Thomas Jefferson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
{{angen ffynhonnell}} |
tr, ffyn, dol |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng [[1758]] a [[1760]], ac aeth i'r coleg yn [[Williamsburg]] yn 16 oed, lle bu'n astudio dan [[William Small]]. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn [[1767]]. |
Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng [[1758]] a [[1760]], ac aeth i'r coleg yn [[Williamsburg]] yn 16 oed, lle bu'n astudio dan [[William Small]]. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn [[1767]]. |
||
Yn [[1772]], priododd wraig weddw, [[Martha Wayles Skelton]] (1748-1782). Cawsant |
Yn [[1772]], priododd wraig weddw, [[Martha Wayles Skelton]] (1748-1782). Cawsant chwe phlentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, [[Sally Hemings]], a phrofwyd hyn gan dystiolaeth DNA ym 1998,<ref name="Foster">{{cite journal|last = Foster | first = EA|coauthors = Jobling MA, Taylor PG, Donnelly P, de Knijff P, Mieremet R, Zerjal T, Tyler-Smith C | year = 1998 | title = Jefferson fathered slave's last child | journal = [[Nature (cyfnodolyn)|Nature]] | volume = 396 | issue = 6706 | pages = 27–28 |pmid = 9817200|doi = 10.1038/23835 |url = http://www.familytreedna.com/pdf/Jeffersons.pdf}}</ref> ond mae ychydig o ysgolheigion yn dadlau'r posibilrwydd taw brawd neu un o neiod Jefferson oedd tad y plant.<ref name="SCR">[http://www.tjheritage.org/scholars.html "The Scholars Commission on the Jefferson-Hemings Issue"], 2001, Thomas Jefferson Heritage Society</ref> Bu farw yn [[Monticello]] [[4 Gorffennaf]] [[1826]]. |
||
Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Cymreig, a'r teulu yn hanu o [[Eryri]]. Yn ystod yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn y [[Faenol]] ger [[Bangor]] yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal. |
Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o [[Americanwyr Cymreig|dras Cymreig]], a'r teulu yn hanu o [[Eryri]]. Yn ystod yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn y [[Faenol]] ger [[Bangor]] yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal. |
||
== Cyfeiriadau == |
|||
{{cyfeiriadau|2}} |
|||
{{ArlywyddionUDA}} |
{{ArlywyddionUDA}} |
Fersiwn yn ôl 13:23, 4 Awst 2012
Thomas Jefferson | |
| |
Cyfnod yn y swydd 4 Mawrth 1801 – 4 Mawrth 1809 | |
Is-Arlywydd(ion) | Aaron Burr (1801–1805) George Clinton (1805–1809) |
---|---|
Rhagflaenydd | John Adams |
Olynydd | James Madison |
Geni | 13 Ebrill 1743 Shadwell, Virginia, UDA |
Plaid wleidyddol | Democrataidd-Weriniaethol |
Priod | Martha Wayles Skelton Jefferson |
Llofnod |
Thomas Jefferson (13 Ebrill 1743 - 4 Gorffennaf 1826) oedd trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, o 1801 hyd 1809. Bu hefyd yn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1797 a 1801 ac yn llywodraethwr talaith Virginia (1779-1781). Ef oedd prif awdur Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a sylfaenydd Prifysgol Virginia.
Ganed Jefferson yn Shadwell, Virginia ar yr 2 Ebrill 1743, yn ôl y Calendr Iwlaidd oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ymerodraeth Brydeinig yr adeg honno, neu 13 Ebrill yn ôl y Calendr Gregoraidd a fabwysiadwyd yn 1752. Ef oedd y trydydd o ddeg plentyn Jane Randolph a Peter Jefferson. Yn 1752, dechreuodd Jefferson fynd i ysgol a gedwid gan William Douglas, ac yn naw oed dechreuodd astudio Lladin, Groeg a Ffrangeg. Bu farw ei dad yn 1757 ac etifeddodd tua 5,000 acer o dir a dwsinau o gaethweision. Adeiladodd blas ar y tir yma, a alwodd yn Monticello.
Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng 1758 a 1760, ac aeth i'r coleg yn Williamsburg yn 16 oed, lle bu'n astudio dan William Small. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn 1767.
Yn 1772, priododd wraig weddw, Martha Wayles Skelton (1748-1782). Cawsant chwe phlentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, Sally Hemings, a phrofwyd hyn gan dystiolaeth DNA ym 1998,[1] ond mae ychydig o ysgolheigion yn dadlau'r posibilrwydd taw brawd neu un o neiod Jefferson oedd tad y plant.[2] Bu farw yn Monticello 4 Gorffennaf 1826.
Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Cymreig, a'r teulu yn hanu o Eryri. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol ger Bangor yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal.
Cyfeiriadau
- ↑ Foster, EA; Jobling MA, Taylor PG, Donnelly P, de Knijff P, Mieremet R, Zerjal T, Tyler-Smith C (1998). "Jefferson fathered slave's last child". Nature 396 (6706): 27–28. doi:10.1038/23835. PMID 9817200. http://www.familytreedna.com/pdf/Jeffersons.pdf.
- ↑ "The Scholars Commission on the Jefferson-Hemings Issue", 2001, Thomas Jefferson Heritage Society
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol