Cadwallon ap Cadfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Moliant C. ayyb |
|||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
==''Moliant Cadwallon''== |
==''Moliant Cadwallon''== |
||
Credir fod y gerdd ''[[Moliant Cadwallon]]'' yn perthyn i gyfnod Cadwallon ei hun. Mae'n bosibl mai [[Afan Ferddig]] a'i cyfansoddodd, er |
Credir fod y gerdd ''[[Moliant Cadwallon]]'' yn perthyn i gyfnod Cadwallon ei hun. Mae'n bosibl mai [[Afan Ferddig]] a'i cyfansoddodd, er nad oes modd profi hynny. Yn ôl y gerdd, ymestynnai awdurdod Cadwallon o Fôn i Fynwy ([[Porth Sgiwed]]), a chyfeirir ato yn ymosod ar diriogaeth [[Elmet|Elfed]]. |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 23:00, 7 Ionawr 2010
Roedd Cadwallon ap Cadfan (bu farw 633) yn frenin Gwynedd o tua 625 hyd ei farw.
Hanes
Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosododd Edwin o Deira (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn gan orfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629. Yn ôl Sieffre o Fynwy yr oedd Edwin flynyddoedd ynghynt wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r Trioedd Cymreig yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".
Daeth Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mercia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meicen (neu Meigen: "Heathfield" yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn 632.[1]. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.
Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef ym Mrwydr Hexham yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.
Moliant Cadwallon
Credir fod y gerdd Moliant Cadwallon yn perthyn i gyfnod Cadwallon ei hun. Mae'n bosibl mai Afan Ferddig a'i cyfansoddodd, er nad oes modd profi hynny. Yn ôl y gerdd, ymestynnai awdurdod Cadwallon o Fôn i Fynwy (Porth Sgiwed), a chyfeirir ato yn ymosod ar diriogaeth Elfed.
Cyfeiriadau
- ↑ Hanes Cymru gan John Davies, Llyfrau Penguin, 1990; tudalen 62.
Llyfryddiaeth
Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)