Richard Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
DrKay (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
→‎Llyfryddiaeth: newidiadau man using AWB
Llinell 11: Llinell 11:
==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==
*D.R. Thomas, ''The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury'' (Croesoswallt, 1902)
*D.R. Thomas, ''The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury'' (Croesoswallt, 1902)



{{DEFAULTSORT:Davies, Richard}}
{{DEFAULTSORT:Davies, Richard}}

Fersiwn yn ôl 19:03, 7 Mawrth 2013

Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).

Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?1501 - 7 Tachwedd 1581), a aned yn y Gyffin, ger tref Conwy. Yn ystod ei yrfa egwlwysig bu'n esgob Llanelwy a Tyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (John Davies).

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr Protestannaidd. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas Frankfurt yn yr Almaen oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad Mari, brenhines yr Alban, dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n esgob Llanelwy ac yna yn 1561 yn esgob Tyddewi.

Gweithiai'n ddyfal gyda William Salesbury i berswadio senedd San Steffan i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno yn 1563 ymunodd â Salesbury yn ei blas yn Abergwili i gyfieithu'r Testament Newydd gyda fo. Richard Davies yw awdur yr Epistol at y Cembru ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd 1567; cafodd ddylanwad mawr ar hanesyddiaeth Cymru.

Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd.

Llyfryddiaeth

  • D.R. Thomas, The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury (Croesoswallt, 1902)