John Charles

Oddi ar Wicipedia
John Charles
John Charles: Cymru yn erbyn Yr Alban, Parc Ninian, 1954
FfugenwIl Gigante Buono Edit this on Wikidata
Ganwyd27 Rhagfyr 1931 Edit this on Wikidata
Cwmbwrla Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 2004 Edit this on Wikidata
Wakefield Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr, rheolwr pêl-droed Edit this on Wikidata
Taldra188 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau89 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auJuventus F.C., C.P.D. Dinas Caerdydd, Leeds United A.F.C., Hereford United F.C., Merthyr Tydfil F.C., A.S. Roma, C.P.D. Dinas Abertawe, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Leeds United A.F.C. Edit this on Wikidata
Safleblaenwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd John Charles (27 Rhagfyr 193121 Chwefror 2004) yn chwaraewr pêl-droed o Abertawe — y chwaraewr gorau mae Cymru erioed wedi'i gynhyrchu, yn ôl rhai.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yng Nghwmdu, ger Abertawe, a bu'n chwarae dros glwb pêl-droed Leeds United o 1949 i 1957. Yn ystod yr adeg hon, fe sgoriodd 150 o goliau, gan gynnwys 42 o goliau yn y tymor 1953-1954.

John Charles

Ym 1957 fe'i trosglwyddwyd i'r tîm enwog Eidalaidd, Juventus, am dâl o £65,000, a oedd yn record ar y pryd. Bu'n chwarae dros Juventus am bum mlynedd, gan sgorio 93 o weithiau mewn 155 o gêmau. Enillodd y scudetto (pencampwriaeth y cynghrair Eidalaidd) dair gwaith, a'r Cwpan Eidaleg ddwywaith. Ei lysenw yn yr Eidal oedd Il Gigante Buono, neu Y Cawr Caredig, gan na chafodd ei rybuddio na'i anfon o'r cae trwy gydol ei yrfa.

Ar ôl iddo adael Juventus ym 1962, chwaraeodd dros glwb Leeds United eto, ac A.S. Roma yn yr Eidal, a gorffennodd ei yrfa gyda chlwb Dinas Caerdydd.

Chwaraeodd John Charles am y tro cyntaf dros dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru pan oedd yn 18 mlwydd a 71 diwrnod o oedran. Charles oedd calon tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden pan gollodd Cymru y rownd chwarter-derfynol 1-0 i dîm Brasil, enillwyr y twrnamaint—ni chwaraeodd Charles yn y gêm hon oherwydd anaf.

Tra'n hybu llyfr ym Milano yn yr Eidal yn Ionawr 2004, fe ddioddefodd drawiad ar y galon, a bu'n rhaid torri rhan o'i droed cyn ei hedfan yn ôl i Loegr. Yn gynnar ar fore Dydd Sadwrn, 21 Chwefror, bu farw yn ysbyty Pinderfields yn Wakefield.

Roedd ei frawd Mel Charles hefyd yn beldroediwr rhyngwladol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Cliff Jones (g. 7 Chwefror 1935), Cymru, Abertawe a Tottenham Hotspur

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]