Bywgraffiad y diweddar Barchedig T. Price

Oddi ar Wicipedia
Bywgraffiad y diweddar Barchedig T. Price
Wynebddalen
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, cofiant Edit this on Wikidata
AwdurBenjamin Evans (Telynfab)
CyhoeddwrJenkin Howell, Aberdâr
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1891 Edit this on Wikidata
GenreBywgraffiad,
Lleoliad cyhoeddiAberdâr Edit this on Wikidata
Prif bwncThomas Price Edit this on Wikidata

Mae Bywgraffiad y diweddar Barchedig T. Price MA PhD , gan y Parch. Benjamin Evans (Telynfab) [1] yn gofiant a gyhoeddwyd gan argraffwasg Jenkin Howell, Aberdâr ym 1891.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn adrodd hanes Y Parchedig Dr Thomas Price (17 Ionawr, 1820 - 29 Chwefror, 1888). Roedd Thomas Price. yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn ffigwr blaenllaw ym mywyd gwleidyddol Cymru oes Fictoria[2]. Fei ganwyd Llanhamlach, Sir Frycheiniog (Powys bellach), roedd yn nodedig am ei ran yn nhwf anghydffurfiaeth yn gyffredinol ac achos y Bedyddwyr yn benodol yn ardal Aberdâr ar adeg pan oedd y dref yn cael ei drawsnewid gan ddatblygiad diwydiannol, yn arbennig trwy dwf y fasnach glo. Roedd hefyd yn nodedig am fod yn un o'r cyntaf i sicrhau rôl amlwg i anghydffurfiaeth ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol y cymoedd diwydiannol newydd. Ysgrifennwyd y llyfr ar gyfer cystadleuaeth ar y testun Bywgraffiad Thomas Price yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberhonddu 1889. Enillodd Telynfab y gystadleuaeth gan dderbyn 25 gini (£26.25) o wobr ariannol a bathodyn aur. Gwobr ariannol hael iawn, gwerth dros £ 12,200.00 yn 2018 gan gymharu enillion cyfartalog.[3] Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r cofiant yn sôn am fagwraeth Price yn Llanhamlach ac yn rhoi hanes rhai o'i hynafiaid a'i deulu agosaf. Ceir hanes ei swyddi gyntaf yn fachgen 13 oed fel gwas ffarm ac yna fel macwy i deulu Clifton, Ystâd Tŷ Mawr, Llanfrynach. Fel macwy cafodd cyfle i deithio trwy'r cyfandir gyda'r teulu. Wedi rhoi'r gorau i fod yn facwy oherwydd marwolaeth ei feistr ceir manylion am ei brentisiaeth fel peintiwr tai yn Aberhonddu a sut iddo cael ei droi at grefydd ac enwad y Bedyddwyr yn y cyfnod hon. Mae'r llyfr yn mynd ar daith gyda Price i Lundain lle fu'n gweithio fel peintiwr tai i gwmni adeiladu Peto a Gazelle ac yn sôn am sut y ddefnyddiodd ei amser yn y ddinas i wella ei addysg. Yn Llundain mae'n dechrau pregethu hefyd. Wedi iddo symud o Lundain caeir hanes Price yn Athrofa'r Bedyddwyr ym Mhont-y-pŵl.[5]

Mae nifer o benodau sy'n trin a thrafod gweinidogaeth hir Price fel gweinidog y Bedyddwyr yn Aberdâr. Mae sôn am dwf y cwm yn ystod y datblygu diwydiannol a gwaith Price yn adeiladu capeli newydd i ddiwallu anghenion crefyddol y boblogaeth Cymraeg newydd. Mae'n cynnwys yr hanes difyr am sut y bu un o gyd weinidogion, Dewi Elfed, yn ceisio "dwyn" un o'r capeli i'w ddefnyddio fel addoldy i'r Mormoniaid. Ceir adroddiadau manwl am waith cyhoeddus Price ym meysydd addysg, iechyd a glanweithdra a'i gefnogaeth i achos y Blaid Ryddfrydol. Mae pennod sy'n disgrifio daith a wnaed gan Price i'r Unol Daleithiau a phennod am ei ddyddiaduron. Mae'r llyfr yn darfod gyda phenodau sy'n rhoi enghreifftiau o ffraethder, pregethau ac areithiau Price.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Y Parchedig Dr Thomas Price

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jenkins, R. T., (1953). EVANS, BENJAMIN (‘Telynfab’; 1844 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Ion 2020
  2. Y Bywgraffiadur PRICE, THOMAS ( 1820 - 1888 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr adalwyd 23/01/2020
  3. Measuring Worth average earnings calculator adalwyd 23 Ionawr 2020
  4. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2020-01-24.
  5. Evans, Benjamin (1891). Bywgraffiad y diweddar Barchedig T. Price. Copi am ddim ar Internet Archive: Aberdar : J. Howell.