Ynysdawe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu; + en:
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:


Lleolir Ysgol Gynradd Ynystawe yn y pentref. Mae'n ysgol gyfrwng Saesneg fechan sy'n bwydo [[Ysgol Gyfun Treforys]]. Ceir yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg agosaf yng Nghlydach a [[Llansamlet]], ger llaw.
Lleolir Ysgol Gynradd Ynystawe yn y pentref. Mae'n ysgol gyfrwng Saesneg fechan sy'n bwydo [[Ysgol Gyfun Treforys]]. Ceir yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg agosaf yng Nghlydach a [[Llansamlet]], ger llaw.

==Pobl enwog o Ynysdawe==
* [[Henry Lewis]], ysgolhaig Cymraeg


== Dolen allanol ==
== Dolen allanol ==

Fersiwn yn ôl 22:25, 22 Mawrth 2010

Pentref bychan yn Sir Abertawe yw Ynysdawe (amrywiadau: Ynystawe, Ynys Dawe). Fe'i lleolir ar lan Afon Tawe i'r gogledd o ddinas Abertawe fymryn i'r de o Glydach. Rhed yr M4 heibio i'r de o'r pentref.

Gyferbyn ag Ynysdawe ceir Ynysforgan. Roedd gan y ddau le ran amlwg ym mywyd diwylliannol Morgannwg yn yr Oesoedd Canol am fod dau gartref y Tomasiaid yn gorwedd yno, un yn Ynysforgan a'r llall yn Ynysdawe. Yr enwocaf o'r teulu oedd Hopcyn ap Tomas (tua 1350 - 1400au), casglwr llawysgrifau, brudiwr a noddwr beirdd. Yn ôl traddodiad galwodd Owain Glyndŵr am ei gyngor fel brudiwr yn 1403 ac roedd Llyfr Coch Hergest a nifer o lawysgrifau eraill yn ei feddiant.

Lleolir Ysgol Gynradd Ynystawe yn y pentref. Mae'n ysgol gyfrwng Saesneg fechan sy'n bwydo Ysgol Gyfun Treforys. Ceir yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg agosaf yng Nghlydach a Llansamlet, ger llaw.

Pobl enwog o Ynysdawe

Dolen allanol