Afan Ferddig
Afan Ferddig | |
---|---|
Ganwyd | 7 g ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | 8 g ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Blodeuodd | 7 g ![]() |
Cysylltir gyda | Cadwallon ap Cadfan ![]() |
Bardd Cymraeg cynnar oedd Afan Ferddig (bl. 7g efallai). Ystyr y gair 'Berddig' yw "bardd bychan" neu "jester"; ceir cyfeiriad arall at fardd o'r 11g a elwir Berddig, bardd yn llys Gruffudd ap Llywelyn yng Ngwent.[1]
Tystiolaeth amdano[golygu | golygu cod y dudalen]
Ychydig sy'n hysbys amdano. Mae rhai ysgolheigion yn credu mai ef yw awdur y gerdd 'Moliant Cadwallon'. Yn ôl un o Drioedd Ynys Prydain canai Afan i'r brenin Cadwallon ap Cadfan o Wynedd. Mae'n cael ei alw'n un o 'Dri bardd coch eu gwaywffyn Ynys Prydain':
Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain:
Tristfardd bardd Urien,
A Dygynnelw bardd Owain ab Urien,
Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.[2]
Roedd y Gogynfeirdd yn ei barchu fel bardd mawr, e.e. Cynddelw Brydydd Mawr sy'n dweud ei bod yn arferol ganddo ganu yn null Afan Ferddig:
Gnawd canaf i foliant fal Afan Ferddig.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. berddig.
- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1978).
- ↑ Dyfynnir gan Rachel Bromwich yn Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1978). Orgraff ddiweddar.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
![]() |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |