Pen Talar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MystBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: en:Pen Talar
ehangu
Llinell 26: Llinell 26:
====Rhaglen 2====
====Rhaglen 2====
Erbyn yr ail raglen, mae Defi bellach yn 17 oed ac mae ganddo ddiddordeb brwd yng [[gwleidyddiaeth|ngwleidyddiaeth]]. Gwelwn yn glir ei fod yn ddyn ifanc sydd yn [[cenedlaetholdeb|genedlaetholgar]] a theimla'n angerddol dros sefyllfa Cymru a'r iaith. Fe'i ystyrir yn fachgen hynod ddeallus sydd yn osgoi gweithgareddau arferol i ddyn ifanc o'i oedran ef.

Mae wedi aeddfedu i fod yn foi ifanc gwladgarol, cryf ac angerddol.

Ar ddechrau'r bennod, daw Enid i mewn i ystafell wely Defi gan ofyn iddo beth mae'n gwneud. Gwelwn ateb gwleidyddol Defi wrth iddo ddweud ei fod yn aros i'r byd newydd. Yna, mae'n rhoi sigarennau yn ei boced ac yn mynd i siop recordiau lleol, o'r enw "Carmarthen Music". Chwaraeir y gan "Born to be Wild" yn y cefndir. Tu allan i'r siop, gwelwn faneri Jac yr Undeb yn cael eu codi a lluniau o'r Tywysog Siarl o amgylch y lle. Rhydd hyn yr argraff mai'r flwyddyn yw 1969 a bod yr ardal yn paratoi ar gyfer yr Arwisgo. Daw'n amlwg nad yw Defi'n hapus gyda'r sefyllfa pan ddywed wrth Albert "Blydi brainwashed, Albert, pawb yn blydi brainwashed." Cerdda Defi i mewn i dy Albert.

Dechreua'r ail ran gyda saethiad agos o fwg dathlu'r arwisgiad yn cael ei falu gan garreg. Gwelwn wedyn mai Defi a falodd y cwpan. Yna gwelwn Doug yn y cefndir yn 'smygu sigaret. Yn yr olygfa nesaf, cawn siot dros ysgwydd Defi ohono'n darllen y papur newydd a'r pennawd "F.W.A. Trial Verdict Tomorrow" yn glir o'i flaen. Mae'r teulu cyfan yn lolfa Pen Talar a dywedir fod Sian yn mynd i gyngerdd yn [[Neuadd y Brangwyn]], [[Abertawe]] gyda Phillip, is-reolwr y banc lle mae Sian yn gweithio. Cawn yr argraff hefyd nad yw Defi yn or-hoff o gariad newydd ei chwaer. Cwyn Enid Lewis y papur newydd gan edrych ar y pennawd. Dywed "Carchar geith y cwbl o nhw... fel esiampl... i ddarbwyllo pobl ifenc erill rhag potshan 'da shwt ddwli.'

Yn yr olygfa nesaf, gwelwn Defi'n edrych ar bapur newydd arall gyda'r pennawd "The Boy Born to be King". Trosleisir bwletin newyddion yn son am yr ofnau o ymosodiadau terfysgol. Sonia'r adroddiad am fomwyr Abergele, George Taylor ac Alwyn Jones. Cyfeiria hefyd at [[Mudiad Amddiffyn Cymru|Fudiad Amddiffyn Cymru]]. Pan fo Enid yn beirniadu'r bomwyr, cerdda Defi allan o'r ty gan wisgo ei gap gyda logo MAC arno. Pan mae ef tu allan, saif ger wal yn edrych ar ddathliadau'r arwisgo, gyda baneri Jac yr Undeb yn gymysg gyda gwisgoedd traddodiadol Gymreig. Daw Doug, sy'n rhan o'r dathliadau, draw ato. Tra yno, cyfarfu Defi ag Awen. Disgrifir Defi fel "brainbox y Chweched" a "revolutionary y pentre'". Gwelir yr atyniad rhwng Defi ac Awen yn glir. Wrth iddi adael, gwel Defi rhith o [[Lorraine Evans]]. Diflanna'r rhith yn sydyn hefyd. Yn yr olygfa nesaf, mae Defi yn y fynwent, wrth fedd Lorraine Evans. Tynn eu gap FWA fel arwydd o barch iddi.

Yn yr olygfa nesaf, ceir clip fideo o arwisgiad y Tywysog Siarl. Gwelir Enid Lewis yn gwylio'r seremoni. Cerdda Sian a Phillip i mewn i'r ystafell. Cawn wybod nad yw [[John Lewis]] yn cytuno a'r arwisgiad chwaith. Daw John i mewn i'r ystafell gyda'r newydd fod Caio a Coslett wedi cael pymtheg mis o garchar yr un. Dengys ymateb Phillip ei ddiffyg ymwybyddiaeth o faterion cenedlaetholgar. Yna, mae Defi'n mynd tu allan ac yn codi baner Cymru tu allan i'r ty gyda'i dad. Dywed John mai'r ffordd i brotestio yw trwy ddulliau di-drais ac nid gyda bomiau. Ni ddywed Defi unrhyw beth. Mae'r ddau'n mynd am daith yn y car. Dywed John fod "clown yn cael coron bradwyr lan yng Nghaernarfon." Darllena John un o gerddi [[R.S.Thomas]] "The Small Window" i Defi.

Dechreua'r drydedd ran gyda Defi yn darllen yn yr ysgol. Chwaraeir y gan "Rhywbeth gwell i ddod" gan [[Meic Stevens]] yn y cefndir. Gwelwn Defi yn edrych ar Awen. Yna gwelir Defi yn ei ystafell wely. Mae'r olygfa nesaf nol yn yr ysgol a gwelir Defi yn rhoi amlen gydag enw Awen arno mewn desg bren draddodiadol. Torrir ar ei draws wrth i'r athro ddod i mewn i'r ystafell. Derbynia Awen y llythyr pan fo'r athro'n galw'r gofrestr. Am ei bod yn darllen y llythyr, nid yw'n ymateb i'r gofrestr. Dywed yr athro wrthi i ddarllen "y campwaith" i'r dosbarth. Cawn wybod mai cerdd ydyw wrth Defi. Geiriau'r gerdd ydy:
''I Miss You<br> I burn with longing<br>In my brain, foxgloves open<br>breathing heat<br>I yearn for the balm of your c-u-n-<br>''
Mae'r athro yn mynd i hol Defi er mwyn ei gywilyddio am ysgrifennu cerdd o'r fath. Fel cosb, cymer yr athro bathodyn Swyddog Defi. Pan mae'n dychwelyd adref, caiff slap wrth ei fam. Daw John Lewis i'r ysgol er mwyn delio a'r sefyllfa ond cymer ochr ei fab gan ddweud fod ganddo'r hawl i ysgrifennu sut bynnag gerdd i bwy bynnag a fynno.

Cawn wybod hefyd fod Awen yn mynd allan gyda bachgen arall sy'n dweud wrth Defi i beidio ag ysgrifennu cerdd i Awene eto. Hefyd, gwel Defi yr athro, Maldwyn yn dal dwylo disgybl sy'n canu'r piano. Daw un o ffrindiau Awen a llythyr i Defi yn gofyn iddo gwrdd a hi yn y disco. Gadawant y disco gyda Doug ac Irfona hefyd. Ant i guddio yn y capel lle mae Doug ac Irfona yn cusanu ar y llawr. Torrir ar eu traws gan Mr. Price. Cusana Dewi ac Awen yn y glaw.

Dechreua'r bedwaredd ean gyda defi'n ysgrifennu llythyr o gefnogaeth o John Jenkins yn y carchar. Cawn wybod mai Defi yw ymgeisydd [[Plaid Cymru]] yn ffug-etholiad yr ysgol. Dywed Defi wrth Sian ei bod hi'n canlyn Phillip er mwyn plesio'i mam yn unig. Daw swyddogion Plaid Cymru i'r ty gyda phosteri ymgyrch etholiadaol Gwynfor Evans.

Ffonia Awen dy Defi. Ateba Enid y ffon gan ddweud wrthi i gadw bant wrth Defi ac i beidio a ffonio eto. Mae Awen a'i chariad, Webi, yn gwahanu. Ymosoda Webi ar Defi am ei fod yn ei feio ef. Mae Defi'n mynd i dy Awen lle mae hi'n trin ei glwyfau. Dywed Awen wrth Defi ei bod wedi ffonio'i gartref. Dychwela Defi adref ac mae'n cweryla gyda'i fam. Mae Defi'n gadael ei gartref, mynd i dy Doug ac yn gofyn as gaiff ef aros yno. Dywed Defi wrth y Doug y dylent fod wedi dweud beth welsant yn y goedwig. Pe byddent wedi gwneud hynny, yna byddai Lorraine dal yn fyw. Clywa tad Doug y sgwrs. Daw tad Defi i'r ty i fynd ag ef adref.

Gwelir y ffug-etholiad yn yr ysgol. Gwna Defi araith rymus a saif Awen a'i chyd-ddisgyblion ar eu traed i gymeradwyo. Daw Defi'n rhyw fath o arwr yn yr ysgol. Cusana Awen a Defi'n angerddol. Gwelwn ffilm o ganlyniad etholiad cyffredinol pan gollodd Gwynfor Evans a disgrifir y dydd fel "diwrnod du".

Mae Defi'n herio Maldwyn gan gyfeirio at farwolaeth Lorraine. Dywed Defi iddo ef a Douglas weld y cyfan. Dywed Defi ei fod am wynebu'r gwir er mwyn Lorraine. Mae'n bygwth Maldwyn os na fydd ef yn gadael ef ac Awen i fod, yna bydd yn dweud wrth bawb. O ganlyniad, gwelwn Maldwyn yn gadael ei gartref. Rhydd Defi a Doug flodau ar fedd Lorraine. Chwaraea'r gan "Everybody's Talking" yn y cefndir tra bod Defi ac Awen yn cusanu ac yn dadwisgo. Dywed y ddau eu bod yn caru ei gilydd.

====Rhaglen 3====
====Rhaglen 3====

Fersiwn yn ôl 18:15, 24 Hydref 2010

Pen Talar

Siot sgrîn o logo'r gyfres
Genre Drama
Serennu Richard Harrington
Ryland Teifi
Mali Harries
Aneirin Hughes
Eiry Thomas
Dafydd Hywel
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg (is-deitlau Saesneg)
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 9
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c.60 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Darllediad gwreiddiol 12 Medi, 20109 Tachwedd, 2010
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Un o gyfresi ddrama mwyaf uchelgeisiol S4C ydy Pen Talar. Mae'r gyfres yn adrodd hynt a helynt dau deulu o orllewin Cymru dros gyfnod o hanner canrif, gan ddechrau yn y 1950au ac yn parhau i'r presennol. Nid yw'r prif gymeriad Richard Harrington yn ymddangos tan y drydedd rhaglen o'r gyfres am fod y rhaglenni blaenorol yn dangos hanes bywyd ei gymeriad fel plentyn. Ffilmiwyd rhannau helaeth o'r gyfres yn Cil-y-Cwm, Sir Gaerfyrddin ond gwnaed rhyw faint o ffilmio yn Aberystwyth ac yng Nghaerdydd hefyd. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Fiction Factory. Cynhyrchydd y gyfres oedd Gethin Scourfield a chyfarwyddwyd rhaglenni'r gyfres gan Gareth Bryn ac Ed Thomas.

Crynodeb o'r rhaglenni

Rhaglen 1

Mae'r rhaglen gyntaf yn ymdrin â theulu'r Lewisiaid rhwng 1962-63. Gwelwn gymeriad Defi yn ddeng mlwydd oed. Mae'n byw yn Nyffryn Tywi ger Caerfyrddin. Mae ganddo gefndir dosbarth canol ac mae wedi derbyn addysg o safon uchel. Er iddo gael ei faldodi gan ei fam (Enid Lewis), mae ganddo elfen annibynnol iawn i'w bersonoliaeth. Mae Defi hefyd yn gannwyll llygad ei dad (John Lewis) hefyd, a phan mae'n 10 oed, mae'n amlwg ei fod yn ednygu ei dad yn fawr iawn. Gwelwn yn glir fod Defi yn fachgen deallus. Mae hefyd yn gyfaill agos i Douglas Green.

Rhaglen 2

Erbyn yr ail raglen, mae Defi bellach yn 17 oed ac mae ganddo ddiddordeb brwd yng ngwleidyddiaeth. Gwelwn yn glir ei fod yn ddyn ifanc sydd yn genedlaetholgar a theimla'n angerddol dros sefyllfa Cymru a'r iaith. Fe'i ystyrir yn fachgen hynod ddeallus sydd yn osgoi gweithgareddau arferol i ddyn ifanc o'i oedran ef. Mae wedi aeddfedu i fod yn foi ifanc gwladgarol, cryf ac angerddol.

Ar ddechrau'r bennod, daw Enid i mewn i ystafell wely Defi gan ofyn iddo beth mae'n gwneud. Gwelwn ateb gwleidyddol Defi wrth iddo ddweud ei fod yn aros i'r byd newydd. Yna, mae'n rhoi sigarennau yn ei boced ac yn mynd i siop recordiau lleol, o'r enw "Carmarthen Music". Chwaraeir y gan "Born to be Wild" yn y cefndir. Tu allan i'r siop, gwelwn faneri Jac yr Undeb yn cael eu codi a lluniau o'r Tywysog Siarl o amgylch y lle. Rhydd hyn yr argraff mai'r flwyddyn yw 1969 a bod yr ardal yn paratoi ar gyfer yr Arwisgo. Daw'n amlwg nad yw Defi'n hapus gyda'r sefyllfa pan ddywed wrth Albert "Blydi brainwashed, Albert, pawb yn blydi brainwashed." Cerdda Defi i mewn i dy Albert.

Dechreua'r ail ran gyda saethiad agos o fwg dathlu'r arwisgiad yn cael ei falu gan garreg. Gwelwn wedyn mai Defi a falodd y cwpan. Yna gwelwn Doug yn y cefndir yn 'smygu sigaret. Yn yr olygfa nesaf, cawn siot dros ysgwydd Defi ohono'n darllen y papur newydd a'r pennawd "F.W.A. Trial Verdict Tomorrow" yn glir o'i flaen. Mae'r teulu cyfan yn lolfa Pen Talar a dywedir fod Sian yn mynd i gyngerdd yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe gyda Phillip, is-reolwr y banc lle mae Sian yn gweithio. Cawn yr argraff hefyd nad yw Defi yn or-hoff o gariad newydd ei chwaer. Cwyn Enid Lewis y papur newydd gan edrych ar y pennawd. Dywed "Carchar geith y cwbl o nhw... fel esiampl... i ddarbwyllo pobl ifenc erill rhag potshan 'da shwt ddwli.'

Yn yr olygfa nesaf, gwelwn Defi'n edrych ar bapur newydd arall gyda'r pennawd "The Boy Born to be King". Trosleisir bwletin newyddion yn son am yr ofnau o ymosodiadau terfysgol. Sonia'r adroddiad am fomwyr Abergele, George Taylor ac Alwyn Jones. Cyfeiria hefyd at Fudiad Amddiffyn Cymru. Pan fo Enid yn beirniadu'r bomwyr, cerdda Defi allan o'r ty gan wisgo ei gap gyda logo MAC arno. Pan mae ef tu allan, saif ger wal yn edrych ar ddathliadau'r arwisgo, gyda baneri Jac yr Undeb yn gymysg gyda gwisgoedd traddodiadol Gymreig. Daw Doug, sy'n rhan o'r dathliadau, draw ato. Tra yno, cyfarfu Defi ag Awen. Disgrifir Defi fel "brainbox y Chweched" a "revolutionary y pentre'". Gwelir yr atyniad rhwng Defi ac Awen yn glir. Wrth iddi adael, gwel Defi rhith o Lorraine Evans. Diflanna'r rhith yn sydyn hefyd. Yn yr olygfa nesaf, mae Defi yn y fynwent, wrth fedd Lorraine Evans. Tynn eu gap FWA fel arwydd o barch iddi.

Yn yr olygfa nesaf, ceir clip fideo o arwisgiad y Tywysog Siarl. Gwelir Enid Lewis yn gwylio'r seremoni. Cerdda Sian a Phillip i mewn i'r ystafell. Cawn wybod nad yw John Lewis yn cytuno a'r arwisgiad chwaith. Daw John i mewn i'r ystafell gyda'r newydd fod Caio a Coslett wedi cael pymtheg mis o garchar yr un. Dengys ymateb Phillip ei ddiffyg ymwybyddiaeth o faterion cenedlaetholgar. Yna, mae Defi'n mynd tu allan ac yn codi baner Cymru tu allan i'r ty gyda'i dad. Dywed John mai'r ffordd i brotestio yw trwy ddulliau di-drais ac nid gyda bomiau. Ni ddywed Defi unrhyw beth. Mae'r ddau'n mynd am daith yn y car. Dywed John fod "clown yn cael coron bradwyr lan yng Nghaernarfon." Darllena John un o gerddi R.S.Thomas "The Small Window" i Defi.

Dechreua'r drydedd ran gyda Defi yn darllen yn yr ysgol. Chwaraeir y gan "Rhywbeth gwell i ddod" gan Meic Stevens yn y cefndir. Gwelwn Defi yn edrych ar Awen. Yna gwelir Defi yn ei ystafell wely. Mae'r olygfa nesaf nol yn yr ysgol a gwelir Defi yn rhoi amlen gydag enw Awen arno mewn desg bren draddodiadol. Torrir ar ei draws wrth i'r athro ddod i mewn i'r ystafell. Derbynia Awen y llythyr pan fo'r athro'n galw'r gofrestr. Am ei bod yn darllen y llythyr, nid yw'n ymateb i'r gofrestr. Dywed yr athro wrthi i ddarllen "y campwaith" i'r dosbarth. Cawn wybod mai cerdd ydyw wrth Defi. Geiriau'r gerdd ydy: I Miss You
I burn with longing
In my brain, foxgloves open
breathing heat
I yearn for the balm of your c-u-n-
Mae'r athro yn mynd i hol Defi er mwyn ei gywilyddio am ysgrifennu cerdd o'r fath. Fel cosb, cymer yr athro bathodyn Swyddog Defi. Pan mae'n dychwelyd adref, caiff slap wrth ei fam. Daw John Lewis i'r ysgol er mwyn delio a'r sefyllfa ond cymer ochr ei fab gan ddweud fod ganddo'r hawl i ysgrifennu sut bynnag gerdd i bwy bynnag a fynno.

Cawn wybod hefyd fod Awen yn mynd allan gyda bachgen arall sy'n dweud wrth Defi i beidio ag ysgrifennu cerdd i Awene eto. Hefyd, gwel Defi yr athro, Maldwyn yn dal dwylo disgybl sy'n canu'r piano. Daw un o ffrindiau Awen a llythyr i Defi yn gofyn iddo gwrdd a hi yn y disco. Gadawant y disco gyda Doug ac Irfona hefyd. Ant i guddio yn y capel lle mae Doug ac Irfona yn cusanu ar y llawr. Torrir ar eu traws gan Mr. Price. Cusana Dewi ac Awen yn y glaw.

Dechreua'r bedwaredd ean gyda defi'n ysgrifennu llythyr o gefnogaeth o John Jenkins yn y carchar. Cawn wybod mai Defi yw ymgeisydd Plaid Cymru yn ffug-etholiad yr ysgol. Dywed Defi wrth Sian ei bod hi'n canlyn Phillip er mwyn plesio'i mam yn unig. Daw swyddogion Plaid Cymru i'r ty gyda phosteri ymgyrch etholiadaol Gwynfor Evans.

Ffonia Awen dy Defi. Ateba Enid y ffon gan ddweud wrthi i gadw bant wrth Defi ac i beidio a ffonio eto. Mae Awen a'i chariad, Webi, yn gwahanu. Ymosoda Webi ar Defi am ei fod yn ei feio ef. Mae Defi'n mynd i dy Awen lle mae hi'n trin ei glwyfau. Dywed Awen wrth Defi ei bod wedi ffonio'i gartref. Dychwela Defi adref ac mae'n cweryla gyda'i fam. Mae Defi'n gadael ei gartref, mynd i dy Doug ac yn gofyn as gaiff ef aros yno. Dywed Defi wrth y Doug y dylent fod wedi dweud beth welsant yn y goedwig. Pe byddent wedi gwneud hynny, yna byddai Lorraine dal yn fyw. Clywa tad Doug y sgwrs. Daw tad Defi i'r ty i fynd ag ef adref.

Gwelir y ffug-etholiad yn yr ysgol. Gwna Defi araith rymus a saif Awen a'i chyd-ddisgyblion ar eu traed i gymeradwyo. Daw Defi'n rhyw fath o arwr yn yr ysgol. Cusana Awen a Defi'n angerddol. Gwelwn ffilm o ganlyniad etholiad cyffredinol pan gollodd Gwynfor Evans a disgrifir y dydd fel "diwrnod du".

Mae Defi'n herio Maldwyn gan gyfeirio at farwolaeth Lorraine. Dywed Defi iddo ef a Douglas weld y cyfan. Dywed Defi ei fod am wynebu'r gwir er mwyn Lorraine. Mae'n bygwth Maldwyn os na fydd ef yn gadael ef ac Awen i fod, yna bydd yn dweud wrth bawb. O ganlyniad, gwelwn Maldwyn yn gadael ei gartref. Rhydd Defi a Doug flodau ar fedd Lorraine. Chwaraea'r gan "Everybody's Talking" yn y cefndir tra bod Defi ac Awen yn cusanu ac yn dadwisgo. Dywed y ddau eu bod yn caru ei gilydd.

Rhaglen 3

Bellach mae Defi yn 22 oed ac wedi cyrraedd Prifysgol Aberystwyth lle mae ei ddiddordeb ym myd gwleiddiaeth yn parhau. Fodd bynnag, gwelir ei wleidyddiaeth yn mynd yn fwyfwy eithafol a radicalaidd. Erbyn hyn hefyd, mae Doug hefyd yn 22 oed ac wedi cael swydd fel gohebydd i bapur newydd lleol. Mae'n mwynhau'r ffaith ei fod yn ennill arian, a phan mae'n mynd i hol Defi o'r brifysgol, gyrra yno yn ei gar newydd. Er fod y ddau ohonynt yn parhau i fod yn ffrindiau, gwelir y berthynas rhynddynt yn araf ddirywio.

Cast

Dolenni allanol