Robert Thomas (Ap Vychan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Dolennau allanol: Awdurdod |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Revd Robert Thomas (Ap Vychan, 1809-80) NLW3362405.jpg|250px|bawd|dde|Robert Thomas (Ap Vychan) (Delwedd o Gasgliad [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]], [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]]] |
||
Llenor a gweinidog [[Cymry|Cymreig]] o ardal [[Penllyn]], [[Gwynedd]], oedd '''Robert Thomas''', enw barddol '''Ap Vychan''' neu '''Ap Fychan''' ([[11 Awst]] [[1809]] – [[23 Ebrill]] [[1880]]). Roedd yn perthyn i Fychaniaid [[Caer Gai]] ac felly'n ddisgynydd pell i [[Rowland Vaughan]], [[Gwerful Fychan]] a [[Tudur Penllyn]]. |
Llenor a gweinidog [[Cymry|Cymreig]] o ardal [[Penllyn]], [[Gwynedd]], oedd '''Robert Thomas''', enw barddol '''Ap Vychan''' neu '''Ap Fychan''' ([[11 Awst]] [[1809]] – [[23 Ebrill]] [[1880]]). Roedd yn perthyn i Fychaniaid [[Caer Gai]] ac felly'n ddisgynydd pell i [[Rowland Vaughan]], [[Gwerful Fychan]] a [[Tudur Penllyn]]. |
||
Fersiwn yn ôl 00:18, 11 Mawrth 2015
Llenor a gweinidog Cymreig o ardal Penllyn, Gwynedd, oedd Robert Thomas, enw barddol Ap Vychan neu Ap Fychan (11 Awst 1809 – 23 Ebrill 1880). Roedd yn perthyn i Fychaniaid Caer Gai ac felly'n ddisgynydd pell i Rowland Vaughan, Gwerful Fychan a Tudur Penllyn.
Bywgraffiad
Ganed Ap Vychan (sic gyda 'V') mewn bwthyn wrth waelod Pennant-Lliw ym mhlwyf Llanuwchllyn. Tyfodd i fyny mewn amgylchiadau caled iawn. Dywed am ei fam,
- Llon oedd, llawen o hyd, — eon wenai
- Yn wyneb caledfyd;
- Canai hi heb ofni'r byd
- Yn oedfa gerwin adfyd.
Cafodd ei addysg i gyd gan ei dad, Dafydd Thomas, a ddysgodd iddo ddarllen a sgwennu Cymraeg ac elfennau rhifyddiaeth. Ar ôl gweithio fel gwas yma ac acw, aeth i fod yn brentis yng Nghonwy a phriododd ferch ei feist, William Jones. Dechreuodd bregethu. Daeth Ap Vychan yn gyfaill i'r Methodus mawr J. R. Jones, Ramoth. Bu'n weinidog yn Ninas Mawddwy a phlwyf Rhiwabon, ymysg lleoedd eraill a chafodd waith fel golygydd Y Dysgedydd, cylchgrawn yr Annibynwyr. Yn 1873 fe'i apwyntiwyd yn athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala a daeth i adnabod Michael D. Jones. Bu farw yn 1880.
Gwaith llenyddol
Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy gadair am ei awdlau yn Eisteddfodau'r Rhyl a Chaerleon, ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur rhyddiaith mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei hunangofiant yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y 19eg ganrif.
Llyfryddiaeth
- Gwaith Ap Vychan, gol. O. M. Edwards (Cyfres y Fil)
Ceir detholiad da o ryddiaith Ap Vychan yn y gyfrol Hunangofiant ac Ysgrifau Ap Fychan, gol. W. Lliedi Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cyhoeddwyd rhai o'i draethodau yn y cofiant iddo gan Michael D. Jones a D. V. Thomas.