Mercia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Terynas Mercia, yn dangos y deyrnas wreiddiol yn y 6ed ganrif mewn gwyrdd tywyll, a maint eithaf y deyrnas rhwng y 7fed a'r 9fed ganrif mewn gwyrdd golau.

Roedd Mercia (neu Mersia; Eingl-Sacsoneg: Mierce, "pobl y gororau"), yn un o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, gyda'i chalon o gwmpas dyffryn Afon Trent.

Roedd Mercia'n ffinio â nifer o deyrnasoedd Cymru, yn enwedig Powys, a bu llawer o ymladd rhyngddynt, ond hefyd ambell dro gynghrair. Y brenin cyntaf y gwyddir amdano oedd Creoda, a ddaeth i rym tua 585. Dilynwyd ef gan ei fab, Pybba, yn 593. Dilynwyd ef gan Cearl yn 606, yna daeth Penda yn frenin. Gwnaeth Penda gynghrair gyda nifer o'r brenhinoedd Cymreig i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, yn enwedig Cadwallon ap Cadfan, brenin Gwynedd.

Lladdwyd Penda gan y Northunbriaid ym Mrwydr Winwaed yn 655, ac am gyfnod gwanychwyd Mercia yn fawr. Yn ddiweddarach, tua dechrau'r 8fed ganrif, cryfhaodd y deyrnas eto, a chipiwyd darn sylweddol o ddwyrain Powys, yn cynnwys y brifddinas, Pengwern. Daeth Æthelbald yn frenin yn 716, ac wedi iddo ef farw bu rhyfel am yr orsedd a enillwyd gan Offa. Yn ddiweddarach edwinodd grym Mercia, cipiwyd rhan ddwyreiniol y deyrnas gan y Daniaid a thyfodd Wessex i fod y mwyaf grymus o deyrnasoedd Lloegr.

Brenhinoedd a rheolwyr Mercia[golygu]