Walter Gropius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B Gwybodlen wicidata |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{infobox person/Wikidata |
|||
[[Delwedd:WalterGropius-1919.jpg|bawd|Walter Gropius ym 1919]] |
|||
| fetchwikidata=ALL |
|||
| onlysourced=no |
|||
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth |
|||
| dateformat = dmy |
|||
}} |
|||
[[Pensaer]] ac addysgwr [[Almaenwyr|Almaenig]] oedd '''Walter Adolph Gropius''' ([[18 Mai]] [[1883]] – [[5 Gorffennaf]] [[1969]]). Sefydlodd ysgol [[Bauhaus]] a gafodd ddylanwad mawr ar [[Pensaernïaeth Fodern|bensaernïaeth fodern]].<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Walter-Gropius |teitl=Walter Gropius |dyddiadcyrchiad=14 Awst 2017 }}</ref> |
[[Pensaer]] ac addysgwr [[Almaenwyr|Almaenig]] oedd '''Walter Adolph Gropius''' ([[18 Mai]] [[1883]] – [[5 Gorffennaf]] [[1969]]). Sefydlodd ysgol [[Bauhaus]] a gafodd ddylanwad mawr ar [[Pensaernïaeth Fodern|bensaernïaeth fodern]].<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Walter-Gropius |teitl=Walter Gropius |dyddiadcyrchiad=14 Awst 2017 }}</ref> |
||
Fersiwn yn ôl 13:41, 29 Tachwedd 2017
Walter Gropius | |
---|---|
Ganwyd | Walter Adolf Georg Gropius 18 Mai 1883 Berlin |
Bu farw | 5 Gorffennaf 1969 Boston |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd, yr Almaen |
Galwedigaeth | pensaer, addysgwr, cynlluniwr trefol, cynllunydd, athro |
Cyflogwr |
|
Mudiad | Bauhaus, International Style |
Tad | Walter Gropius |
Priod | Alma Mahler, Ise Gropius |
Plant | Manon Gropius |
Perthnasau | Martin Gropius |
Gwobr/au | Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Aur Frenhinol, Gwobr Goethe, Medal Ernst Reuter, Medal Albert, honorary Royal Designer for Industry, Johann-Heinrich-Merck-Ehrung |
Pensaer ac addysgwr Almaenig oedd Walter Adolph Gropius (18 Mai 1883 – 5 Gorffennaf 1969). Sefydlodd ysgol Bauhaus a gafodd ddylanwad mawr ar bensaernïaeth fodern.[1]
Ganwyd ym Merlin yn fab i bensaer, ac astudiodd ei grefft yn ysgolion technegol München (1903–04) a Berlin–Charlottenburg (1905–07). Treuliodd ei yrfa gynnar yn cynllunio ffatrïoedd a swyddfeydd, a magodd ddiddordeb mewn pensaernïaeth flaengar a chyfuno mecaneiddio gyda chelfyddyd. Gwasanaethodd fel swyddog y marchfilwyr ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac enillodd y Groes Haearn.
Wedi'r rhyfel, daeth Gropius yn gyfarwyddwr ar y Staatliches Bauhaus Weimar. Fe arloesoedd ddull newydd o addysgu'r celfyddydau dylunio: hyfforddiant ymarferol fel bod y cynllunydd yn gyfarwydd â'r prosesau a'r defnyddiau. Yn y 1920au, datblygodd nodweddion arddull Bauhaus: ffurfiau geometrig, wynebau llyfn, amliniau rheolaidd, lliwiau cynradd, a defnyddiau modern. Symudodd y Bauhaus i Dessau ym 1925, ac ymddiswyddodd Gropius ym 1928.
Ymgartrefodd Gropius yn Lloegr ym 1934, un flwyddyn wedi i'r llywodraeth Natsïaidd gau'r Bauhaus. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1937 i addysgu pensaernïaeth ym Mhrifysgol Harvard, ac enillodd ddinasyddiaeth Americanaidd ym 1944. Sefydlodd The Architects Collaborative (TAC) ym 1946 gyda chwech o'i gyn-fyfyrwyr, a ddyluniodd sawl adeilad ar draws y byd: Canolfan Graddedigion Harvard, Llysgenhadaeth UDA yn Athen, a Phrifysgol Baghdad. Ymddeolodd Gropius o Harvard ym 1952, ond fe barhaodd yn aelod gweithgar o TAC hyd ei farwolaeth yn 86 oed.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Walter Gropius. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Awst 2017.