Magnet

Oddi ar Wicipedia
Darnau haearn yn dangos patrwm y maes magnetig o amgylch magned

Magnet yw unrhyw ddeunydd sy'n cynhyrchu maes magnetig o'i amgylch. Gall hyn ddigwydd yn naturiol, ceir rhai creigiau magnetig, ond fel rheol maen yn cael eu cynhyrchu. Magned parhaol yw un sy'n cynhyrchu maes magnetig yn barhaol. Ar y llaw arall, mae electromagned yn cynhyrchu maes magnetig oherwydd bod gwiften drydannol wedi ei dolennu o'i gwmpas; heb y trydan, nid yw'n cynhyrchu maes magnetig.

Gwneir magnet allan o ddeunydd magnetig, sef haearn, dur, nicel a chobalt. Gelwir yr ardal o gwmpas magnet yn faes magnetig neu’n fflwcs magnetig. Cynrychioli’r fflwcs magnetig mewn diagramau efo llinellau ac arwyddion yn pwyntio o bôl y gogledd tua phôl y de- po agosaf yw’r llinellau yma, y cryfaf yw’r maes magnetig.

Gwelir atyniad rhwng dau bôl annhebyg a gwrthyriad rhwng dau bôl tebyg. Pan roddir dau bôl tebyg yn agos i’w gilydd, mae yna bwynt niwtral rhwng y ddau fagnet lle mae’r maes cydeffaith yn achosi i’r meysydd canslo.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.