y Gadlys, Aberdâr lle fu'n weinidog am weddill ei oes.[5]
Yn ystod ei weinidogaeth yn y Gadlys fe'i dewiswyd gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yn asiant dros Gymru, ac yn ddiweddarach fe'i henwyd yn Ysgrifennydd y Gymdeithas gyfan. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Cenhadaeth Gartrefol Cymanfa Ddwyrain Morgannwg. Gwasanaethodd fel llywydd Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg.[7]
Llenor[golygu | golygu cod]
Dechreuodd Telynfab ymddiddori yn y byd llenyddol yn ifanc. Bu'n cystadlu yn llwyddiannus yn eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol yr ysgol Sul a rhai lleol Aberpennar. Y llyfr cyntaf iddo ei gyhoeddi oedd traethawd ar "Effeithiau Niweidiol Strikes ar Fasnach y Byd" ym 1871, tra'n fyfyriwr yn Athrofa Hwlffordd.[8] Fel darlithydd poblogaidd, cyhoeddwyd nifer fawr o'i ddarlithoedd fel llyfrynnau. Bu'n cyfrannu'n aml i golofnau'r Gwladgarwr, y Geninen, Seren Cymru, ac eraill. Bu'n drysorydd yr Hauwr—cylchgrawn Ysgolion Sul Bedyddwyr Cymru, a bu yn un o olygyddion yr Herald Cenhadol Cymreig (a chyfrannydd rheolaidd i'w golofn farddonol). Roedd yn feirniad ac arweinydd poblogaidd mewn eisteddfodau lleol yng nghylch Aberdâr.[9] Bu hefyd yn arweinydd cymanfaoedd canu.
Ei gampwaith llenyddol oedd ei gofiant swmpus am Thomas Price (Calfaria, Aberdâr) sef, Bywgraffiad y diweddar Barchedig T. Price MA PhD[10] a gyhoeddwyd gan argraffwasg Jenkin Howell, Aberdâr ym 1891.
Bywyd cyhoeddus amgen[golygu | golygu cod]
Yn ogystal a'i gyfraniad fel gweinidog a llenor, bu Telynfab yn chware rhan amlwg ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol ei fro.
Yn ystod cyfnod olaf Telynfab fel glöwr, bu cryn anghydfod parthed gyfundrefn y sifft dwbl. Gan ysgrifennu i'r wasg dan y ffugenw "Nero", daeth y pregethwr ifanc i amlygrwydd fel cefnogwr pybyr i ofynion y gweithwyr.[5]. Roedd yn gefnogwr brwd o'r Blaid Ryddfrydol, a fu yn areithio o blaid ethol Richard Fothergill a William Pritchard Morgan yn Aelodau Seneddol Dros Bwrdeistref Merthyr Tudful . Mewn un o'r cyfarfodydd cyfeiriodd Pritchard Morgan ato fel "Esgob y Gadlys". Glynodd yr enw, a daeth y llysenw yn fwy poblogaidd na'i enw barddol, wrth gyfeirio ato'n anffurfiol.[11]
Ym 1894 daeth yn un o aelodau cyntaf Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr, a pharhaodd yn aelod hyd ei farw. Gwasanaethodd fel clerc i Lywodraethwyr Ysgol Ramadeg y Bechgyn Aberdâr, ac etholwyd ef pedair gwaith yn olynol fel aelod o Fwrdd Ysgol Canolradd Aberdâr.[12]. Gwasanaethodd fel llywydd canghennau Aberdar o Urdd y Gwir Iforiaid ac Urdd yr Alffrediaid.
Teulu[golygu | golygu cod]
Ymbriododd Telynfab ag Annie James o Bentyrch, Morgannwg. Bu iddynt chwech o blant tri mab a thair merch.[13]
Marwolaeth[golygu | golygu cod]
Bu farw yn ei gartref, yn Ffordd Gadlys, Aberdâr yn 55 mlwydd oed. Bu farw o newyn a achoswyd gan diwmor a oedd yn rhwystro bwyd rhag symud o'i oesoffagws i'w stumog. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Aberdâr.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ EVANS, BENJAMIN ('Telynfab '; 1844 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Chw 2024
- ↑ Yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad 1851 ar gyfer Tramroad Side, Merthyr Tudful. Cyfeirnod 107/2459, ffolio 229, tudalen 32, annedd 126
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Cylchgronau Cymru LlGC Y Geninen Cyf. XIX Rhif. 3 - Gorffennaf 1901, tudalen 210; Y Parch B Evans (Telynfab) gan R. E. Williams Twrfab Adferwyd 5 Chw 2024
- ↑ "MOUNTAIN ASH - The Aberdare Times". Josiah Thomas Jones. 1866-06-16. Cyrchwyd 2024-02-05.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Cynon Culture "Benjamin Evans "Telynfab" 1844-1900" Archifwyd 2023-12-11 yn y Peiriant Wayback. Adferwyd 5 Chw 2024
- ↑ Archif Cyngor Sir BenfroAdferwyd 5 Chw 2024
- ↑ Roberts, T. R; a Williams, Robert; Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen who have attained distinction from the earliest times to the present; Educational Publishing Company, Caerdydd, 1908. Tudalen 92, erthygl Benjamin Evans (1845-1900) Adferwyd 5 Chw 2024
- ↑ "Y Wasg - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1871-02-17. Cyrchwyd 2024-02-05.
- ↑ "EISTEDDFOD AT TREALAW - The South Wales Star". Herbert Morgan. 1892-04-22. Cyrchwyd 2024-02-06.
- ↑ Evans (Telynfab), Benjamin (1891). . Aberdâr: Jenkin Howell.
- ↑ Cylchgronau Cymru LlGC Y Cenad Hedd, Cyf. XVIII rhif. 205 - Ionawr 1898 tudalen 30 A welsoch chi esgob? Adferwyd 6 Chw 2024
- ↑ "Marwolaeth Y Parch B Evans Gadlys Aberdar - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1900-08-31. Cyrchwyd 2024-02-06.
- ↑ Archifau Morgannwg Telynfab: Y Parchedig Benjamin Evans o Aberdâr Adferwyd 5 Chw 2024