Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dorset"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 577 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
 
[[Swyddi seremonïol Lloegr|Swydd seremonïol]] yn [[De-orllewin Lloegr|Ne-orllewin Lloegr]] yw '''Dorset''' ([[Saesneg]]: ''Dorset''). Fe'i lleolir yn ne-orllewin y wlad ar lan [[Môr Udd]] rhwng siroedd [[Dyfnaint]] a [[Gwlad yr Haf]] i'r gorllewin, [[Wiltshire]] i'r gogledd a [[Hampshire]] i'r dwyrain. Ei brif ddinas a chanolfan weinyddol yw [[Dorchester, Dorset|Dorchester]]. Mae ei thir yn isel ond fe'i croesir gan y [[Dorset Downs]] yn y de a'r gogledd. Y prif afonydd yw [[Afon Frome]] ac [[Afon Stour]]. Sir [[amaeth]]yddol yw hi'n draddodiadol ond mae [[twristiaeth]] yn bwysig hefyd, yn arbennig yn ei threfi arfordirol fel [[Bournemouth]] a [[Weymouth]]. Ymhlith ei hynafiaethau mae [[bryngaer]] anferth [[Maiden Castle]], ger Dorchester, yn sefyll allan. Mae nifer o lefydd yn y sir yn dwyn cysylltiad â gwaith llenyddol [[Thomas Hardy]]. Yn y cyfnod [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]] roedd yr ardal yn rhan o deyrnas [[Wessex]].
 
==Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth==
Rhennir y swydd yn wyth etholaeth seneddol yn San Steffan:
* [[Canol Dorset a Gogledd Poole (etholaeth seneddol)|Canol Dorset a Gogledd Poole]]
* [[Christchurch (etholaeth seneddol)|Christchurch]]
* [[De Dorset (etholaeth seneddol)|De Dorset]]
* [[Dwyrain Bournemouth (etholaeth seneddol)|Dwyrain Bournemouth]]
* [[Gogledd Dorset (etholaeth seneddol)|Gogledd Dorset]]
* [[Gorllewin Bournemouth (etholaeth seneddol)|Gorllewin Bournemouth]]
* [[Gorllewin Dorset (etholaeth seneddol)|Gorllewin Dorset]]
* [[Poole (etholaeth seneddol)|Poole]]
 
 
{{Swyddi seremonïol Lloegr}}

Llywio