Pedro Álvares Cabral

Oddi ar Wicipedia
Pedro Álvares Cabral
Portread o Pedro Álvares Cabral mewn paentiad o 1900.
GanwydPedro Álvares de Gouveia Edit this on Wikidata
c. 1467 Edit this on Wikidata
Belmonte Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1520 Edit this on Wikidata
Santarém Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Portiwgal Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, morwr Edit this on Wikidata
TadFernão Cabral Edit this on Wikidata
MamIsabel de Gouveia de Queirós Edit this on Wikidata
PriodIsabel de Castro Edit this on Wikidata
PlantAntónio Cabral, Fernão Álvares Cabral Edit this on Wikidata
Gwobr/auKnight of the Military Order of Christ Edit this on Wikidata
llofnod

Fforiwr a morlywiwr Portiwgalaidd oedd Pedro Álvares Cabral (1467 neu 14681520) sydd yn nodedig fel yr Ewropeaid cyntaf i ddarganfod Brasil. Efe oedd y bod dynol cyntaf erioed i deithio i bedwar cyfandir: Ewrop, De America, Affrica, ac Asia.

Ganed ef yn Belmonte, Teyrnas Portiwgal, yn fab i'r uchelwr Fernão Cabral a'i wraig Isabel de Gouveia. Daeth dan nawdd y Brenin Manuel I (teyrnasai 1495–1521), a rodd iddo sawl braint ym 1497, gan gynnwys lwfans personol, cwnsleriaeth, ac Urdd Crist.

Yn sgil llwyddiant mordaith Vasco da Gama i'r India (1497–99), gorchmynnodd y brenin i Cabral arwain ail fordaith i'r dwyrain. Ar 9 Mawrth 1500, cychwynnodd Cabral ar y daith o Lisbon gyda 13 o longau i ddilyn llwybr da Gama i'r dwyrain, gyda'r nod o gryfhau cysylltiadau masnachol â'r dwyrain ac i ennill y blaen ar rymoedd Ewropeaidd eraill yn Oes y Darganfod. Yn unol â chyfarwyddiadau da Gama, hwyliodd Cabral i'r de-orllewin er mwyn osgoi dyfroedd di-wynt Gwlff Gini. Dyma hefyd gyfle iddynt rhagchwilio'r tiroedd i'r gorllewin yn y Byd Newydd, yr oedd gan Ymerodraeth Portiwgal hawl i ran ohonynt yn ôl Cytundeb Tordesillas (1494). Ar 22 Ebrill 1500 gwelodd Cabral dir mawr a elwid ganddo yn Ynys y Wir Groes. Ailenwyd y diriogaeth yn Y Groes Sanctaidd gan y Brenin Manuel, ac yn ddiweddarach rhoddwyd yr enw Brasil arni ar ôl y goeden frasil (pau-brasil) sydd yn frodorol i Goedwig yr Iwerydd.

Wedi 10 niwrnod yn archwilio'r arfordir a chwrdd â'r brodorion, anfonodd Cabral un o'r llongau yn ôl i Bortiwgal i hysbysu'r brenin am ei diriogaeth newydd, ac aeth ymlaen i'r India gyda gweddill yr alldaith. Wrth rowndio Penrhyn Gobaith Da ar 29 Mai, suddodd pedair llong a bu farw'r holl griw o bob un o'r rheiny. O'r diwedd, cyrhaeddodd yr wyth llong a fu'n weddill borthladd Calecute ar Arfordir Malabar, a chroesawyd Cabral gan y teyrn Hindŵaidd lleol, a roddai iddo ganiatâd i sefydlu gorsaf fasnachu gaerog. Fodd bynnag, gwrthwynebwyd presenoldeb y Portiwgaliaid gan farsiandïwyr Mwslimaidd, ac ar 17 Rhagfyr 1500 ymosodwyd ar yr orsaf fasnachu gan y Mwslimiaid a lladdwyd y mwyafrif o'r amddiffynwyr cyn iddynt dderbyn cefnogaeth o'r llongau yn yr harbwr. Ymatebodd Cabral drwy fagnelu'r ddinas, ac yna cipio 10 o longau Mwslimaidd a dienyddio'r griwiau. Gyda chwech llong ar ôl, aeth ymlaen i borthladdoedd Cochim a Cananor i fasnachu, ac ar 16 Ionawr 1501 cychwynnodd ar y daith yn ôl i Bortiwgal gyda'r llongau yn llwythog o sbeisys. Cafwyd dau longddrylliad arall cyn i Cabral gyrraedd aber Afon Tagus ar 23 Mehefin 1501.

Er i'r Brenin Manuel groesawu'r fforiwr yn ôl a datgan ei bleser am ganlyniad yr alldaith, ni châi Cabral ei ddewis i arwain mordaith arall, nac ei benodi i unrhyw swydd arall yn y llys brenhinol. Mae'n bosib i Cabrael gael ei feio am anffodion niferus y fordaith, neu iddo fod ar ei golled oherwydd anghytundeb rhyngddo fe a da Gama. Beth bynnag y rheswm, ymddeolodd Cabral a threuliodd ei flynyddoedd olaf ar ei ystad yn nhalaith Beira Baixa, a chafodd ei gladdu yn Santarém.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Pedro Álvares Cabral. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Chwefror 2022.