Dorset: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
==Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth== |
==Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth== |
||
===Llywodraeth leol=== |
|||
Rhennir y swydd yn ddau awdurdod unedol: |
|||
* [[Bournemouth, Christchurch a Poole]], sy'n llywodraethu'r prif gytref ar hyd rhan ddwyreiniol yr arfordir sy'n cynnwys y tair tref yn yr enw |
|||
* [[Cyngor Dorset]], sy'n gwasanaethu gweddill y sir, sy'n fwy gwledig |
|||
Daeth y ddau awdurdod i fodolaeth ar [[1 Ebrill]] [[2019]] pan gyfunwyd wyth awdurdod llai: |
|||
* Cyfunwyd y ddau awdurdod unedol Bwrdeistref Bournemouth a Bwrdeistref Poole â'r ardal an-fetropolitan Christchurch i ffurfio Bournemouth, Christchurch a Pool. |
|||
* Crëwyd Cyngor Dorset trwy gyfuno y pum ardal an-fetropolitan: |
|||
**Dwyrain Dorset |
|||
**Gogledd Dorset |
|||
**Gorllewin Dorset |
|||
**Purbeck |
|||
**Weymouth a Portland |
|||
===Cynrychiolaeth genedlaethol=== |
|||
Rhennir y swydd yn wyth etholaeth seneddol yn San Steffan: |
Rhennir y swydd yn wyth etholaeth seneddol yn San Steffan: |
||
* [[Canol Dorset a Gogledd Poole (etholaeth seneddol)|Canol Dorset a Gogledd Poole]] |
* [[Canol Dorset a Gogledd Poole (etholaeth seneddol)|Canol Dorset a Gogledd Poole]] |
Fersiwn yn ôl 16:37, 11 Awst 2019
Math | siroedd seremonïol Lloegr |
---|---|
Prifddinas | Dorchester |
Poblogaeth | 776,780 |
Daearyddiaeth | |
Sir | De-orllewin Lloegr |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 2,813.998 km² |
Yn ffinio gyda | Gwlad yr Haf, Dyfnaint, Wiltshire, Hampshire |
Cyfesurynnau | 50.8333°N 2.3333°W |
Swydd seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dorset (Saesneg: Dorset). Fe'i lleolir yn ne-orllewin y wlad ar lan Môr Udd rhwng siroedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf i'r gorllewin, Wiltshire i'r gogledd a Hampshire i'r dwyrain. Ei brif ddinas a chanolfan weinyddol yw Dorchester. Mae ei thir yn isel ond fe'i croesir gan y Dorset Downs yn y de a'r gogledd. Y prif afonydd yw Afon Frome ac Afon Stour. Sir amaethyddol yw hi'n draddodiadol ond mae twristiaeth yn bwysig hefyd, yn arbennig yn ei threfi arfordirol fel Bournemouth a Weymouth. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer anferth Maiden Castle, ger Dorchester, yn sefyll allan. Mae nifer o lefydd yn y sir yn dwyn cysylltiad â gwaith llenyddol Thomas Hardy. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Wessex.
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
Llywodraeth leol
Rhennir y swydd yn ddau awdurdod unedol:
- Bournemouth, Christchurch a Poole, sy'n llywodraethu'r prif gytref ar hyd rhan ddwyreiniol yr arfordir sy'n cynnwys y tair tref yn yr enw
- Cyngor Dorset, sy'n gwasanaethu gweddill y sir, sy'n fwy gwledig
Daeth y ddau awdurdod i fodolaeth ar 1 Ebrill 2019 pan gyfunwyd wyth awdurdod llai:
- Cyfunwyd y ddau awdurdod unedol Bwrdeistref Bournemouth a Bwrdeistref Poole â'r ardal an-fetropolitan Christchurch i ffurfio Bournemouth, Christchurch a Pool.
- Crëwyd Cyngor Dorset trwy gyfuno y pum ardal an-fetropolitan:
- Dwyrain Dorset
- Gogledd Dorset
- Gorllewin Dorset
- Purbeck
- Weymouth a Portland
Cynrychiolaeth genedlaethol
Rhennir y swydd yn wyth etholaeth seneddol yn San Steffan:
- Canol Dorset a Gogledd Poole
- Christchurch
- De Dorset
- Dwyrain Bournemouth
- Gogledd Dorset
- Gorllewin Bournemouth
- Gorllewin Dorset
- Poole