Morris Kyffin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
adio llun a manion |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Maurice Kyffin.jpg|bawd|Clawr ''Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr...''; argraffwyd yn Llundain, 1595 gan Richard Field.]] |
|||
Milwr a llenor o [[Cymry|Gymro]] yn yr iaith [[Gymraeg]] a'r iaith [[Saesneg]] oedd '''Morris Kyffin''' (c.[[1555]] - [[1598]]). Roedd yn frawd i'r bardd [[Edward Kyffin]] ac yn ddisgybl i [[Wiliam Llŷn]]. |
Milwr a llenor o [[Cymry|Gymro]] yn yr iaith [[Gymraeg]] a'r iaith [[Saesneg]] oedd '''Morris Kyffin''' (c.[[1555]] - [[2 Ionawr]] [[1598]]). Roedd yn frawd i'r bardd [[Edward Kyffin]] ac yn ddisgybl i [[Wiliam Llŷn]]. |
||
==Bywgraffiad== |
==Bywgraffiad== |
||
Ganwyd Morris Kyffin tua 1555 yn |
Ganwyd Morris Kyffin tua 1555 yn ardal [[Croesoswallt]], [[Swydd Amwythig]], ar adeg pan oedd yn ardal Gymraeg. Dyma filltir sgwâr y beirdd Cymraeg [[Rhys Cain]] a [[Wiliam Llŷn]] a daeth Morris yn ddisgybl barddol i'r olaf. Roedd yn hannu o hen deuluoedd uchelwrol [[Powys]].<ref name="J. Gruffydd, 1925">W. J. Gruffydd, ''Llenyddiaeth Cymru[:] Rhyddiaith o 1540 hyd 1560'' (Wrecsam, 1925), tt. 85-88,</ref> |
||
Aeth |
Aeth i [[Llundain|Lundain]] pan oedd yn ifanc. Yn 1578 roedd yn athro yn nheulu'r Arglwydd Buckhurst. Cafodd ei addysg yn yr ieithoedd [[Groeg]] a [[Lladin]], ond ni wyddom ble. Gwasanaethodd fel trysorydd a swyddi eraill gyda'r fyddin am gyfnod. Bu farw yn [[Iwerddon]] ar yr ail o Ionawr 1598 a chafodd ei gladdu yn Eglwys Crist yn [[Dulyn|Nulyn]].<ref name="J. Gruffydd, 1925"/> |
||
==Gwaith llenyddol== |
==Gwaith llenyddol== |
||
Yn Llundain daeth i adnabod rhai o |
Yn Llundain daeth i adnabod rhai o lenorion mawr yr oes, pobl fel [[Edmund Spenser]], [[William Camden]] a'r Cymro [[David Powel]]. Cyfieithodd un o ddramau [[Terens]] o'r Lladin i Saesneg (1588). Ceir penillion annerch i Morris gan y Dr [[William Morgan]], cyfieithydd y [[Beibl]], ac mae'n bur debygol felly eu bod yn adnabod eu gilydd.<ref name="J. Gruffydd, 1925"/> |
||
Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel awdur '' |
Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel awdur ''Deffynniad Ffydd Eglwys Lloegr'' a orffenwyd ganddo yn 1594 ac sy'n gyfieithiad rhydd neu addasiad o waith Saesneg gwreiddiol.<ref name="J. Gruffydd, 1925"/> |
||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
Fersiwn yn ôl 05:21, 6 Ionawr 2017
Milwr a llenor o Gymro yn yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg oedd Morris Kyffin (c.1555 - 2 Ionawr 1598). Roedd yn frawd i'r bardd Edward Kyffin ac yn ddisgybl i Wiliam Llŷn.
Bywgraffiad
Ganwyd Morris Kyffin tua 1555 yn ardal Croesoswallt, Swydd Amwythig, ar adeg pan oedd yn ardal Gymraeg. Dyma filltir sgwâr y beirdd Cymraeg Rhys Cain a Wiliam Llŷn a daeth Morris yn ddisgybl barddol i'r olaf. Roedd yn hannu o hen deuluoedd uchelwrol Powys.[1]
Aeth i Lundain pan oedd yn ifanc. Yn 1578 roedd yn athro yn nheulu'r Arglwydd Buckhurst. Cafodd ei addysg yn yr ieithoedd Groeg a Lladin, ond ni wyddom ble. Gwasanaethodd fel trysorydd a swyddi eraill gyda'r fyddin am gyfnod. Bu farw yn Iwerddon ar yr ail o Ionawr 1598 a chafodd ei gladdu yn Eglwys Crist yn Nulyn.[1]
Gwaith llenyddol
Yn Llundain daeth i adnabod rhai o lenorion mawr yr oes, pobl fel Edmund Spenser, William Camden a'r Cymro David Powel. Cyfieithodd un o ddramau Terens o'r Lladin i Saesneg (1588). Ceir penillion annerch i Morris gan y Dr William Morgan, cyfieithydd y Beibl, ac mae'n bur debygol felly eu bod yn adnabod eu gilydd.[1]
Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel awdur Deffynniad Ffydd Eglwys Lloegr a orffenwyd ganddo yn 1594 ac sy'n gyfieithiad rhydd neu addasiad o waith Saesneg gwreiddiol.[1]
Llyfryddiaeth
- The Blessedness of Britayne (1587)
- Deffyniad Ffydd Eglwys Lloegr (1594).