Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Hanes: GCD |
→Ymateb: cwyn Cymdeithas |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
==Ymateb== |
==Ymateb== |
||
{{blwch dyfyniad |width=350px |align=right |quote="R'yn ni am i’r iaith gael ei thrin fel cydraddoldebau eraill lle mae unigolion yn cael hawliau sylfaenol. Ac r'yn ni eisiau i'r Mesur ffitio i mewn gyda chyfundrefn hawliau ryngwladol. Mae pobol yn delio gyda materion fel hyn ar draws y byd." |source=Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=10383 |teitl=Ymateb - ‘Tŷ ar y tywod’ yw’r Mesur Iaith |dyddiad=4 Mawrth 2010 |cyhoeddwr=[[Golwg|Golwg360]] |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref> }} |
{{blwch dyfyniad |width=350px |align=right |quote="R'yn ni am i’r iaith gael ei thrin fel cydraddoldebau eraill lle mae unigolion yn cael hawliau sylfaenol. Ac r'yn ni eisiau i'r Mesur ffitio i mewn gyda chyfundrefn hawliau ryngwladol. Mae pobol yn delio gyda materion fel hyn ar draws y byd." |source=Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=10383 |teitl=Ymateb - ‘Tŷ ar y tywod’ yw’r Mesur Iaith |dyddiad=4 Mawrth 2010 |cyhoeddwr=[[Golwg|Golwg360]] |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref> }} |
||
Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel "diwrnod hanesyddol" gan [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg|Gymdeithas yr Iaith Gymraeg]], er disgrifiodd y mudiad hepgor sôn am [[hawliau iaith|hawliau]] o'r mesur "fel [[Dameg yr Adeiladwyr Call a Ffôl|adeiladu tŷ ar dywod]]".<ref>{{dyf gwe |url=http://cymdeithas.org/2010/03/04/ein_ymateb_ir_mesur_iaith_gymraeg.html |cyhoeddwr=[[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]] |teitl=Ein ymateb i'r Mesur Iaith Gymraeg |dyddiad=4 Mawrth 2010 |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref> |
Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel "diwrnod hanesyddol" gan [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg|Gymdeithas yr Iaith Gymraeg]], er disgrifiodd y mudiad hepgor sôn am [[hawliau iaith|hawliau]] o'r mesur "fel [[Dameg yr Adeiladwyr Call a Ffôl|adeiladu tŷ ar dywod]]".<ref>{{dyf gwe |url=http://cymdeithas.org/2010/03/04/ein_ymateb_ir_mesur_iaith_gymraeg.html |cyhoeddwr=[[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]] |teitl=Ein ymateb i'r Mesur Iaith Gymraeg |dyddiad=4 Mawrth 2010 |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref> Ar 10 Mawrth anfonodd Cymdeithas lythyr at [[Carwyn Jones]], Prif Weinidog Cymru, yn gwneud cwyn swyddogol am y mesur arfaethedig, gan gyhuddo bod Llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd trwy honni bydd y mesur yn sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8550000/newsid_8559100/8559140.stm |teitl=Cwyn Cymdeithas at y Prif Weinidog am y mesur iaith |dyddiad=10 Mawrth 2010 |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiadcyrchiad=13 Mawrth 2010 }}</ref> |
||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 19:56, 13 Mawrth 2010
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfaethedig sy'n bwriadu newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yw Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2010 (Saesneg: Proposed Welsh Language (Wales) Measure 2010). Bydd y mesur yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg, a benodir gan y Prif Weinidog, ac yn diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd gan y Comisiynydd y pŵer i gosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat, megis cwmnïau nwy, trydan a ffôn, am dorri eu hymrwymiad i'r iaith.[1]
Cyflwynwyd y mesur gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010.[2]
Hanes
Ar ôl i'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ffurfio llywodraeth glymblaid Cymru'n Un yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu "deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Paul Murphy y gallai'r broses ar gyfer cais gan Lywodraeth y Cynulliad am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn "stormus", yn debyg yn sgîl pryderon y gallai adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig gael eu dirwyo am beidio â defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o Aelodau Seneddol Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.[3]
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009
Gosododd Alun Ffred Jones Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) ar 2 Chwefror 2009 i "ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru drwy Fesurau ynglŷn â'r iaith Gymraeg".[4] Sefydlwyd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar 4 Chwefror i ystyried y GCD. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Proses
Ar 4 Mawrth 2010 datganodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, bod darpariaethau'r mesur arfaethedig o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[5]
Ymateb
"R'yn ni am i’r iaith gael ei thrin fel cydraddoldebau eraill lle mae unigolion yn cael hawliau sylfaenol. Ac r'yn ni eisiau i'r Mesur ffitio i mewn gyda chyfundrefn hawliau ryngwladol. Mae pobol yn delio gyda materion fel hyn ar draws y byd."
Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel "diwrnod hanesyddol" gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, er disgrifiodd y mudiad hepgor sôn am hawliau o'r mesur "fel adeiladu tŷ ar dywod".[7] Ar 10 Mawrth anfonodd Cymdeithas lythyr at Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn gwneud cwyn swyddogol am y mesur arfaethedig, gan gyhuddo bod Llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd trwy honni bydd y mesur yn sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg.[8]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Y llywodraeth yn cyhoeddi mesur iaith newydd. BBC (4 Mawrth 2010). Adalwyd ar 5 Mawrth 2010.
- ↑ Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2010. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 5 Mawrth, 2010.
- ↑ Iaith: 'Cyfnod stormus i ddod'. BBC (15 Ionawr 2009). Adalwyd ar 7 Mawrth 2010.
- ↑ Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 12 Mawrth 2010.
- ↑ Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol—Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru). Yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (4 Mawrth 2010). Adalwyd ar 7 Mawrth 2010.
- ↑ Ymateb - ‘Tŷ ar y tywod’ yw’r Mesur Iaith. Golwg360 (4 Mawrth 2010). Adalwyd ar 7 Mawrth 2010.
- ↑ Ein ymateb i'r Mesur Iaith Gymraeg. Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (4 Mawrth 2010). Adalwyd ar 7 Mawrth 2010.
- ↑ Cwyn Cymdeithas at y Prif Weinidog am y mesur iaith. BBC (10 Mawrth 2010). Adalwyd ar 13 Mawrth 2010.
Dolenni allanol
- Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2010 – manylion a hanes y mesur ar wefan y Cynulliad
- Testun y mesur arfaethedig fel y'i cyflwynwyd ar 4 Mawrth