Brasil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: or:ବ୍ରାଜିଲ
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.5) (robot yn newid: ilo:Brasil
Llinell 284: Llinell 284:
[[ie:Brasil]]
[[ie:Brasil]]
[[ig:Brazil]]
[[ig:Brazil]]
[[ilo:Brazil]]
[[ilo:Brasil]]
[[io:Brazilia]]
[[io:Brazilia]]
[[is:Brasilía]]
[[is:Brasilía]]

Fersiwn yn ôl 12:57, 4 Chwefror 2012

República Federativa do Brasil
Gweriniaeth Ffederal Brasil
Baner Brasil Arfbais Brasil
Baner Arfbais
Arwyddair: Ordem e Progresso
(Trefn a Chynnydd)
Anthem: Hino Nacional Brasileiro
Lleoliad Brasil
Lleoliad Brasil
Prifddinas Brasília
Dinas fwyaf São Paulo
Iaith / Ieithoedd swyddogol Portiwgaleg
Llywodraeth Gweriniaeth ffederal
- Arlywydd Dilma Rousseff
- Is-arlywydd Michel Temer
Annibyniaeth
- Datganwyd
- Cydnabuwyd
- Gweriniaeth
o Bortiwgal
7 Medi 1822
29 Awst 1825
15 Tachwedd 1889
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
8,514,877 km² (5ed)
0.65
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2000
 - Dwysedd
 
186,405,000 (5ed)
169,799,170
22/km² (182ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$1.577 triliwn (9fed)
$8,584 (68ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.813 (63ain) – canolig
Arian cyfred Real (BRL)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC-2 i -5)
Côd ISO y wlad .br
Côd ffôn +55

Gwlad fwyaf De America yw Brasil (Portiwgaleg: Brasil), República Federativa do Brasil yn swyddogol[1][2] (Portiwgaleg: República Federativa do Brasil). Uruguay, Ariannin, Paraguay, Bolivia, Periw, Colombia, Venezuela, Guyana, Suriname, a Guyane Ffrengig yw'r gwledydd cyfagos, gyda Chefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae amaethyddiaeth yn bwysig ym Mrasil ac mae ynddi fforestydd glaw eang.

Taleithiau

Rhennir Brasil yn 26 o daleithiau:

1 Talaith Talfyriad Pobl. (2008) Arwynebedd (km²) Prifddinas
1 Acre AC 692.000 153.149 Rio Branco
2 Alagoas AL 3.173.000 27.933 Maceió
3 Amapá AP 626.000 143.453 Macapá
4 Amazonas AM 3.399.000 1.577.820 Manaus
5 Bahia BA 14.561.000 567.295 Salvador
6 Ceará CE 8.472.000 146.348 Fortaleza
7 Espírito Santo ES 3.448.000 46.184 Vitória
8 Goiás GO 5.870.000 341.289 Goiânia
9 Maranhão MA 6.400.000 333.365 São Luís
10 Mato Grosso MT 3.010.000 906.806 Cuiabá
11 Mato Grosso do Sul MS 2.372.000 358.158 Campo Grande
12 Minas Gerais MG 19.904.000 588.383 Belo Horizonte
13 Pará PA 7.367.000 1.253.164 Belém
14 Paraíba PB 3.794.000 56.584 João Pessoa
15 Paraná PR 10.605.000 199.709 Curitiba
16 Pernambuco PE 8.745.000 98.937 Recife
17 Piauí PI 3.164.000 252.378 Teresina
18 Río de Janeiro RJ 15.685.000 43.909 Rio de Janeiro
19 Rio Grande do Norte RN 3.153.000 52.796 Natal
20 Rio Grande do Sul RS 10.860.000 269.153 Porto Alegre
21 Rondônia RO 1.519.000 238.512 Porto Velho
22 Roraima RR 421.000 225.116 Boa Vista
23 Santa Catarina SC 6.091.000 95.442 Florianópolis
24 São Paulo SP 40.764.000 248.808 São Paulo
25 Sergipe SE 2.030.000 21.910 Aracaju
26 Tocantins TO 1.303.000 278.420 Palmas
27 Distrito Federal DF 2.526.000 5.822 Brasilia

Daearyddiaeth Brasil

O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir De America. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ond Rwsia, Canada, China a'r Unol Daleithiau sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledydd Uruguay, yr Ariannin, Paraguay, Bolivia, Periw, Colombia, Venezuela, Guyana, Suriname, a Guyane Ffrengig. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffin â Brasil, sef Chile ac Ecuador.

Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. Tardda Afon Amazonas, afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedig y Rio Negro.

Mae'r ail hwyaf o afonydd De America, Afon Paraná yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. ,Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paraguay a Brasil. Gerllaw'r fan hon mae Afon Iguazú, sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno a hi.

Yn nalgylch afon Amazonas mae'r darn mwyaf o fforest law drofannol yn y byd, er bod llawer ohoni wedi ei cholli yn y blynyddoedd diwethaf.

Hanes Brasil

Dechreuodd hanes Brasil pan gyrhaeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16eg ganrif, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgaliaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen.

Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro Álvares Cabral ar 22 Ebrill, 1500. O'r 16eg ganrif hyd y 19eg ganrif roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal.

Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. O hynny hyd 1821, o Rio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig.

Ar 7 Medi, 1822, cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu fel Pedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri chyfnod o lywodraeth unbenaethol ym 1930-1934, 1937-1945, a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemocrataidd ers hynny.

Demograffeg Brasil

Dinasoedd mwyaf Brasil yw:

Gwleidyddiaeth Brasil

Iaith a Diwylliant

Iaith

Portiwgaleg yw unig iaith swyddogol Brasil; mae bron bawb yn y wlad yn ei medru a dyma'r unig iaith a ddefnyddir mewn addysg ac ar y cyfryngau. Brasil yw'r unig wlad yn Ne America sy'n defnyddio Portiwgaleg (Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r gwledydd), ac mae'r iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol Brasil. Ceir rhywfaint o wahaniaethau rhwng yr iaith ym Mrasil ac ym Mhortiwgal.

Siaredir cryn nifer o ieithoedd eraill yn y wlad, yn cynnwys tua 180 o ieithoedd brodorol. Ceir hefyd gymunedau sy'n siarad Almaeneg ac Eidaleg.

Diwylliant

Ceir nifer o ddylanwadau ar ddiwylliant Brasil, ond diwylliant Portiwgal yn bennaf, ond hefyd ddiwylliant y bobl frodorol, yn enwedig y Tupi), a chaethweision o Affrica. Gwelir dylanwad Affricanaidd mewn cerddoriaeth a bwyd yn arbennig.

O ran cerddoriaeth, ceir arddulliau megis samba, bossa nova, forró, frevo, pagode ac eraill. Mae'r carnifal yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben mewn llawer o ddinasoedd, ac mae carnifal Rio de Janeiro yn fyd-enwog.

Crefydd

Yr Eglwys Gatholig yw'r enwad cryfaf ym Mrasil, ac yma y mae'r nifer mwyaf o Gatholigion yn y byd. Mae'r nifer o Brotestaniaid o wahanol enwadau yn llai ond yn cynyddu. Yn ôl y cyfrifiad diwethaf mae 74% o'r boblogaeth yn Gatholigion (tua 139 miliwn); 15.4% yn Brotestaniaid (tua 28 miliwn), 7.4% yn agnostigiaid neu anffyddwyr, 1.3% yn dilyn crefyddau Ysbrydiaeth, 0.3% yn dilyn crefyddau Affricanaidd traddodiadol a 1.7% yn aelodau o grefyddau eraill.

Chwaraeon

Pêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon ym Mrasil, ac mae'r tîm cenedlaethol wedi ennill Cwpan y Byd bum gwaith, yn 1958, 1962, 1970, 1994 a 2002, mwy nag unrhyw wlad arall. Yr enwocaf o bêl-droedwyr Brasil yw Pelé, enw llawn Edison Arantes do Nascimento, a ystyrir gan lawer fel y pêl-droediwr gorau yn hanes y gêm.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Frasil. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol