Anna Fison (Morfudd Eryri)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anna Fison
Ganwyd 14 Chwefror 1839 Edit this on Wikidata
Suffolk Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Chwefror 1920 Edit this on Wikidata (80 oed)
Dyffryn Ardudwy Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg y Merched, Cheltenham Edit this on Wikidata
Galwedigaeth bardd, ieithydd, athro, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Priod David Walter Thomas Edit this on Wikidata

Ieithydd, bardd ac addysgydd oedd Anna Fison, a adnabyddwyd fel Morfudd Eryri (14 Chwefror 183921 Chwefror 1920).

Fe'i ganwyd yn Barmingham, Swydd Suffolk, yr ieuengaf o ugain o blant Thomas Fison, a'i ail wraig, Charlotte. Derbyniodd ei haddysg yn Llundain, Cheltenham ac ar y cyfandir, ac yna symud i fyw at ei brawd yn Rhydychen. Yn ystod y cyfnod hwnnw y dysgodd ddarllen y Gymraeg, a hynny dan ddylanwad Dr Charles Williams, a oedd yn Brifathro Coleg Iesu ar y pryd. Ymddiddorai yn fawr mewn ieithoedd, ac yn ogystal â Chymraeg, medrai ddarllen Hebraeg, Groeg, Lladin, Anglo-Sacsoneg, Saesneg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg.

Yn 1871, priododd â David Walter Thomas, a oedd yn Ficer yn Eglwys y Santes Ann, Mynydd Llandygai, ger Bethesda, ar y pryd. Tra'n byw yno y dysgodd i siarad Cymraeg, a llwyddodd i'w llwyr feistroli. Enillodd wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei chyfieithiadau, ei chaneuon a'i thraethodau. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn addysg Gymraeg a dywedir bod ganddi ystor o straeon tylwyth teg, ac y gallai eu hadrodd a'u hysgrifennu yn fedrus. Roedd yn cynnal dosbarthiadau nos i chwarelwyr a bu'n rhan o'r ymgais i ddiwygio'r Eisteddfod Genedlaethol yn y 1870au a'r 1880au.

'Cydnabyddir Mrs Thomas yn gyffredinol fel un o brif lenorion ein cenedl,' medd darn amdani yn Papur Pawb yn 1895, 'dywedwn ein cenedl, oherwydd, er nad oes ddyferyn o waed Cymreig, fel y cyfryw, yn rhedeg drwy ei gwythienau, eto y mae ei chydnabyddiaeth helaeth a'n hiaith, ein llenyddiaeth, ein defion, &c., yn hawlio iddi safle anrhydeddus yn mysg goreugwyr llenyddol a gwladgarol y genedl.'

'Nid Cymraes o gyff,' meddai, 'ond Cymraes o galon ydwyf'.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 'FISON, ANNA ‘Morfudd Eryri’ (1839-1920)' yn Y Bywraffiadur Ar-lein
  • 'Morfudd Eryri', Perl y plant: Misolyn i blant yr eglwys (Medi 1900)
  • 'Morfudd Eryri', Papur Pawb (12 Ionawr 1895), 4.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]