Gwenlyn Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
|||
{{Gwybodlen Person |
|||
| enw = Gwenlyn Parry |
|||
| delwedd = |
|||
| maint_delwedd = |
|||
| pennawd = |
|||
| dyddiad_geni = {{birth date|1932|6|8|df=yes}} |
|||
| man_geni = [[Deiniolen]], [[Gwynedd]] |
|||
| enw_genedigol = William Gwenlyn Parry |
|||
| dyddiad_marw = {{death date and age|1991|11|5|1932|6|8|df=yes}} |
|||
| man_marw = [[Caerdydd]] |
|||
| achos_marwolaeth = |
|||
| ethnigrwydd = |
|||
| man_claddu = Macpela, [[Pen-y-Groes]], [[Gwynedd]] |
|||
| cartref = |
|||
| cenedligrwydd = {{flagicon|Wales}} [[Cymro]] |
|||
| dinasyddiaeth = |
|||
| enwau_eraill = |
|||
| enwog_am = |
|||
| addysg = |
|||
| cyflogwr = |
|||
| galwedigaeth = [[Dramodydd]] |
|||
| gweithgar = |
|||
| teitl = |
|||
| cyflog = |
|||
| gwerth_net = |
|||
| taldra = |
|||
| pwysau = |
|||
| tymor = |
|||
| plaid = |
|||
| crefydd = |
|||
| priod = Joy, Ann Beynon |
|||
| partner = |
|||
| plant = 2 |
|||
| rhieni = |
|||
| perthnasau = |
|||
| llofnod = |
|||
| gwefan = |
|||
| nodiadau = |
|||
}} |
|||
[[Y Ddrama yn Gymraeg|Dramodydd Cymraeg]] sy'n adnabyddus am ei dramâu arloesol sy'n perthyn i genre [[Theatr yr Abswrd]] oedd '''Gwenlyn Parry''' ([[8 Mehefin]] [[1932]] - [[5 Tachwedd]] [[1991]]).<ref name=":0">[https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhbr9 Llyfr 'The Writers of Wales' gan Roger Owen]; JSTOR; Adalwyd 5 Ionawr 2016</ref> |
[[Y Ddrama yn Gymraeg|Dramodydd Cymraeg]] sy'n adnabyddus am ei dramâu arloesol sy'n perthyn i genre [[Theatr yr Abswrd]] oedd '''Gwenlyn Parry''' ([[8 Mehefin]] [[1932]] - [[5 Tachwedd]] [[1991]]).<ref name=":0">[https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhbr9 Llyfr 'The Writers of Wales' gan Roger Owen]; JSTOR; Adalwyd 5 Ionawr 2016</ref> |
||
Fersiwn yn ôl 07:03, 20 Awst 2019
Gwenlyn Parry | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1932 Deiniolen |
Bu farw | 5 Tachwedd 1991 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr |
Dramodydd Cymraeg sy'n adnabyddus am ei dramâu arloesol sy'n perthyn i genre Theatr yr Abswrd oedd Gwenlyn Parry (8 Mehefin 1932 - 5 Tachwedd 1991).[1]
Bywgraffiad
Ganwyd William Gwenlyn Parry ym mhentref Deiniolen (neu Llanbabo), Gwynedd. Roedd ei dad, William John Parry, yn chwarelwr yn y chwarel lechi cyfagos yn Dinorwig; roedd ei fam Katie Parry (née Griffiths) yn gweithio am sawl blwyddyn fel nyrs yn ysbyty Eryri yn Nghaernarfon. Roedd ganddo un chwaer, Margaret, oedd yn bum mlynedd yn iau.[1]
Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Normal, Bangor. Ar ôl cyfnod yn Llundain lle daeth i adnabod Rhydderch Jones a Ryan Davies a chyfnod fel athro ym Methesda, cafodd swydd fel sgiptiwr gyda BBC Cymru. Ar ôl cyfnod o salwch bu farw yn ardal Caerdydd ar 5 Tachwedd 1991; cafodd ei gladdu ym mynwent Pen-y-groes, Gwynedd.
Ysgrifenodd nifer o benodau i'r gyfres Pobol y Cwm a rhaglenni eraill ar y teledu yn cynnwys Fo a Fe a'r ffilm Grand Slam[2]. Fe'i cofir fel dramodwr yn bennaf am ei ddramâu arloesol o'r 1960au hyd y 1980au. Mae'r rhain yn cynnwys Saer Doliau (1966) ac Y Tŵr (1978). Cryfder y dramâu hyn yw eu cyfuniad o elfen Abswrd, gwrthnaturyddol, a deialog dafodieithol naturiol a chredadwy sy'n creu gwaith arbennig ac unigryw.
Cyfranodd i sgript y ddrama deledu Grand Slam a'r ffilm o Un Nos Ola Leuad (seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Caradog Prichard).
Bywyd personol
Roedd yn briod ddwywaith, yn gyntaf i Joy a roedd ganddynt ddau ferch, Sian Elin (ganwyd 1969) a Catrin Lynwen (ganwyd 1971). Yna fe briododd Ann Beynon a cafodd merch a mab o'i ail briodas.
Dramâu
- Tair Drama (1965)
- Y Ddraenen Fach (1961)
- Poen yn y Bol (1963)
- Hwyr a Bore (1964)
- Saer Doliau (1966)
- Tŷ ar y Tywod (1968)
- Y Ffin (1973)
- Y Tŵr (1978)
- Sál (1982)
- Panto (1986)
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Llyfr 'The Writers of Wales' gan Roger Owen; JSTOR; Adalwyd 5 Ionawr 2016
- ↑ Gwenlyn Parry, BBC Cymru Bywyd; Adalwyd 5 Ionawr 2016