Jack Kelsey

Oddi ar Wicipedia
Jack Kelsey
Ganwyd19 Tachwedd 1929 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mawrth 1992 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auArsenal F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Saflegôl-geidwad Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Alfred John "Jack" Kelsey (19 Tachwedd 1929 - 18 Mawrth 1992) yn gôl geidwad pêl-droed a oedd yn cynrychioli Cymru ar y maes rhyngwladol. Bu hefyd yn chwarae i Arsenal. Fe'i hystyrir yn un o'r gôl geidwaid gorau i'w chwarae dros Gymru.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jack Kelsey yn 382 Jersey Road, Winch Wen, Llansamlet, yn ail blentyn i Alfred Kelsey, smeltiwr a Sarah Ann (née Howe) ei wraig.[2]

Cafodd ei addysg yn Ysgol y Cwm, Bron y Maen (cyn iddi droi'n ysgol Gymraeg). Wedi ymadael a'r ysgol bu'n gweithio yn y gwaith haearn.

Ym 1954 priododd a Myrtle Elsie Hodgetts. Bu iddynt dau fab.[3]

Gyrfa pêl droed[golygu | golygu cod]

Dechreuodd gyrfa pêl-droed Kelsey gyda'i dîm lleol ym mhentrefan Winch Wen, tîm roedd ei dad yn gadeirydd arni. Fel plentyn ysgol gwasanaethodd fel mascot y tîm cyn mynd ymlaen i chware i'r tîm ieuenctid. Daeth ei gyfnod fel aelod o'r tîm ieuenctid i ben pan gafodd ei alw i'r fyddin i gyflawni ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol gorfodol. Wedi dychwelyd o'r fyddin ymunodd a thîm cyntaf Winch Wen a oedd yn chware yng Nghynghrair Abertawe a'r Fro.[4]

Yng ngem olaf tymor 1948 - 1949 cafodd Kelsley gêm arbennig o dda, gan lwyddo i arbed dwy gôl gosb anodd iawn. Roedd ei berfformiad wedi gwneud argraff ar ddyfarnwr y gêm a awgrymodd iddo y byddai'n werth iddo ystyried mynd ar brawf gydag un o'r timau mawr, gan gynnig ei gyflwyno i dîm Bolton. Un o'r chwaraewyr fu'n ceisio sgorio o'r smotyn yn aflwyddiannus oedd cyn chwaraewr Arsenal, Len Morris, cynigiodd Morris ei gyflwyno i dîm Arsenal yn hytrach na Bolton.[4] Cafodd ei arwyddo gan Arsenal fel gôl geidwad wrth gefn i ddirprwyo dros eu prif gôl geidwad, George Swindin.

Wedi dwy flynedd ar y fainc, gwnaeth Kelsey ei ymddangosiad cyntaf dros dîm cyntaf Arsenal yn erbyn Charlton Athletic ar 24 Chwefror 1951 yn Highbury, gan fod Swindin wedi cael anaf. Nid oedd ei ymddangosiad cyntaf yn un llawn clod; gadawodd pum gôl i mewn i'r rhwyd wrth i'w dîm coll 5-2; eu colled gwaethaf gartref ers 1928. Gwnaeth Kelsey gyfanswm o bedwar ymddangosiad y tymor hwnnw, gan gael ei ollwng unwaith y dychwelodd Swindin.[5].

Ar ôl tymor arall yn y cronfeydd wrth gefn, dychwelodd i'r ochr yn ystod tymor 1952-53 , gan rannu dyletswyddau gôl geidwad gyda Swindin a Ted Platt; gwnaeth 29 o ymddangosiadau mewn ochr a enillodd teitl yr Adran Gyntaf. Arweiniodd ei lwyddiant iddo ddisodli Swindin fel y golwr dewis cyntaf (gyda Swindin yn gwneud dau ymddangosiad yn unig yn nhymor 1953-1954). Parhaodd i fod gôl geidwad dewis cyntaf Arsenal yn ystod yr wyth tymor nesaf.[5] Dim ond anaf i'w fraich mewn gêm Cwpan FA yn erbyn Sheffield United ym 1959 a roddodd Kelsey allan o'r ochr Arsenal am gyfnod sylweddol, gyda Jim Standen yn cymryd drosodd yn y cyfamser.

Bu cyfnod Kelsey fel prif gôl geidwad Arsenal yn un lle nad oedd llawer o lewyrch ar y tîm. Eu safle cynghrair gorau oedd y trydydd safle ym 1958 - 1959 ac ni chafodd y tîm unrhyw lwyddiant mewn gemau cwpan. Dim ond llwyddiant Kelsley yn y gôl fu'n gyfrifol am eu cadw yn dîm "gweddol" yn hytrach na thîm "gwael".[5] Gan hynny mae'n dal i gael ei ystyried gan y clwb fel un o'u prif gôl geidwaid erioed.[6]

Gyrfa Ryngwladol[golygu | golygu cod]

Daeth Kelsey yn gôl geidwad dewis cyntaf rheolaidd tîm cenedlaethol Cymru, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf ym 1954 gan chware yn erbyn Gogledd Iwerddon yn Wrecsam. Enillodd cyfanswm o 41 cap dros ei wlad. Ef oedd gôl geidwad Cymru yng Nghwpan y Byd 1958, unig ymddangosiad y wlad yn yr ornest terfynol hyd yn hyn. Llwyddodd Cymru i fynd trwodd i rownd yr wyth olaf yn y bencampwriaeth gan golli'r gêm i Frasil, a aeth ymlaen i ennill y cwpan. Er i Gymru colli'r gêm roedd cyfraniad Kelsey yn enfawr. Anelodd Brasil at y gôl 31 o weithiau gyda dim ond ergyd gan Pelé a wiriodd oddi ar y Cymro Stuart Williams yn llwyddo i guro Kelsey yn y 70ain munud.[4] Arweiniodd llwyddiant Kelsey i gadw gymaint o ergydion allan y rhwyd i bapurau Brasil ei lysenwi Y gath gyda'r pawennau magnetig [5] er bod Kelsey ei hun yn dweud mai taenu ei ddwylo gyda gwm cnoi, nid magneteg, oedd yn gwneud i'r bêl gludo i'w ddwylo.[7]

Yn ogystal â chware i dîm Cymru, bu Kelsey hefyd yn gôl geidwad i dîm Prydain Fawr a'r Iwerddon mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Tîm gweddill Ewrop ym 1955 [2] a thîm Dinas Llundain yn erbyn Barcelona yn ffeinal cystadleuaeth Cwpan y Ffair Rhyng ddinesig ym 1958.

Daeth gyrfa Kelsey i ben wedi iddo gael anaf difrifol i'w gefn wrth chware mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Brasil ym mis Mai 1962. Ar 20 Mai 1963 cafwyd gêm dysteb iddo rhwng Arsenal a Rangers lle casglwyd £7,000 iddo.

Bywyd wedi pêl droed[golygu | golygu cod]

Ar ôl ymddeol fel chwaraewr, gweithiodd Kelsey fel rheolwr siop a loteri Arsenal gan godi yn ddiweddarach i fod yn rheolwr masnachol y clwb, cyn ymddeol ym 1989. Bu farw yn Friern Barnet Llundain ym 1992, yn 62 mlwydd oed.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 2010, urddwyd Kelsey yn aelod o Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru .[1] Yn ystod tymor 2009 -2010 rhoddodd Clwb pêl Droed Arsenal lluniau o 32 o fawrion y clwb o amgyll stadiwm yr Emirates. Mae Jack Kelsey ymysg y marion hyn.[8]

Ym 1958 cyhoeddodd hunangofiant ar y cyd â Brian Glanville gyda'r teitl "Over the bar"[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]