Richard Fothergill

Oddi ar Wicipedia
Richard Fothergill
Ganwyd8 Tachwedd 1822 Edit this on Wikidata
Ystâd Lowbridge Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mehefin 1903 Edit this on Wikidata
Dinbych-y-pysgod Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, meistr haearn Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PlantSydney Roden Fothergill Edit this on Wikidata

Roedd Richard Fothergill (8 Tachwedd 1822 - 24 Mehefin 1903) yn feistr haearn Cymreig, perchennog gwaith glo ac yn wleidydd Rhyddfrydol a oedd yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin o 1868 i 1880.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd Fothergill yn fab i Richard Fothergill o Lowbridge House, ger Kendal a'i wraig Charlotte Elderton, merch Charles Elderton, Ysw. Addysgwyd ef yn Academi Filwrol, Caeredin[1]

Arfbais Richard Fothergill

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Olynodd Fothergill ei ewythr Rowland Fothergill (1749-1871) fel rheolwr gwaith haearn Aberdâr gan ddod yn berchenog y gwaith yn ddiweddarach. Yn ystod y cyfnod bu ymgyrch yn erbyn y cwmni o herwydd ei ddefnydd o'r system trycio (talu gweithwyr efo arian bath y cwmni, nad oedd modd ei wario ond yn siopau oedd yn eiddo i'r cwmni). Roedd yr ymgyrch yn cael ei arwain gan Y Parch Thomas Price gweinidog Capel Calfaria. Yn ddiweddarach daeth Fothergill a Price yn gynghreiriaid mewn gwleidyddiaeth leol.[2]

Yn dilyn cau gwaith haearn Aberaman ym 1858, daeth Fothergill y meistr haearn mwyaf sylweddol yng nghwm dâr, er bod ei gweithfeydd yn Llwydcoed ac Abernant yn fychan o gymharu â'r rhai ym Merthyr.[3] Ym 1862 daeth yn berchennog ar waith haearn Plymouth ger Merthyr gan ddatblygu'r busnes yn sylweddol drwy gyflwyno'r system chwyth boeth. Daeth yn berchenog ar waith Penydarren hefyd, a thrwy hynny yn caffael bron cymaint bri a phoblogrwydd ym Merthyr a oedd ganddo yn Aberdâr.[4] Fe'i penodwyd yn Ynad Heddwch a Dirprwy Raglaw Sir Forgannwg ac yn Ynad Heddwch Sir Benfro.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Erlyniad achos Etholiad Bwrdd Iechyd Aberdâr[golygu | golygu cod]

Ym 1854 cafodd Fothergil ei ethol i Fwrdd Iechyd Lleol cyntaf Aberdâr ac yn fuan daeth yn gadeirydd y bwrdd. Ym 1857 cafodd Fothergill ei erlyn am gamymddwyn honedig yn ystod etholiad y Bwrdd Iechyd. Fel cadeirydd y bwrdd ef oedd yn gyfrifol am weinyddu'r etholiad. Honnwyd ei fod wedi derbyn rhai pleidleisiau annilys ac wedi gwrthod rhai dilys. Fe'i cafwyd yn ddi-euog gan y Llys Ynadon ar y sail nad oedd y dystiolaeth yn dangos unrhyw fwriad i dwyllo, dim ond camgymeriad a cham ddealltwriaeth.[5]

Yn ddios, roedd penderfyniad y llys yn un dêg. Roedd hawl i etholwyr dewis 5 ymgeisydd allan o 9 enw ar y papur pleidleisio. Y modd o bleidleisio oedd trwy roi blaen lythrennau yn y bwlch ger enw'r ymgeiswyr roedd yr etholwr yn ffafrio ac i arwyddo ei enw ar waelod y papur. Un o'r pleidleisiau a honnwyd i Fothergill ei dderbyn fel un ddilys drwy dwyll oedd un Morgan ap Richard Morgan. Roedd y papur wedi ei gyflwyno i Morgan Morgan. Pleidleisiodd Morgan trwy roi MP yn y blwch ac arwyddo Morgan Prichard. Doedd Fothergill dim ymysg y sawl a fwriodd Morgan ei bleidlais drostynt

O ganlyniad i'r bennod hon penderfynodd Fothergill ymddeol o fywyd cyhoeddus dros dro. Ond fe wnaeth yr achos gryfhau'r berthynas rhwng Fothergill a Thomas Price, a fu'n cyd-ymgeisydd yn yr etholiad.[6] Bu hefyd yn foddion idddo gefnogi'r cysyniad o bleidlais ddirgel.

Richard Fothergill

Gyrfa Seneddol[golygu | golygu cod]

Yn etholiad cyffredinol 1868, daeth etholaeth Merthyr Tudful yn etholaeth a oedd yn ethol dau aelod o dan Ddeddf Diwygio'r Senedd 1867. O dan yr un ddeddf ehangwyd yr etholfraint yn yr etholaeth yn sylweddol. Ers ffurfio'r etholaeth ym 1832 roedd etholwyr oedd yn byw yn nhref Merthyr wedi dominyddu cynrychiolaeth yr etholaeth gyda llawer llai o ddylanwad gan etholwyr a oedd yn byw yn y rhan o'r etholaeth a oedd yng nghylch Aberdâr.[7] Yn Ystod y 1850au a'r 1860au, fodd bynnag, bu i boblogaeth Aberdâr tyfu yn gyflym, a thrwy newidiadau i'r etholfraint yn sgil deddf 1867, rhoddodd y bleidlais i nifer fawr o lowyr yng Nghwm Dâr.

Penderfynodd Rhyddfrydwyr Cwm Dâr eu bod nhw am ddewis yr ymgeisydd am ail sedd newydd yr etholaeth a gyda chefnogaeth Thomas Price enwebwyd Fothergill fel eu hymgeisydd. Yn wreiddiol gwrthododd Fothergill yr enwebiad gan ddweud y dylai'r enwebiad mynd i anghydffurfiwr radical[8]. Fe enwebwyd ymgeisydd anghydffurfiol radical gan etholwyr tref Merthyr, sef Henry Richard, yr Apostol Heddwch. Gan fynnu cael ymgeisydd o ardal Aberdâr penderfynodd Rhyddfrydwyr y cylch eu bod am barhau efo'u henwebiad o Fothergill. Gan hynny bu tri ymgeisydd Rhyddfrydol dros y ddwy sedd. Henry Austin Bruce, deiliad y sedd, Fothergill a Richard. Gan fod Bruce yn amhoblogaidd ymysg yr etholwyr dosbarth gweithiol newydd o ganlyniad i'w weithredoedd yn ystod Streic lofaol Aberdâr 1857- 1858, fe gollodd ef ei sedd yn etholiad 1868 gan ddod yn drydydd y tu ôl i Richard a Fothergill[9].

Llwyddodd Ffothergill i ddal ei sedd hyd Etholiad Cyffredinol 1880 pan benderfynodd gamu lawr o'r Senedd o herwydd trafferthion ariannol ei fusnesau.[10]

Teulu[golygu | golygu cod]

James Sant, Mary Fothergill a'i phlant Richard a Mary. Olew ar gynfas, wedi'i arddangos yn yr Academi Frenhinol  ym 1864. (ail wraig Fothergill).

Bu Fothergill yn briod ddwywaith. Ym 1848 priododd ei wraig gyntaf, Elizabeth Lewis, merch Edward Lewis, bu iddynt un ferch. Bu farw Elizabeth ym 1849[11]. Priododd ei ail wraig ym 1850 sef Mary Roden, merch William Roden o Grindal Hall, Swydd Amwythig, bu iddynt chwech o blant.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Symudodd Fothergill i Ddinbych y Pysgod wedi iddo ymddeol a bu farw yno yn 80 mlwydd oed[12]. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd mewn plot teuluol ym mynwent gyhoeddus y dref[13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mair, Robert Henry. (1870) Debrett's Illustrated House of Commons, and the Judicial Bench. 1870. London: Dean & Son, p. 107.
  2. Jones. Thomas Price (Part One). pp. 169–71.
  3. Jones. Thomas Proce (Part Two). p. 251.
  4. Price, Watkin William. "Richard Fothergill III". Welsh Biography Online.
  5. "ABERDARE - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1857-10-31. Cyrchwyd 2018-05-25.
  6. Jones. Thomas Price (Part One). pp. 171–2.
  7. Jones. Thomas Price (Part Two). p. 251.
  8. Jones. Thomas Price (Part Two). pp. 263–4.
  9. "THE 1868 ELECTION - The Aberdare Leader". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1919-08-02. Cyrchwyd 2018-05-25.
  10. "REPRESENTATION OF MERTHYR - The Merthyr Telegraph and General Advertiser for the Iron Districts of South Wales". Peter Williams. 1879-08-01. Cyrchwyd 2018-05-25.
  11. "FamilyNotices - The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette". Henry Webber. 1849-07-28. Cyrchwyd 2018-05-25.
  12. "DEATHOFMRFOTHERGILL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-06-24. Cyrchwyd 2018-05-25.
  13. "IFUNERALOFMRRICHARDFOTHERGILL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-06-29. Cyrchwyd 2018-05-25.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Austin Bruce
Aelod Seneddol
18681880
gyda Henry Richard
Olynydd:
Henry Richard
Charles Herbert James