Pietro Bembo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Portread o'r Cardinal Bembo yn ei wisg eglwysig, gan Titian (tua 1540).

Beirniad, ysgolhaig, a bardd Eidalaidd oedd Pietro Bembo (20 Mai 147018 Ionawr 1547)[1] ac hefyd yn gardinal, un o Farchogion yr Ysbyty, ac un o ffigurau blaenllaw y Dadeni Dysg. Fel meistr y delyneg a'r soned Betrarchaidd, Bembo oedd llenor blaenaf yr Eidal yn y 16g ac fe ddalai'r ffyniant llenyddol a sbardunwyd gan Dante, Petrarch, a Boccaccio yn y cyfnod cynt. Yn anad dim, beirniad chwaeth a safonwr y llên genedlaethol ydoedd, a thrwy ei ddylanwad llewyrchodd mudiad y Dadeni ar draws cyfandir Ewrop. Câi barddoniaeth Bembo ei hanwybyddu gan y mwyafrif o feirniaid diweddarach. Serch hynny, roedd yn un o lenorion dyneiddiol a llyswyr dysgedig amlycaf ei oes ac fe gafodd effaith barhaol ar ddatblygiad yr iaith Eidaleg.[2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Llythyr mewn llaw y Cardinal Bembo ar ran y Pab Leo X.

Ganwyd yn Fenis i deulu bonheddig, a chafodd Pietro ei addysg ddyneiddiol gan ei dad Bernardo. Llysgennad dros Weriniaeth Fenis oedd Bernardo, a chrwydrodd y gŵr a'i fab ar draws yr Eidal: Fflorens, Padua, a Messina. Dysgodd Lladin a'r Hen Roeg yn rhugl, a dilynai esiampl ei dad wrth werthfawrogi hefyd yr iaith lafar a llên y gwerin. Mynychodd Pietro llysoedd Ferrara ac Urbino, ac yn Fflorens daeth yn gyfaill i Lorenzo il Magnifico ac yn ffefryn i'r teulu Medici. Symudodd i Rufain ac ym 1513 cafodd ei benodi'n ysgrifennydd a Lladinydd i'r Pab Leo X. Yn sgil marwolaeth Leo X ym 1521, bu Bembo'n ymddeol i Padua. Cymerodd swyddi hanesydd Fenis ym 1529 a llyfrgellydd Eglwys Gadeiriol Sant Marc a dechreuodd ysgrifennu hanes ei ddinas enedigol. Cafodd tri mab gan Rufeines, ond fe beidiodd â'i phriodi gan iddo ofni colli ei fywoliaeth eglwysig. Fe'i benodwyd yn gardinal ym 1539 gan y Pab Pawl III, a dychwelodd felly i Rufain i astudio diwinyddiaeth ac hanes clasurol. Er taw llenyddiaeth yn hytrach na'r eglwys oedd gwir alwedigaeth Pietro, ef oedd un o'r cardinaliaid yn fwyaf tebygol o gymryd swydd y pab.[2] Bu farw yn 1547, yn 76 oed. Cyhoeddwyd ei hanes Fenis, 1487–1513 ar ôl ei farwolaeth (Lladin, 1551; Eidaleg, 1552).

Bembo'r bardd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynnodd Bembo'r llenor drwy gyfansoddi barddoniaeth delynegol yn Lladin, ac hynny mewn mesur caeth o safon uchel. Fe drodd yn hwyrach at iaith lafar Tysgani, gan fabwysiadau cerddi Petrarch yn batrwm i'w waith. Bembo oedd dynwaredwr enwocaf Petrarch, a gelwir yr arfer lenyddol honno yn bembismo.[1] Ysgrifennodd hefyd ymdriniaeth ymddiddanol ar bwnc serch platonig, Gli Asolani (1505), a'i ysbrydolid gan Symposiwm Platon. Honno oedd y rhyddiaith gyntaf yn y Dysganeg gan awdur nad oedd yn hanu o Dysgani.[2] Cyhoeddwyd casgliad o'i delynegion dan y teitl Rime ym 1530.

Bembo'r beirniad a safonwr iaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg taw Prose della volgar lingua (1525; "Rhyddiaith yn iaith y werin") yw'r gramadeg Eidaleg cynharaf. Yn y gwaith hwnnw, gwnai Bembo ddefnydd o'r ymgom wrth gyfundrefnu orgraff a gramadeg yr iaith genedlaethol i osod normau ar gyfer cywair lenyddol Eidaleg ar batrwm barddoniaeth Petrarch a rhyddiaith Boccaccio. Dadleuodd dros sefydlu Tysganeg y 14g – iaith Petrarch – yn sail i'r Eidaleg lenyddol, a chyda nodweddion tafodiaith Fflorens yn enwedig. Nodai'r llyfr hwn drobwynt yn nadl hir yr iaith genedlaethol (questione della lingua).[2] Gwrthwynebai safbwynt Bembo gan y tra-Ladinwyr, ac hefyd y llu o blaid cywair fodernach. Llwyddodd safonau Bembo i ennill y ddadl erbyn diwedd y 16g.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Pietro Bembo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ebrill 2017.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Pietro Bembo, Encyclopedia of World Biography (2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 8 Ebrill 2017.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cian, Vittorio. Un decennio della vita di M. Pietro Bembo, 1521–1531. Twrin: Loescher, 1885.
  • Cian, Vittorio. "Pietro Bembo: Quarantun anno dopo." Giornale storico della letteratura italiana 88 (1926): tt. 225–255.
  • Dionisotti, Carlo. "Pietro Bembo." Dizionario biografico degli Italiani 8 (1966): tt. 133–151.
  • Kidwell, Carol. Pietro Bembo: Lover, Linguist, Cardinal. Montréal: McGill-Queen’s University Press, 2004.
  • Mazzacurati, Giancarlo. "Pietro Bembo." Yn Storia della cultura veneta: Dal primo Quattrocento al Concilio di Trento. Cyfrol 4. Golygwyd gan Gianfranco Folena, tt. 1–59. Fenis: N. Pozza, 1980.
  • Meneghetti, Gildo. La vita avventurosa di Pietro Bembo, umanista, poeta, cortigiano. Fenis: Tipografia commerciale, 1961.
  • Santoro, Mario. Pietro Bembo. Napoli: Alberto Morano, 1937.
  • Vecce, Carlo. "Pietro Bembo." Yn Centuriæ Latinæ: Cent une figures humanistes de la Renaissance aux Lumières offertes à Jacques Chomarat. Golygwyd gan Colette Nativel, tt. 97–107. Travaux d’Humanisme et Renaissance 314. Genefa: Librairie Droz, 1997.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: