Desiderius Erasmus
Desiderius Erasmus | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
28 Hydref 1466 ![]() Rotterdam ![]() |
Bu farw |
Achos: Dysentri ![]() Basel ![]() |
Dinasyddiaeth |
Seventeen Provinces ![]() |
Addysg |
Doethur mewn Diwinyddiaeth ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
cyfieithydd, athronydd, diwinydd, athro, awdur ysgrifau, cyfieithydd o'r Beibl, ysgrifennwr, Lady Margaret's Professor of Divinity, latinist, offeiriad, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am |
The Praise of Folly, A handbook on manners for children ![]() |
Prif ddylanwad |
Epicureanism, Cicero, Giovanni Pico della Mirandola ![]() |
Mudiad |
Renaissance philosophy ![]() |
Roedd Desiderius Erasmus (27 Hydref 1466/1469 - 12 Gorffennaf 1536) yn ddyneiddiwr Gristnogol a llenor o Iseldirwr, a aned yn Rotterdam.
Erasmus oedd efallai'r mwyaf dylanwadol o feddylwyr mawr y Dadeni, nid yn unig am ei feddwl treiddgar ond am ei fod wedi astudio a dysgu ledled Ewrop.
Roedd yn ddyn dysgiedig iawn, yn ysgolhaig penigamp, a chyhoeddodd nifer o lyfrau yn ystod ei oes. Yr enwocaf ohonynt yw yr Encomium Moriae ("Molawd Ffolineb", 1509), a ysgrifennodd er diddanu ei gyfaill Thomas More.
Cyfieithodd y Testament Newydd o'r Roeg, am y tro cyntaf erioed, a dangosodd mai dogfen ail-law oedd y Beibl Fwlgat (cyfieithiad o gyfieithiad).
Gwrthwynebai'n gryf ddogmatiaeth a grym yr offeiriaid ac eto ni wrthododd y ddiwinyddiaeth Gatholig a chadwodd draw o'r ddadl ffyrnig ynghylch dysgeidiaeth Martin Luther.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Colloquia
- Apophthegmatum opus
- Adagia
- Encomium Moriae ("Molawd Ffolineb")