Aldus Manutius

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aldus Manutius
Aldus Manutius - Imagines philologorum.jpg
Ganwyd 1449 Edit this on Wikidata
Bassiano Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Chwefror 1515 Edit this on Wikidata (65 oed)
Fenis Edit this on Wikidata
Man preswyl Casa Manuzio, Ferrara, Casa Manuzio Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Gweriniaeth Fenis, Taleithiau'r Babaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ferrara
  • Prifysgol La Sapienza Edit this on Wikidata
Galwedigaeth type designer, cyhoeddwr, Tiwtor, typographer, argraffydd, golygydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Alberto III Pio
  • Caterina Pico Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Giovanni Pico della Mirandola, Andrea Torresano Edit this on Wikidata
Priod Maria Torresano Edit this on Wikidata
Plant Paulus Manutius, Marco Manuzio, Antonio Manuzio, Alda Manuzio Edit this on Wikidata
Llofnod
Aldus Manutius anchor and dolphin.jpg

Argraffwr, cyhoeddwr, a theipograffwr Eidalaidd yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Aldus Manutius neu Aldo Manuzio (Teobaldo Manucci; 14496 Chwefror 1515) sydd yn nodedig am sefydlu gwasg Aldina. Cyhoeddodd Manutius nifer o'r argraffiadau cyntaf o glasuron llenyddiaeth Hen Roeg a Lladin.

Ganed yn Bassiano, Taleithiau'r Babaeth, ac astudiodd yn Rhufain ac yn Ferrara. Aeth i Fenis ym 1490 a bu'n cysylltu ag ysgolheigion a chysodwyr Groegaidd. Ym Mawrth 1495 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf a chanddo ddyddiad: Erotemata gan Constantinos Lascaris. Cyhoeddodd pum cyfrol o waith Aristoteles ym 1495–98; eidylau Theocritos a De Aetna gan Pietro Bembo ym 1495; a gweithiau gan Aristoffanes a Poliziano ym 1498. Y llyfr enwocaf a gyhoeddwyd ganddo oedd Hypnerotomachia Poliphili (1499) gan Francesco Colonna, a ddarluniwyd gyda thorluniau pren gan arlunydd anhysbys. Cyhoeddodd argraffiadau o Fyrsil, Juvenalis, Martialis, a Petrarca ym 1501; a Catullus, Lucanus, Thucydides, Soffocles, a Herodotus ym 1502. Yn yr argraffiad hwnnw o Soffocles, sonir y tro cyntaf am Aldina, academi o ysgolheigion a drefnwyd gan Manutius i olygu testunau clasurol er mwyn eu cyhoeddi ar ffurf llyfrau. Ymddangosodd coloffon enwog Aldina, angor a dolffin, am y tro cyntaf yn argraffiad Awst 1502 o La divina commedia gan Dante. O 1503 i 1514, cynhyrchwyd testunau gan Xenophon, Euripides, Homeros, Esop, Platon, Pindar, ac Horas, yn ogystal â Desiderius Erasmus.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Aldus Manutius. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Awst 2020.