Comiwnyddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10: Llinell 10:


==Anarchiaeth Gymdeithasol==
==Anarchiaeth Gymdeithasol==
Er y bu [[Anarchiaeth|anarchwyr]] yng nghytûn â Marcswyr<ref>[http://www.marxist.com/marxist-and-anarchist-theory.htm In Defence of Marxism, ''Marxist and Anarchist Theory'']</ref> yn ôl yr amcan o gyrraedd cymdeithas heb ddosbarthiadau cymdeithasol, wladwriaeth nac eiddo preifat, maent yn anghytuno ar y dulliau o'i chyrraedd. Credant ei fod yn amhosib ymgorffori'r gweithwyr yng ngwladwriaeth, sef cyfnod Sosialaeth yn y derminoleg Marcsiaeth. Maent yn gweld y wladwriaeth fel amddiffynnwr eiddo preifat ac yn wrthrych hierarchaidd. I anarchydd, buasai rhaid chwalu'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth: i'r Marcsydd rhaid cymryd rheolaeth o'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth. Bu anarchwyr hefyd o ganlyniad yn wrthwynebol i bleidiau gwleidyddol, yn enwedig pleidiau canolig, hierarchaidd. Credant yn gadarn fod rhaid i'r gweithwyr, a'r gweithwyr 'oll, gweithredu'r chwyldro dros gomiwnyddiaeth, ac nid plaid yn honni ei fod yn eu cynrychioli.
Arferai [[Anarchiaeth|anarchwyr]] bod yn gytûn â Marcswyr<ref>[http://www.marxist.com/marxist-and-anarchist-theory.htm In Defence of Marxism, ''Marxist and Anarchist Theory'']</ref> ynglŷn a'r amcanion o gyrraedd cymdeithas ddiddosbarth a gwladwriaeth heb eiddo preifat, ond maent yn anghygweld bellach ar y ffyrdd o'u cyrraedd. Credant ei bod yn amhosib ymgorffori'r gweithwyr mewn gwladwriaeth, sef cyfnod Sosialaeth mewn damcaniaeth Marcsiaeth am eu bod yn gweld y wladwriaeth fel amddiffynnwr eiddo preifat ac yn endid hierarchaidd. I anarchydd, byddai rhaid chwalu'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth; i'r Marcsydd rhaid cymryd rheolaeth o'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth. Mae anarchwyr hefyd o ganlyniad yn elyniaethus i bleidiau gwleidyddol, yn enwedig pleidiau canolig, hierarchaidd. Credant yn gadarn fod rhaid i'r gweithwyr, a'r gweithwyr oll, gweithredu'r chwyldro dros gomiwnyddiaeth, ac nid plaid sydd yn honni ei fod yn eu cynrychioli.


==Y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru==
==Y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru==

Fersiwn yn ôl 20:55, 11 Gorffennaf 2014

Ideolegau Gwleidyddol
Anarchiaeth
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb
Comiwnyddiaeth
Cymunedoliaeth
Democratiaeth Gristnogol
Democratiaeth gymdeithasol
Ffasgiaeth
Ffeministiaeth
Gwleidyddiaeth werdd
Islamiaeth
Natsïaeth
Rhyddewyllysiaeth
Rhyddfrydiaeth
Sosialaeth

Mae Comiwnyddiaeth (o'r Lladin communis - cyffredin) yn gangen chwyldroadol y mudiad Sosialaidd. Mae'n fudiad ac yn drefn gymdeithasol; un sy'n hyrwyddo cymdeithas ddiddosbarth wedi ei sylfaenu ar gydberchnogaeth yn unol â threfn diarian. Yn ddelfrydol mae comiwnyddiaeth yn wladwriaeth sydd heb berchnogaeth breifat, heb ddosbarthau cymdeithasol an yn rhywle ble mae modd cynhyrchu yn gymunedol ac eiddo'n gyffredin i bawb.

Dylanwadodd dehongliad omiwnyddiaeth o fath Marxist-Leninist yn fawr ar hanes yr 20fed ganrif, gyda gwrthdaro rhwng "y byd sosialaidd", wedi'i rheoli gan bleidiau Comiwnyddol, a'r "byd gorllewinol" gyda'i farchnad rydd. Canlyniad hyn oedd y rhyfel oer rhwng y Y Bloc Dwyreiniol a'r "Byd Rhydd".

Marcsiaeth

Bu marcsiaeth yn fudiad sylfaenol Comiwnyddiaeth ac fe ddeilliodd nifer o ganghennau ohoni; yn nodweddiadol ohonynt, Leniniaeth (neu Marcsiaeth-Leniniaeth fel y'i gelwir gan amlaf) a enwyd ar ôl chwyldroadwr Bolsiefic o Rwsiad, Vladimir Lenin). Fel rheol gelwir plaid wleidyddol sy'n arddel comiwnyddiaeth yn Blaid Gomiwnyddol. Mae'r mwyafrif o'r pleidiau hynny yn Farcsaidd-Leninaidd, ond ceir yn ogystal gomiwnyddion sy'n gwrthod Lenin ac sy'n dilyn athroniaeth chwyldroadwyr eraill fel y Rwsiad Leon Trotsky (Trotscïad), a chomiwnyddion sy'n cydnabod Lenin ond sy'n arddel athroniaeth wedi'i haddasu i gwrdd ag amgylchiadau neilltuol, fel y Maoïaid (ar ôl y Tsieinead Mao Zedong) a'r Staliniaid (ar ôl y Georgiad Joseph Stalin).

Mae Marcswyr yn credu bod rhaid mynd drwy gyfnod o lywodraeth sosialaidd cyn y bydd comiwnyddiaeth ei hun yn bosib. Heddiw, dim ond Gweriniaeth Pobl Tsieina, Ciwba, Fietnam, Moldofa a Gogledd Corea sydd dan reolaeth gomiwnyddol. Cyn 1991, roedd llawer mwy o wledydd sosialaidd, fel yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw, er enghraifft.

Anarchiaeth Gymdeithasol

Arferai anarchwyr bod yn gytûn â Marcswyr[1] ynglŷn a'r amcanion o gyrraedd cymdeithas ddiddosbarth a gwladwriaeth heb eiddo preifat, ond maent yn anghygweld bellach ar y ffyrdd o'u cyrraedd. Credant ei bod yn amhosib ymgorffori'r gweithwyr mewn gwladwriaeth, sef cyfnod Sosialaeth mewn damcaniaeth Marcsiaeth am eu bod yn gweld y wladwriaeth fel amddiffynnwr eiddo preifat ac yn endid hierarchaidd. I anarchydd, byddai rhaid chwalu'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth; i'r Marcsydd rhaid cymryd rheolaeth o'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth. Mae anarchwyr hefyd o ganlyniad yn elyniaethus i bleidiau gwleidyddol, yn enwedig pleidiau canolig, hierarchaidd. Credant yn gadarn fod rhaid i'r gweithwyr, a'r gweithwyr oll, gweithredu'r chwyldro dros gomiwnyddiaeth, ac nid plaid sydd yn honni ei fod yn eu cynrychioli.

Y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru

Sefydlwyd y Blaid Gominyddol yng ngwledydd Prydain yn 1920.Davies, John (2008), Gwyddoniadur Cymru, Caerdydd, Cymru: Gwasg y Brifysgol Roedd syniadaeth Marcsaidd wedi bod yn cael eu trafod ledled y wlad ers y 1890au, gan chwarae rhan amlwg ym mrwydrau gwleidyddol a diwydiannol y 1920au a 30au. Etholwyd Arthur Horner yn Llywydd Ffederasiwn Glöwyr De Cymru yn 1936 a chynyddodd nifer yr aelodaeth yn enwedig yn ne Cymru.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

Nodyn:Link FA