Stuart Williams
Gwedd
| Stuart Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 Gorffennaf 1930 Wrecsam |
| Bu farw | 5 Tachwedd 2013 Southampton |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed |
| Taldra | 178 centimetr |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Southampton F.C., West Bromwich Albion F.C., C.P.D. Wrecsam, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
| Safle | amddiffynnwr |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Pêl-droediwr o Gymro oedd Stuart Grenville Williams (9 Gorffennaf 1930 – 5 Tachwedd 2013)[1] a chwaraeodd i Wrecsam, Southampton, West Bromwich Albion, a thîm cenedlaethol Cymru.
Ganwyd Williams yn Wrecsam a mynychodd Ysgol Acton Park cyn symud i Ysgol Ramadeg Grove Park, a gynrychiolodd mewn pêl-droed. Chwaraeodd bêl-droed hefyd i Glwb Ieuenctid Victoria tra roedd yn gweithio i gwmni yswiriant. Ymunodd â Wrecsam (lle'r oedd ei dad yn gyfarwyddwr) fel amatur yn Awst 1949, gan wneud pum ymddangosiad yn y gynghrair cyn cael ei lofnodi gan West Bromwich Albion yn Nhachwedd 1950.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Ponting, Ivan (10 Ionawr 2014). Stuart Williams: Footballer whose sterling World Cup service in the Welsh defence elicited a glowing tribute from Pele. The Independent. Adalwyd ar 11 Ionawr 2014.
- ↑ Holley, Duncan; Chalk, Gary (2003). In That Number – A post-war chronicle of Southampton FC. Hagiology Publishing. t. 602. ISBN 0-9534-4743-X.